主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Stori drasig gan 'fardd o lenor'

Nofel y mis ddaeth yn agos i'r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith eleni.

Dydd Iau, Tachwedd 22, 2001

Y Goeden Wen gan Sonia Edwards.
Nofel y Mis, Tachwedd. Gwasg Gwynedd. Pris: 拢4.95
Pedair Seren

Adolygiad gan Catrin Jones


Dyma nofel newydd gan yr awdures o Ynys M么n, Sonia Edwards. Nofel a ddaeth yn ail agos iawn yng nghystadleuaeth Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Dinbych a'r Cyffiniau eleni.

Enillodd Sonia Edwards y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys M么n 1999 gyda Noson Wen a Phlygain, casgliad o straeon byrion.

Dywedodd un o feirniaid y gystadleuaeth honno, Gerwyn Williams, fod Sonia Edwards yn "Fardd o lenor....un sy'n mwytho geiriau, yn eu synhwyro a'u blysio..."

Mae'r nofel ddiweddaraf, Y Goeden Wen, yn brawf ychwanegol o hynny.

Pob pennod yn stori

Gellid disgrifio'r nofel hon hefyd fel casgliad o straeon byrion gan fod pob pennod yn stori ynddi'i hun gan mai adrodd hanes gwahanol gymeriadau a wneir. Cyfres o gipluniau sydd yma o fywydau'r cymeriadau.

Ond mae un peth yn clymu'r holl gymeriadau ynghyd. Un llinyn cyswllt sy'n graidd i'r nofel a honno yw Nen y prif gymeriad. Mae popeth sy'n digwydd yn ymwneud 芒 Nen er nad yw Nen ei hun yn ymddangos o gwbl yn y nofel.

Ond deuwn i adnabod Nen yn iawn. Rydym yn dod i wybod am ei hofnau, ei gofidiau a'i dyheadau a hynny drwy feddyliau'r cymeriadau eraill. Yr hyn sydd yma felly yw atgofion y rhai sydd agosaf at Nen - fel ei ffrind pennaf, Medi; ei gwr, Gari; ei gariad yntau, Liz, a'i hen fodryb, Sal.

Hefyd deuwn i adnabod Owain, cariad Nen, er nad yw ef ychwaith yn ymddangos yn y nofel ond trwy feddyliau ei wraig Mari ai ffrind pennaf, Viv.

Stori'n datblygu
Mae hyn yn gweithio'n dda gan fod pob cymeriad yn datgelu rhywbeth newydd am Nen, y ferch benfelen sy'n diflannu'n annisgwyl un diwrnod. Yn raddol, wedyn, mae'r darnau yn disgyn i'w lle a'r stori'n datblygu.

Ond nid dyfais er mwyn datgelu elfennau o gymeriad Nen yn unig yw hyn ond hefyd ddull o gyflwyno teimladau'r cymeriadau hyn. Rydym yn dod i wybod eu cyfrinachau dyfnaf. A chan ein bod yn treiddio i'w meddyliau gallwn gydymdeimlo 芒 phob un ohonynt. Rydym yn deall beth sy'n cymell eu gweithredoedd.

Pe baem ni'n dod i wybod amdanynt yn wrthrychol neu drwy lygaid un cymeriad yn unig yna fe fyddem yn sicr o gael ein dylanwadu. Mae'n debyg mai beirniadu cymeriadau fel Gari, sy'n cael perthynas odinebus 芒 Liz fyddem ni; beirniadu Liz, hithau, am feiddio denu gwr priod a thad i'w gwely a beirniadu Mari am feiddio cysgu 芒 ffrind pennaf ei gwr ar noson angladd ei chymar.

Llithro i feddyliau'r cymeriadau
Ond dydyn ni ddim yn beirniadu a hynny am ein bod ni'n llithro i'w meddyliau i gyd ac yn gweld o ganlyniad nad yw popeth yn gwbl ddu a gwyn.

Yn ddiamheuaeth mae Sonia Edwards wedi llwyddo i fynd dan groen ei chymeriadau. Mae pob math o emosiynau'n brigo i'r wyneb a sawl cymeriad yn ymdrechu'n galed i fygu teimladau gwaharddedig.

Ond nid dyma'r unig elfen sy'n gyfrifol am lwyddiant y nofel hon. Mae arddull unigryw Sonia Edwards yn amlygu'i hun yma eto fel yn ei nofel flaenorol. Mae'r ysgrifennu yn gyfoethog ac yn farddonol ar sawl ystyr.

Rhwng pob pennod fe geir rhyw fath o ragarweiniad byr sy'n ein harwain o un bennod i'r llall. Mae arddull y penodau hyn yn brydferth, yn delynegol ac yn darllen fel cerddi.

Byrlymu â delweddau byw
Ceir yma frawddegau byr ac mae gan bob gair ei le. Mae'r darnau hyn yn byrlymu 芒 delweddau byw fel:
"meddai Haul Mehefin tra'n ennill ei blwy' trwy'r craciau-blew-cath mewn awyr-plisgyn-wy" a
"Ac meddai Mis Medi a'i lais yn torri".

Yn y darnau hyn mae gwahanol elfennau o fyd natur yn siarad 芒 Nen. Dechreuir gyda'r bore bach a gorffennir 芒'r nos . Fe'n tywysir drwy ddyddiau braf o haf i noson oer o Fedi. Mae hyn yn creu rhyw syniad o amser ac yn cyd-fynd 芒 datblygiad y stori.

Ond nid yn y penodau hyn yn unig yr amlygir meistrolaeth Sonia Edwards ar iaith. Trwy gydol y nofel ceir delweddau a chymariaethau synhwyrus fel:
"Mi chwyddodd gwyth茂en o olau'r haul dan groen y dydd. Bu'n ddiwrnod llwyd. Jyst clytia' o gwmwl, piso-deryn o law bob hyn-a-hyn yn blorynnod di-ddim hyd wynebau pethau. Tan rwan. Rwan mi oedd rhyw boeri'r gog o haul yn bygwth sirioli pethau..."

Mae'r arddull yn gwbwl naturiol ac yn llifo'n rhwydd yn union fel pe bai'r cymeriadau'n siarad 芒 ni.

Ysgrifennu cynnil
Yn ogystal mae yma ysgrifennu cynnil. Nid yw Sonia Edwards yn gwastraffu geiriau. Awgrymu a wneir yn aml a'n lle ni yw dyfalu beth sy'n digwydd. Amlygir y cynildeb hwn yn niwedd y nofel ac mae hyn yn cynyddu'r ergyd wrth i ni ddod i wybod wedi'r holl ddyfalu beth oedd tynged Nen.

Enghraifft arall o'r cynildeb hwn yw'r bennod fechan yng nghanol y nofel sy'n cynnwys negeseuon ff么n symudol. Prin iawn yw'r geiriau yn y bennod hon a'r hyn a geir yw cyfres o chwe llun o sgr卯n ff么n.

Er hyn cyfl毛ir yn iawn i ni beth sy'n digwydd. Dyma ffordd effeithiol o gyfleu dwyster cariad Nen ac Owain tuag at ei gilydd a'r hiraeth a ddeillia o'r ffaith eu bod nhw ar-wahan.

Nofel, felly, sy'n werth ei darllen. Mae'n llwyddo yn bennaf oherwydd ei saern茂aeth ofalus a dawn Sonia Edwards i lunio cymeriadau credadwy a chreu delweddau byw.
Nofel brydferth sydd yn adrodd stori drasig.


• Oes gennych chi farn am y llyfr hwn? Ebostiwch ni.


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy