主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Oriau o hwyl gyda phowdr arbennig

Cyfle i ail-ymuno â chymeriadau United! mewn llyfr newydd i blant.

Dydd Iau, Tachwedd 29, 2001

Powdr rhech gan Eurig Wyn.
Gwasg y Lolfa. Pris: 拢3.95
Pedair Seren

Adolygiad gan Llion Iwan


Llyfr gwerth chweil i blant ydi Powdr Rhech, lle 'da ni yn ail-ymuno 芒'r ddau arwr, Wayne a Dafydd Bee neu Dingo i'w ffrindiau.

Yma mae'r hogia yn dioddef ar 么l mynd i drwbl yn yr Eidal yn y gyfrol flaenorol, United! Mae nhw wedi eu gwahardd rhag gwylio eu hoff dîm, Man United ac mae eu rhieni'n gorfod eu hebrwng i bob man. Tydi petha ddim yn dechra yn addawol iawn iddyn nhw felly.

Ond yn fuan maen nhw'n chwarae p锚l-droed dros dîm yr ysgol, yn disgyn mewn cariad ac yn dod yn gyfarwydd 芒 phowdr rhech, sy'n rhoi oriau o hwyl iddyn nhw (ac i'r darllenydd hefyd)! A thrwy hyn mae'r ddau arwr wedi neidio o'r badell ffrio i'r t芒n. Ond fe ddaw achubiaeth o gyfeiriad hollol annisgwyl.

Mae'r awdur yn trin y berthynas rhwng y ddau gariad yn gredadwy ac mae yma wers hefyd. Peidio byth 芒 thynnu yn groes i dad cariad!

Y cymeriadau wedi aeddfedu

Gwelwn y cymeriadau yn tyfu i fyny, ac yn aeddfedu hefyd yn raddol. Yn bendant mae nhw wedi datblygu ers i ni eu cyfarfod gyntaf yn United!. Ond does dim angen bod wedi darllen y gyfrol gyntaf i fwynhau na deall y llyfr hwn.

Gan ei fod yn torri ei fol eisiau prynu crys diweddara United, mae Dingo yn meddwl am gynllun i godi arian sef helpu henoed yr ardal a gwneud digon o arian iddo fo a'i ffrind (rhywbeth mae rhieni yn siwr o fod yn annog eu plant eu hunain i wneud wrth i'r crysau gael eu newid bob yn ail flwyddyn).

Trwy iaith lafar gref, gredadwy a syml deuwn i adnabod y cymeriadau a'u dilyn drwy hynt a helynt bywyd ysgol, ac mae rhai o ffugenwau'r athrawon yn taro deuddeg.

Digon yn digwydd
Tasg anodd ydi ysgrifennu ar gyfer plant a chithau yn oedolyn, ond credaf fod Eirug Wyn wedi llwyddo gyda'r gyfrol yma eto. Mae'n stori 芒 digon yn digwydd ynddi drwyddi draw, mae'r disgrifiadau o sefyllfaoedd yn gredadwy ac mae tro annisgwyl iawn yn y gynffon ar y diwedd. Wna i ddim dweud mwy, ond fe wnaeth i mi wibio drwy'r tudalennau olaf.

Cyfrol gwerth chweil, ac er bod perfformiadau United ar y cae y dyddiau yma ddim yn debyg o godi calon yr awdur na'i brif gymeriadau, dyma lyfr y mae plant yn siwr o'i fwynhau. Cefnogwyr United neu beidio!


• Oes gennych chi farn am y llyfr hwn? Ebostiwch ni.


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy