主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Fuse
Barddoniaeth emosiynol a chyfoes

Cagliad cyntaf y bardd a'r dramodydd Patrick Jones.

Dydd Iau, Tachwedd 1, 2001

Fuse. Casgliad o waith Patrick Jones.
Pedair seren
Adolygiad Lewis Roderick

Dwi'n cofio'r eiliad yn berffaith. Mae'n hollol glir yn fy mhen.

Mis Mehefin, 1999, diwrnod agor ein Cynulliad Cenedlaethol. O flaen torf o filoedd, a chynulleidfa o dros filiwn ar y teledu, cerddodd Ioan Gruffudd, Mathew Rhys a chriw o actorion ifanc Cymraeg eraill ar lwyfan yng nghanol Bae Caerdydd ac i gyfeiliant aflonydd y Manic Street Preachers, gweiddi: 'We are, we are, the guerilla tapestry', geiriau bythgofiadwy'r bardd Patrick Jones.

Distawrwydd llwyr
Dwi'n cofio'r distawrwydd llwyr ar 么l iddynt orffen, fel petai pob unigolyn yn y gynulleidfa yn aros i rywun arall dorri'r tawelwch. Mor gyfareddol oedd yr amrantiad.

I'r mwyafrif, hwn oedd eu profiad cyntaf o waith Patrick Jones, dyn sydd wedi treulio rhan fawr o'i fywyd yn ysgrifennu barddoniaeth i ni'r Cymry cyfoes.

Nid barddoniaeth sy'n deyrnged i brydferthwch natur, neu'n atgof o ryw hen ffermdy, ond barddoniaeth sydd 芒'r nerth i sefydlu ei hun yng nghanol ymwybyddiaeth pobl 'real'.

Pobl real sydd yn cael eu heffeithio gan gancr a diweithdra, Kosovo a chyffuriau.

Hiraeth: land of my father what have we done to you

Fuse yw'r casgliad cyntaf o waith Patrick Jones. Dyma ddetholiad o'i farddoniaeth, a'r tro cyntaf i'w ddwy ddrama, Everything Must Go ac Unprotected Sex ymddangos yn yr un llyfr.

Gwaith trawiadol
Pan berfformiwyd y ddwy ddrama, cyfeiriodd nifer at ei bwysigrwydd ac mewn un adolygiad dywedwyd: 'mae gwaith Patrick Jones yn ddigon trawiadol i allu gwneud i'r theatr Gymraeg yr hyn a wnaeth y Manics a Catatonia i gerddoriaeth.'

Mae hyn yn ddigon gwir achos mae gan Jones ddawn i siarad 芒 ni.

Ond hefyd, mae'n treiddio i'r isymwybod. Er bod ei waith ar adegau yn anodd gyda'i ddelweddau arswydus ni all neb wadu nad yw gwaith Jones yn ffyddlon i'r byd cyfoes.

Dangos ei emosiynau

Does dim ofn ar Patrick Jones i ddangos ei emosiynau gan arddangos ei deimladau mwyaf personol dro ar 么l tro. Diferion o emosiwn sydd 芒'r angerdd i ail-anheddu'r hunan yng nghanol enaid y darllenwr.

Mae gan Patrick Jones y gallu i drefnu ei fyd a thrwy hynny wneud synnwyr o'n byd ni.

Fel cyflwyniad i waith Patrick Jones, does dim byd yn well na'r gyfrol hon. Casgliad o dros 40 o'i gerddi pwysicaf, a
dwy ddrama a fydd, mae'n siwr, yn cael eu hystyried fel linchpin dram芒u Cymraeg.

Fuse yw'r llawlyfr i'r byd anhrefnus.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy