主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
O'r Tuduriaid i'r rhyngrwyd

Cyfrol barchus a diddorol yn adrodd hanes y Cymry yn Llundain.

Dydd Iau, Tachwedd 22, 2001

The Welsh in London: 1500 - 2000 cyhoeddiad ar y cyd gan Wasg Prifysgol Cymru ac Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, pris 拢20 (clawr caled), 拢14.99 (clawr meddal).
Pedair seren

Adolygiad Gwyn Griffiths

Er gwaetha'r astudiaethau a'r diddordeb yn y grwpiau ethnig a ymsefydlodd yn Llundain yn ystod yr ugeinfed ganrif ni roddwyd fawr o sylw i'r grwp ethnig hynaf i gyd a ddaeth i'r ddinas ac a fu'n byw ynddi - y Cymry.

Ni wn faint o sylw a rydd y sefydliadau Saesneg i The Welsh in London: 1500 - 2000 a olygwyd - ac a 'sgrifennwyd gan fwyaf - gan Emrys Jones. Yn sicr mae'n haeddu eu sylw. Ond i'r Cymry y mae'n gyfrol ddifyr, darllenadwy, er ei hysgolheictod.

Bellach dywedir mai 80,000 o boblogaeth Llundain a aned yng Nghymru - sy'n nifer bychan o'i gymharu 芒'r niferoedd o India'r Gorllewin, India ac Affrica.

Ysgrifennodd R. T. Jenkins hanes Cymdeithas y Cymmrodorion a'r Gwyneddigion a Chymdeithasau'r Cymreigyddion rhwng 1751 a 1951. A dyna'r unig waith cyffelyb i'r gyfrol hon a gawsom, heblaw am draethawd buddugol Bob Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1947 nas cyhoeddwyd.

Ymdoddi i'r gymdeithas

Roedd y Cymry'n ymdoddi i'r gymdeithas, nid oedd eu harwahanrwydd yn amlwg, ac eto - bron yn ddirgel - roedden nhw'n cynnal eu harwahanrwydd. Rhai ohonyn nhw'n parhau'n Gymry drwy sawl cenhedlaeth.

Dyna Syr John Cecil-Williams, fu'n Ysgrifennydd y Cymmrodorion, oedd yn Gymro Cymraeg o'r drydedd genhedlaeth yn Llundain, ei Gymreictod wedi ei gynnal ar yr aelwyd, y capel ac ar ymweliadau 芒 bro ei gyndadau yng Ngherrigydrudion.

Mae'r gyfrol yn cychwyn gyda phennod am y cyfnod Tuduraidd pan ddaeth nifer sylweddol o Gymry i Lundain i Lys Harri VII.

Cyfnod lliwgar oedd oes y porthmyn a'r merched, "merched y gerddi", oedd yn dod gyda nhw i weithio yn y gerddi llysiau o gwmpas Llundain mewn cyfnodau o dlodi mawr yn Sir Aberteifi. Nodir fod llawer ohonyn nhw o ardal Tregaron.

Pobol yn mynd a dwad
Pobol yn mynd a dwad oedd y rheini fel llawer o'r Cymry proffesiynol, hefyd, y cyfreithwyr a'r meddygon a'r gwleidyddion a arferent ddod i Lundain.

Yn dilyn traddodiad y porthmyn daeth y siopwyr, siopau dillad a siopau bach gyda "w芒c la'th" yn gysylltiedig 芒 nhw. Mae yma ambell j么c dda - amheuthun mewn cyfrol ysgolheigaidd.

Dyna'r cyfeiriad at Hugh Myddleton, â'i wreiddiau yn Nyffryn Clwyd, yn dod 芒 dwr gl芒n i bobol Llundain a'r Cardis yn dod wedyn a rhoi ychydig o laeth arno!

Mae yma lwyth o wybodaeth ddiddorol, pwyntiau bach sy'n cosi chwilfrydedd. Dyna Ysgol Elusennol Gymreig Clerkenwell Green - Llyfrgell Karl Marx bellach - oedd yn derbyn plant i dad neu fam a aned "yng Nghymru, Mynwy neu ym mhlwyfi Croesoswallt, Selatyn neu Lanymynach yn Sir Amwythig". Mae hyn yn rhoi syniad go dda o'r ffin ieithyddol yn 1717.

Gwlad yn llifeirio o laeth
Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd Llundain yn cael ei gweld fel gwlad yn llifeirio o laeth - os nad o f锚l.

Daeth y gwerthwyr llaeth yn amlwg ym mywyd pob dydd Llundain ac yn asgwrn cefn y capeli Cymraeg niferus. Diddorol i flaenoriaid Jewin unwaith fygwth gwrthod bedyddio plant y gwerthwyr llaeth am fod eu rhieni'n gweithio ar y Sul!

O blith y gwerthwyr llaeth y daeth ambell Gymro a fachodd gyfle i ehangu i borfeydd eraill a gwneud ffortiwn. Un ohonyn nhw oedd y miliwnydd Syr David James, yn wreiddiol o Bontrhydfendigaid, a ehangodd i fyd y sinem芒u.

Cyfeirir at Evan Evans o Langeitho a sefydlodd gwmni bysus ac a fu'n faer St Pancreas. Yr wyf bron iawn yn siwr, er na ddywedir hynny yn y llyfr, mai ef oedd y cyntaf i drefnu teithiau i dwristiaid o gwmpas Llundain.

Esgus am sgwrs yn y Gymraeg

Rwy'n cofio ewythr yn mynd 芒 mi i'w garej ar fore Sadwrn ddechrau'r 60au a chyfarfod yr hen batriarch yn ei het silc a'i got 芒 chwt ac wrth ei fodd yn cael esgus am sgwrs yn Gymraeg. Daeth i Lundain yn fachgen ifanc prin iawn ei Saesneg.

Ceir yn y gyfrol gyfeiriad difyr at hysbyseb ganddo yn Y Ddolen yn 1933 yn cynnig taith mewn awyren o Lundain i sioe Llangeitho. Pris 拢5 gan gynnwys pryd o fwyd!

Mewn oes pan fo cyhuddiadau o hiliaeth yn gyffredin iawn, yr oedd y Cymry yn Llundain a'r Saeson yn ddigon cyfeillgar, er gwaethaf ambell gyfeiriad dilornus oddi ar lwyfan y theatrau.

Y Cymry'n dringo i'r swyddi brasaf
Daeth gwrth-Gymreictod i'r brig yng nghyfnod Lloyd George gyda chyfrol T. W. H. Crosland Taffy was a Welshman. Honnai y byddai'r Cymry'n dringo i'r swyddi brasaf ar gorn y Saeson.

Yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel llifodd y Cymry i Lundain yng nghyfnod y dirwasgiad a gwelwyd llif arall wedi'r Ail Ryfel pan heidiodd pobl ifanc yn eu degau o filoedd i fod yn athrawon yn Llundain. Heb s么n am gantorion - dyna'r adeg y llysenwyd Sadler's Wells yn Sadler's Welsh.

Ceir cyfraniad gan Hafina Clwyd sy'n s么n am y cyfnod yma ac am lenorion fel Caradog Prichard, Gwenlyn Parry a Rhydderch Jones.

Mae'n gyfrol sy'n ein tywys o Oes y Tuduriaid i oes SWS a chysylltiadau rhyngrwyd, o Evan Evans y Prydydd Hir i Evan Evans Tours.

Ysgrifennwyd y rhan helaethaf o'r gyfrol gan yr Athro Emeritws Emrys Jones, cyn-Athro Daearyddiaeth y London School of Economics a Llywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.

Cyfraniadau swmpus

O blith y gweddill ceir cyfraniadau swmpus iawn gan W. P. Griffith ar gyfnod y Tuduriaid a Rhidian Griffiths - pennod ardderchog iawn - ar gapeli Cymraeg Llundain. Bu'r capeli'n llawer mwy na mannau i grefydda ynddyn nhw.

Bellach, arafodd y llif i Lundain. Daeth Caerdydd yn dynfa i'r ifanc. Peidiodd Llundain 芒 bod yn gynheiliad cynifer o sefydliadau Cymreig.

Un arwydd o'r dirywiad yw'r modd y collodd Clwb Rygbi y Cymry yn Llundain lawer o'i hen fri. Yn 1971 yr oedd saith o chwaraewyr y clwb ar daith Y Llewod enwocaf i gyd, gan gynnwys y capten John Dawes.

Bellach pan yw chwaraewr rygbi o Gymro yn cyrraedd gorsaf Paddington mae'n debycach o fod ar ei ffordd i ymuno 芒'r Saracens, Wasps neu'r Harlequins na'r Cymry yn Llundain.

Osgoi cyfeirio at ferched lliwgar

Llwyddwyd i osgoi cyfeirio at ambell ferch "liwgar" gyda chysylltiadau Cymreig - Nell Gwyn, Mary Davies a Lucy Walter. Y tair yn gariadon i Charles II.

Parchus ac ysgolheigaidd neu beidio, dyma gyfrol neilltuol o ddifyr a diddorol.


• Oes gennych chi farn am y llyfr hwn?
Ebostiwch ni.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy