Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Merthyr a Thaf
Merthyr dan chwyddwydr

Cyfrol ddiweddaraf Cyfres y Cymoedd yn trafod Cwm Taf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dydd Iau, Tachwedd 1, 2001

Merthyr a Thaf, golygydd Hywel Teifi Edwards. Gwasg Gomer, pris £14.95.
Pedair seren
Adolygiad Gwyn Griffiths

Fel yr awgryma Grahame Davies yn ei erthygl Adennill Tir yn y gyfrol Merthyr a Thaf, gwnaeth ardaloedd diwydiannol Cymru gyfraniad pwysig i barhad yr iaith Gymraeg cyhyd.

Mae'r economegydd Brinley Thomas yn cynnig y ddadl hon hefyd a bu cyfeiriadau ati gan Gwyn Alf Williams a Saunders Lewis yn Tynged yr Iaith yn ogystal.

Mae'r gyfrol ddiweddaraf hon yng Nghyfres y Cymoedd yn dyst arall i fywiogrwydd ac asbri'r bywyd diwylliannol Cymraeg yng Nghwm Taf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn arbennig er bod yma gryn oroesi i'r ugeinfed ganrif.

O Ddowlais a Merthyr i Gaerdydd

Mae ystod y cyfraniadau yn ymestyn o ben Dowlais a Merthyr i Gaerdydd. Wn i ddim a oedd hyn yn fwriad gan y golygydd ond mae nifer y cyfraniadau yn adlewyrchu maint a phwysigrwydd y ddeule yn y ganrif o'r blaen. O ben ucha'r cwm y daw rhan helaethaf y cyfraniadau.

Ceir wyth cyfraniad o ardaloedd Merthyr a Dowlais - dwbwl yr hyn sy'n ymwneud â Chaerdydd. Fel arfer mae Pontypridd - brenhines y bryniau - yn cael ei hesgeuluso gydag ond dau gyfraniad.

O'r pen uchaf, ar y cyfan, y daw'r cyfraniadau mwyaf difyr, hefyd. Ceir traethawd ardderchog gan E. G. Millward - Tref y Brodyr Rhagorol - am fwrlwm gweithgarwch barddol a diwylliannol Merthyr a'r cylch.

Diddorol canfod nad oedd fawr o radicaliaeth sosialaidd yng nghyfansoddiadau'r beirdd er eu bod yn ymateb i'r gweithfeydd a'r bywyd newydd. Rhai'n canmol Crawshay a Guest a'r criw - eraill yn gweld y lle fel uffern fflamgoch. Beirdd yn yfed llwncdestun i'r Goron tra'n cynnal traddodiadau Cerdd Dafod a Cherdd Dant.

Nid nad oedd yna radicaliaid ym mhlith y llu mewnfudwyr o gefn gwlad y gorllewin a'r gogledd. Gwelir hynny ym mhennod Brynley Roberts, Mab ei Dad - Taliesin ab Iolo Morganwg.

Da gweld cynifer o gyfeiriadau at y fferyllydd a'r hanesydd Thomas Stephens, gyda llaw, un arall o wyr disglair Merthyr y tueddir ei anghofio a'i wfftio bellach am mai un o'r amaturiaid brwd oedd e.

Lle am haneswyr
Am le am haneswyr, hefyd. Mwynhad o'r mwyaf oedd darllen cyfraniad Geraint H. Jenkins, Dau Fachan Bêch o Ddowlish - Glanmor Williams a Gwyn Alfred Williams. Dau gymeriad mor wahanol. Glanmor y mab i löwr a fagwyd ar aelwyd Gymraeg, yr hanesydd cytbwys gofalus, y democrat cymdeithasol.

Gwyn o deulu breintiedig, di-Gymraeg, Marcsydd tanbaid yr oedd niwtraliaeth yn anathema iddo. A pham lai - bu gan haneswyr Lloegr erioed eu hagenda fel y dangosodd Brian Davies, ei hun yn un o fyfyrwyr disglair Gwyn yng Nghaer Efrog, yn Archaelology and Ideology (New Welsh Review, Haf 1997).

Clywais ddweud mai yng Nghaer Efrog, yng nghyfnod Gwyn yr oedd yr Adran Hanes Cymru orau yn y byd! Daeth yn ôl i Gymru ac i Gadair Hanes Caerdydd, yn olynydd i Chrimes, Sais rhonc dirmygus o Hanes Cymru. Ond ni lwyddodd i newid yr Adran - mae'r byd academaidd yn fynych yn rhyfeddol adweithiol a styfnig.

O leiaf fe gydnabu byd y cyfryngau fod y gwr a daniodd genedlaethau o fyfyrwyr hefyd yn medru swyno cynulleidfaoedd llawer mwy y teledu. Cafodd fodd i fyw.

Mae traethawd Geraint Jenkins yn bortread o ardal a'i dylanwadau yn gymaint â phortread o ddau dywysog o fyd hanes.

Un arall o ysgolheigion Dowlais oedd Dyfnallt Morgan, bardd Coron Llangefni 1957. Ond gwr a gefnodd ar ei fro er mwyn byw ei fywyd yn y fro Gymraeg. Fel llawer o Gymry'r "gwithe" roedd ganddo gysylltiadau cryf â'r wlad - Llanddewi Brefi yn ei achos e.

Dadansoddiad gwerthfawr

Yn y gyfrol ceir dadansoddiad gwerthfawr gan Heini Gruffudd o bryddest anfuddugol Dyfnallt Morgan, Y Llen. Cerdd yr oedd Saunders Lewis am ei gwobrwyo tra 'roedd T. H. Parry-Williams a J. M. Edwards am goroni ymgais Dilys Cadwaladr.

Ar adeg pan ceir cymaint o drafod a chamfarnu Saunders Lewis - pastwn hwylus i labyddio cenedlaetholdeb - mae'r ffaith ei fod am goroni pryddest Dyfnallt Morgan yn awgrymu fod angen edrych eto ar agweddau Saunders Lewis at y deau diwydiannol. Ceir awgrym i'r un perwyl gan E. Wyn James ar dudalen 124.

Roedd yn ysgytwad darllen yn nhraethawd Heini Gruffudd na chafodd Dyfnallt Morgan yn Ysgol Ramadeg Cyfarthfa "gymaint ag un wers ar hanes Merthyr a'r dref honno mor ganolog o ran datblygiadau diwydiannol a gwleidyddiaeth."

Hanes un arall (eto) o wyr dawnus Dowlais yw cyfraniad clodwiw Rhidian Griffiths, 'Arweinydd trwy ras Duw' - Harry Evans (1873-1914). Cerddor y tro hwn - a chyfle i osod traddodiadau cerdd y fro yn eu cyd-destun.

Nid nad oedd Harry Evans yn wr pur feirniadol o'i gyd-Gymry a'u hymdrechion ym maes y canu corawl.

Cyfraniadau difyr
Difyr iawn yw cyfraniadau E. Wyn James - Golwg ar rai o Gerddi a Baledi Cymraeg Troed-y-rhiw - ac arolwg Huw Walters o Feirdd a Phrydyddion Pontypridd a'r Cylch yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Mae pennod Mr Walters yn arbennig o afieithus.

Yr oedd yn yr ardal feirdd a chymeriadau egsentrig y tu hwnt, ac mae eu cecru a'u helyntion a'r ffraethineb yn hwyliog dros ben.

Ceir cymysgfa digon derbyniol o hanes lleol, atgofion personol a theuluol gan Meic Stephens yn ei bennod Pontypridd: Tref heb Hanes ond Yfflon o Orffennol. Rwy'n amau a wna gyfiawnder â Francis Crawshay - "dyn diog, afradlon ac analluog" - ac yn sicr fe haedda William Price rywbeth gwell nac ambell gyfeiriad hwnt ac yma.

Mewn cyfrol Gymraeg fel hon yr oedd cyfle i roi i William Price ei haeddiant. Gwelais yn ddiweddar raglen deledu amdano ar S4C gyda thri seiciatrydd oedd yn dangos anwybodaeth dost. Nid am seiciatryddiaeth, ond am Price.

Anwybyddu athrylith
Tebyg fod ei dderwyddiaeth garlamus wedi ei wneud yn bwnc rhy astrus i orseddogion parchus ein hoes ni. Dydy hynny ddim yn esgus dros anwybyddu ei athrylith na'i gyfraniad mewn meysydd eraill. Na'r rheswm dros ei gyfeillgarwch gyda Crawshay.

A dyna ni wedi cyrraedd Caerdydd, gyda chwta sôn am Price a'r un cyfeiriad at Daniel Lleufer Thomas.

Mae Y Ddelwedd Gymreig Ddinesig yng Nghaerdydd c. 1885 - 1939 gan yr Athro J. Gwynfor Jones yn draethawd gwybodus, cyforiog o ffeithiau ac enwau a chymdeithasau Cymraeg.

Fel pennod Hywel Teifi Edwards ar Yr Eisteddfod Genedlaethol ym Merthyr Tudful 1881 ac 1901 dyma lond cambo o wybodaeth. Gwych iawn os ydych chi'n mwynhau'r math yma o beth.

Y capel a bywyd y dociau

Mwy difyr yw cyfraniad Dafydd Lloyd Hughes, Caerdydd: a Welais, a Glywais ac a Gofiais. Ysgrif sy'n mynd â ni o'r capel i'r caeau criced a berw bywyd y dociau.

Hoffais ei ddamcaniaeth mai dylanwad y Wenhwyseg yw'r acen Saesneg Cairdiffaidd. Mae'n cofio hen Gymraes oedd yn cadw siop losin ac yn dweud Cerdidd.

Diddorol i Gardi oedd ei gyfeiriad at Syr John Rowland o Dregaron, pennaeth Bwrdd Iechyd Cymru, oedd yn hoff o benodi gwyr a merched o Geredigion, ac yn arbennig o Dregaron, i weithio'n ei staff.

Yn ôl Dafydd Lloyd Hughes enw answyddogol adeilad y Bwrdd Iechyd - cartref y Swyddfa Gymreig bellach - oedd "Tregaron House"!

Dywedodd D. J. Williams Abergwaun wrthyf un tro mai bryd hynny y bathwyd y dywediad bachog, "Gwyn eu Byd y Tregaroniaid …"

Dadansoddiad gwerthfawr
Diddorol a gwerthfawr yw dadansoddiad yr Athro M. Wynn Thomas, o farddoniaeth Alun Llywelyn-Williams, Caethiwed Branwen. Pennod hawdd i'w darllen ar thema eitha cymhleth.

Dylswn gyfeirio, hefyd, at gyfraniad Prys Morgan, Hon ydyw'r Afon, ond nid Hwn yw'r Dwr: Plentyndod ar Lannau Taf. Ysgrif annwyl am fagwraeth yn Radyr a Chaerdydd.

Diolch iddo am ein hatgoffa mai Pentre-poeth yw'r enw Cymraeg am Morganstown - nid yr erthyl Treforgan fel y gwelodd rhywun yn dda i'w gyfieithu yn ein hoes bi-ling ni.

Dyma gyfrol sy'n mynd â ni o ysgolheictod i'r personol, o'r difyr i'r difrifol. Bron bob erthygl ynddo yn werth y pris.


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy