主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cloriau
Llond hosan i'r plant

Dewis o lyfrau plant ar gyfer y Nadolig

Dydd Mercher, Rhagfyr 12, 2001

• Adolygiadau gan Eleri Griffiths

Pleser oedd taro golwg dros rai o鈥檙 llyfrau plant newydd sydd allan erbyn y Dolig - a chefais gymorth Alaw, pedair oed, i roi barn llawer mwy perthnasol na f鈥檜n i!

Ceir dewis aruthrol o lyfrau hardd erbyn hyn i lenwi sachau Santa ac yr oedd yn fwynhad i鈥檞 darllen.

• Nadolig Llawen Hipo Bach (Bettina Paterson addas. Elin Meek Gomer, 拢4.95).
Llyfr clawr caled hynod o liwgar gyda llabedi i鈥檞 codi ar bob tudalen.

Mae Hipo bach a鈥檌 gyfeillion, Mali a Bobi, yn brysur yn paratoi at y Nadolig, yn siopa, dewis Coeden Nadolig, coginio a chanu carolau.

Ar 么l danfon cardiau, addurno鈥檙 goeden, chware yn yr eira mae鈥檙 diwrnod mawr yn cyrraedd a phawb yn cael sbort yn agor anrhegion!

Llyfr syml heb arlliw o grefydd ar ei gyfyl, addas i blant lan at bump oed.

• Braf oedd gweld mwy o lyfrau yn ymddangos o鈥檙 gyfres Straeon Plant Bach gan Gwasg Carreg Gwalch. Bellach mae Y Forforwyn Fach, Pinocio, Sinderela a Jac a鈥檙 Goeden Ffa wedi cael ei crynhoi a鈥檜 talfyrru yn yr un modd ag a wnaethpwyd gyda Hugan Fach Goch, Y Tri Mochyn Bach; Pws Esgid Uchel ac Eira Wen.

Maent yn llyfrau bwrdd bach deniadol gyda鈥檙 storiau wedi eu hadrodd yn fyr a syml.

Rhaid eu llongyfarch ar y talfyriad o Pinocio - stori anodd iawn i鈥檞 chrynhoi!

Mae鈥檙 pris hefyd yn rhesymol, 拢2.95 y llyfr ac un o鈥檙 pethau a鈥檓 plesiodd oedd bod modd eu darllen mewn deng munud - delfrydol ar gyfer amser gwely! Addas i鈥檙 rhai dros ddwy neu dair oed.

Clawr Oli Olew• Tipyn o newid cywair oedd llyfr Catrin a Guto Evans, Oli Olew - y diweddaraf yng nghyfres Llyfrau Llawen y Lolfa am 拢4.95.

Mae Oli druan yn cael bywyd diflas braidd mewn hen sied gyda llawer o hen offer eraill yn ffrindiau ac yn elynion iddo, fel Rhisiart Rhwd Drwg.

Cymeriad brawychus braidd yw鈥檙 hen Gwili Gwich am ei fod yn achosi i鈥檞 ffrindiau wichian mewn poen!

Felly, aiff Oli i ffwrdd i鈥檙 byd mawr tu allan i chwilio am gartref newydd a chael llond twll o ofn a sylweddoli bod ei ffrinidiau yn ofalus ohono wedi鈥檙 cwbl!

Lluniau dramatig ac effeithiol a gwerth oleiaf hanner awr o stori mewn Cymraeg graenus, addas i blant dros bump oed (oed darllen, wyth).


Clawr Fi a fy Nghorff• Mae Fi a Fy Nghorff (D MacKinnan, A Sieveking addas. Si芒n Lewis) yn llyfr ffeithiol i blant lan at chwech oed ac yn addas i鈥檞 ddarllen gyda鈥檙 rhai lleiaf hefyd gan ei fod yn llyfr rhyngweithiol gyda chyfarwyddiadau a chwestiynau ar bob tudalen i鈥檙 plant eu hateb a dysgu mwy am eu cyrff eu hunain.

Mae ffotograffau lliw bendigedig gyda delweddau hapus o blant o bob lliw a llun yn gwneud pethau gyda鈥檜 cyrff.
拢4.50 . Gomer.

Clawr• Caneuon Clinc a Chlonc a Chlec - Falyri Jenkins 拢3.95. Lolfa. Bargen o lyfr yw鈥檙 casgliad hyfryd hwn o ddeunaw o ganeuon gwreiddiol ar destunau fel Jac Codi Baw, Ystlum Flewog, Storm, Lori Ludw, Morgrug a Sali Mali....

Mae鈥檙 caneuon yn rhai hawdd eu dilyn gyda thonau syml iawn sy鈥檔 ddi-drafferth i鈥檞 dysgu a cheir tipyn o ailadrodd cwpledi fel bod y rhai lleiaf yn gallu dysgu鈥檙 geiriau.

Nid oes angen gradd mewn cerddoriaeth i ddilyn y cyfeiliant ychwaith!

Byddai鈥檙 llyfr hwn yn ddelfrydol i gylchoedd meithrin, Ti a Fi a rhieni a phlant sy鈥檔 mwynhau canu gyda鈥檜 gilydd.

Clawr• Owain ar y Mynydd gan Malachy Dolyle a Giles Green field addas. Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch) 拢4.50

Mae鈥檙 cyfuniad o stori fwyn ac arlunio dawnus yn fendigedig yn y llyfr hwn ac mi roeddwn i ac Alaw yn gytun mai dyma ein ffefryn o鈥檙 bwndel llyfrau Dolig a gawsom.

Mae鈥檙 stori am Owain yn perswadio ei daid i fynd ag ef i ben y mynydd, a鈥檙 antur sy鈥檔 dilyn yn llawn dirgelwch, hud a syndod.

Mae naws y llyfr yn afaelgar a gellir ymgolli鈥檔 llwyr yn y stori. Ceir portread byw ac annwyl o berthynas Owain a鈥檌 Daid a mae鈥檙 darluniau o olygfeydd dramatig y mynydd yn gyfarwydd i鈥檙 rhai sy鈥檔 adnabod mynyddoedd Cymru!

Erbyn y diwedd mae鈥檙 darllenydd yn ochneidio o flinder a rhyddhad ar 么l concro鈥檙 mynydd mawr a dychwelyd yn ddiogel!

• Nadolig Cae Berllan gan Heather Amery a Stephen Cartwright addas. Emily Huws, Gomer, 拢5.95

Llyfr clawr caled codi llabed yw hwn i blant dros dair oed.

Mae鈥檔 olrhain hanes Mei, Mari a鈥檙 plant Cadi a Jac ar y fferm cyn Dolig.

Rhaid bwydo鈥檙 anifeiliaid, sgwennu llythyrau at Santa, addurno鈥檙 goeden a disgwyl am y diwrnod mawr.

C芒nt hwyl a phleser wrth agor eu anrhegion i gyd a cheir lluniau Nadoligaidd traddodiadol o blant yn yr eira ac ati.

Llyfr ysgafn, lliwgar, hawdd ei ddilyn gyda鈥檙 chwilio am yr hwyaden ar bob tudalen yn b么s bach ychwanegol i blesio鈥檙 plant.

• Oes gennych chi farn am lyfrau plant?
Ebostiwch
ni.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy