主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


clawr y llyfr
Ar drywydd ysbrydion

Digwyddiadau rhyfedd mewn ty yng Nghymru

Dydd Iau, Rhagfyr 06, 2001

Borley Cymru gan J. Towyn Jones. Cyfres y Gannwyll, golygydd, Lyn Ebenezer. Gwasg Carreg Gwalch. 拢3.99.
Tair seren
Adolygiad gan Glyn Evans.

Rhaid cyfaddef nad oedd y teitl Borley Cymru yn cyfleu dim i mi ar yr olwg gyntaf.

Er, dylai gweld enw J. Towyn Jones ar y clawr awgrymu fod ganddo rywbeth i鈥檞 wneud ag ysbrydion, drychiolaethau a鈥檙 arallfydol.

Y mae鈥檙 gweinidog anghydffurfiol o Sir Benfro yn gasglwr deheuig straeon o鈥檙 fath.

Ty llawn ysbrydion

Erbyn gweld, rheithordy yn Swydd Essex oedd Borley; yn cael ei adnabod fel y ty yn Lloegr gyda鈥檙 mwyaf o ysbrydion ynddo. "The most haunted house in England."

Dydio ddim ar ei draed erbyn hyn. Ond er iddo gael ei losgi鈥檔 ulw "ni ddiffoddodd ei enw drwg . . . a chred rhai fod tipyn mwy yn aros nag arogl mwg lle bu, sef lleian, medd llawer, nad ydyw o鈥檙 byd hwn."

Dyna, felly osod y cefndir. Yn lle, felly, y mae ty cyfatebol yng Nghymru?

Borley Cymru ydi Rheithordy hen eglwys ddiflanedig Paul yn Llanelli.

Digwyddiadau rhyfedd

Agorwyd drysau鈥檙 eglwys fis Rhagfyr 1850 a bu鈥檙 oedfa olaf yng Ngorffennaf 1980.

"Yno," meddai J. Towyn Jones, "gerllaw鈥檙 allor ddrylliedig, halogedig, megis golosg poethoffrwm paganaidd, ymestynnai hen foncyffion duon talsyth nad oedd ond y mwyaf trwchus ohonynt wedi gallu gwrthsefyll t芒n a ysodd organ St Paul yn sgerbwd."

Rhwng y ddau ddyddiad , fodd bynnag, bu digwyddiadau rhyfedd ac od yn gysylltiedig a鈥檙 rheithordy mawreddog ger yr eglwys a denwyd yno yn ei ddydd un o ymchwilwyr blaenllaw y Gymdeithas Ymchwil Seicig, y Parchedig Alfred T. Fryer, y dywed J. Towyn Jones ei fod "yn ymholwr manwl, brwd a diflino".

Ychwanega iddo dibynnu鈥檔 llwyr ar gywirdeb adroddiadau Fryer wrth gywain yr hanes ar gyfer y gyfrol hon.

"Barn Fryer am y tystion oedd eu bod yn gwbl argyhoeddedig fod popeth a honnent wedi digwydd yn bendant, a buasent yn barod i wynebu unrhyw ymchwiliad yn eofn a hyderus," meddai.

Profiad gwraig y rheithior

Adroddodd gwraig y rheithor, D. Morgan Jones, sut y cododd hi i fynd i鈥檙 gegin berfeddion un noson o aeaf yn 1894 a gweld wedi iddi ddychwelyd i fyny鈥檙 grisiau ei gwr yn ei disgwyl ar y landin.

Fodd bynnag, wedi ei gyfarch a mynd i鈥檙 llofft, yr oedd ei gwr yn dal i orwedd ynghwsg yn ei wely heb godi o gwbl yn ei habsenoldeb.

Dyna鈥檙 ddrychiolaeth gyntaf ond bu digwyddiadau rhyfeddol eraill hefyd gyda chloc yn cael ei droi鈥檔 么l mewn un ystafell.

O ddrwg i waeth

Yr oedd y lle yn ddychryn wrth i bethau fynd o ddrwg i waeth.

"Adlewyrchwyd yr aflonyddwch yn y Ficerdy ar ei ganfed gan anfodlonrwydd cynyddol y plwyfolion. Ymgasglai storm o gwmpas y ficer, a honno鈥檔 dduach na鈥檌 gasog, a chynhyrfwyd pwysigion sid锚t a startshlyd i gorffwylltra gwynias. Corddai trobwll o emosiynau yno, ac mae hysteria felly yn beth hunanbarhaol," meddai Towyn Jones mewn arddull sy鈥檔 gymysgedd o鈥檙 pregethwrol a鈥檙 dramatig.

Cyfrol fer o ddim ond 79 tudalen yw hon gyda dyrnaid o luniau du a gwyn perthnasol yn y canol.

Ond mae鈥檔 stori ddiddorol er nad yw arddull yr awdur bob amser yn hwyluso ei dweud.

A thybed na fyddai'r llyfr wedi elwa o well teitl?

• Oes gennych chi farn am y llyfr hwn?
Ebostiwch
ni.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy