Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Plymio i'r gydwybod ddinesig

Dydi rhyddid ddim heb ei llyffetheiriau

Dydd Mercher, Rhagfyr 19, 2001

Cadwyni Rhyddid gan Grahame Davies, Cyhoeddiadau Barddas. £5.50.
Pedair seren
Adolygiad gan Aneirin Karadog

Cefais fy siomi ar yr ochr orau o blymio i’r dyfnderoedd dinesig rhwng y cloriau hyn.

Dyma gyfrol o farddoniaeth sy’n ymylu ar ddeifioldeb ac sy’n llawn o ‘euogrwydd’ mewnol y meddwl dinesig yn ogystal â gwirioneddau am fywyd "ddeuddeng milltir i’r gogledd" yng nghymoedd de Cymru.

Ychwanegwch at hynny, ffraethineb yn gymysg â dawn dweud a doniolwch.

Bom o fardd

Teg dweud fod Grahame Davies yn fom o fardd sy’n aros i ffrwydro ac ennill ei le ymysg pwysigion y byd barddonol.

Ta beth am hynny, ymlaen â ni!

Canolbwyntia’r gyfrol hon ar fywyd yng Nghaerdydd wedi’r refferendwm dros ddatganoli a’r newidiadau a ddaeth yn sgil hyn.

Dengys y bardd inni, fel yr awgryma teitl y gyfrol, fod yna lyffetheiriau am draed rhyddid hyd yn oed.

Yn y gerdd agoriadol, sy’n dwyn yr un teitl â’r gyfrol, crea’r bardd bortread o fywyd dinesig Cymro sy’n byw yng Nghaerdydd drwy gyfeirio at elfennau o fywyd yn y ddinas sydd erbyn hyn yn ystrydebau am ddinasyddion Caerdydd heddiw.

Yn wir am lawer

Gellir dadlau fod Grahame Davies yn cyffredinoli - a bod hynny’n bechod anfaddeuol - ond, eto i gyd, anodd fyddai gwadu fod nifer o’r pethau yn y gerdd hon yn wir am lawer.

Prysuraf i ddweud, hefyd, na ddylai dinasyddion Cymraeg Caerdydd osgoi prynu’r gyfrol hon rhag cael eu lambastio gan Grahame Davies achos nid dyna mae’r bardd yn ei wneud.

Yn ogystal â chyfeirio at Gymry Caerdydd fel "hil y sbectol haul"( yn y gerdd, Rhyddid) dywed nifer o bethau eraill amdanynt yng ngherdd y teitl.

Yn y pennill canlynol, er enghraifft, rhaid cytuno fod yna ronyn o wirionedd am nifer ohonom ac y mae hefyd yn enghraifft dda o ffraethineb a doniolwch Grahame Davies gyda’r ffraethineb hwnnw yn deillio, y tro hwn, o chwarae gyda geiriau:

"Rwyt ti’n gyrru B.M.W; ‘rwyt ti’n teithio’r byd ar iót;
‘rwyt ti’n casglu lluniau Kyffin, sy’n costio kyffin lot;
ond os ehedi ambell dro i siopau’r U.S.A.
ni fentri ddeuddeng milltir ‘lan i Gymoedd llwm y de."

Y trydydd byd

Ochr yn ochr â chyfeiriadau lawer at y cymoedd a lleoedd difreintiedig fel Stâd y Gurnos a Phen-rhys (sydd bellach bron yn wâg), mae aml i gyfeiriad at y trydydd byd hefyd ac at leiafrifoedd ethnig (sy’n creu nifer o gymunedau Caerdydd).

Dyma’r ‘cydwybod’ fel petai sydd gan y dinasyddion swanc.

Mae’r ffaith fod yna gymaint o gyfeiriadau at hil a lliw croen ac ati fel rhyw fath o euogrwydd sy’n plagio’r meddwl dinesig.

Dywed y bardd fod gan y dinasyddion hyn ffrindiau o blith lleiafrifoedd ethnig, fel na all neb eu galw’n hiliol ond bod rhai, er yn adnabod enwogion sy’n byw yn y ddinas, nad ydynt yn gwybod o ba dras y daw eu menyw glanhau.

Peth anodd yw cyfeirio at y trydydd byd heb or-symleiddio a gweld pethau’n ddu a gwyn, fel petai.

Mewn gwirionedd mae’n bwnc cymhleth sy’n galw am ymdriniaeth ddeallusol.

Llwydda Grahame Davies o drwch blewyn - gyda’i ddefnydd o ddychan yn enwedig - i ymdrin â’r pwnc mewn ffordd sydd ddim yn gwneud i bopeth ymddangos yn ddu a gwyn gan arbed ei hun rhag ymddangos yn naïf ac yn elfennol.

Tair Babie anorecsig a wnaed yn y Trydydd Byd,
ac un ohonyn nhw’n ddu, yn brawf o’n heangfrydedd.


A chanfyddais innau fy hunan yn cytuno â llawer iawn o’i safbwyntiau a neges ei gerddi.

Protest yng Nghymru

Er enghraifft, teimlaf yn bersonol fod llai o wmff ac ysbryd protest yn perthyn i’r Gymru newydd, o gymharu â’r degawdau a fu, ers dyfodiad y Cynulliad.

Gallai hynny fod am fod pobl yn gyffredinol hapusach eu byd ac yn gweld llai o angen am gicio dros y tresi.

Ymdrinnir â’r union bwnc hwn yn y soned, Rhy Hwyr.

Teimla’r bardd wacter ystyr bron, wedi iddo ymbaratoi am flynyddoedd "am Benyberth bersonol" a chael ei daflu i’r gell.

Gwêl nad yw ef yn arwr o gwbl ac i Gymru ymryddhau (o ddefnyddio’r term hwnnw yn llac) heb ei help ef.

Gan siarad â Chymru yn uniongyrchol yn ei gerdd, gofyn y bardd:

"Be’ wna’ i ’nawr, a minnau yn y wlad
na thybiais fyth y gwelwn hi’n fy myw?"


Un englyn

O ran crefft a mydr, mae pob cerdd - ar wahân i un - yn gerddi rhydd.

Mae un englyn digon derbyniol ar y testun ysgafn o gondoms (yr ysgafnder yn amrywio o gondom i gondom, wrth gwrs!).

Efallai y gwelwn y bardd yn ymhél ymhellach â cherdd dafod yn y dyfodol ond ar hyn o bryd mae’n disgleirio wrth ganu’n delynegol yn ogystal ag yn y mesur penrydd..

Mae ganddo afael sicr ar fesur y soned hefyd.

Cywrain i'r glust

Ond fel pob bardd gwerth ei halen, mae Grahame Davies yn ymwybodol iawn o swn geiriau gyda sawl llinell gywrain-i’r-glust yn britho’r gyfrol.

Er enghraifft, ceir yn y gerdd Rhinwedd, (sy’n ymdrin â hiliaeth) dair llinell hudolus o ran sain a dwys o ran ystyr.

Unwaith eto, cyfeiria’r llinellau hyn at drafferthion yn y Trydydd Byd.
"y llygaid llwglyd yn syllu i’r lens,
y llwyni’n llosgi i ad-dalu’n llog,
y ffoaduriaid yn ffoi rhag ein ffrwydron"


Mae’r gyfrol hon yn cynnwys hefyd ymdrechion anarobryn gan y bardd yng nghystadleuaeth y goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Y Golau yn y Gwyll (Eisteddfod Môn – 1999) a Rhyddid a sicrhaodd yr ail le i Grahame Davies yn eisteddfod Bro Ogwr, y tu ôl i’r prifardd Emyr Lewis.

Cyfle felly i’r anoracs eisteddfodol (heb enwi neb!) roi darn arall o’r jig-so ffugenwol-gyfrinachol yn ei le a rhoi wyneb i ambell i ffugenw yng nghystadlaethau’r gorffennol.

Ar sail y gyfrol hon rhagwelaf y bardd hwn - bydded yn y dyfodol agos neu yn y dyfodol pell - yn codi ar ganiad y corn gwlad a gwên haeddiannol ar ei wyneb dan ei goron.

yn awr i Holi Awdur

• Oes gennych chi farn am y llyfr hwn?
Ebostiwch
ni.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy