主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Lle braf

Tro trwy Iwerddon ramantus gyda chriw o Gymry

Dydd Iau, Rhagfyr 20, 2001

Profiadau Gwyddelig. Golygydd, William Owen. Deuddeg tudalen o luniau du a gwyn. Gwasg Carreg Gwalch. 拢5.50.
pedair seren
Adolygiad gan Glyn Evans.

Ar gychwyn y gyfrol hon o ysgrifau am Iwerddon y mae鈥檙 golygydd, William Owen, yn aralleirio yr hen ddywediad fod gan bob dyn ddwy wlad; ei wlad ei hun - a Ffrainc.

Yn 么l William Owen, fodd bynnag, byddai鈥檔 gywirach dweud am y Cymro mai ei ddwy wlad ef yw Cymru, ei wlad ei hun, ac Iwerddon.

Y mae gennym, meddai, "gryn feddwl o鈥檔 cefndryd Gwyddelig . . . dirfawr barch tuag atynt . . . ac eiddigedd."

Mi fyddwn i鈥檔 mynd gam ymhellach a dweud nad Iwerddon fel y cyfryw ydi ail wlad y Cymro ond rhyw syniad rhamantus sydd gennym o Iwerddon.

Mae鈥檙 gyfrol Profiadau Gwyddelig yn atgyfnerthu鈥檙 gosodiad hwnnw.

Canmol a delfrydu

Heb eithriad canmol, dyrchafu a delfrydu y mae鈥檙 cyfranwyr oll - Orig Williams, Phil Mostert, Mared Owen, Myrddin ap Dafydd, Angharad Tomos, Bethan Jones Parry, William Owen, Wil Sam ac Arthur Thomas.

Ac fel sawl un arall ohonom fe gawso nhw brofiadau cofiadwy o hyfryd ar yr Ynys Werdd gan ddod dan hud darlun sy鈥檔 ymylu ar fod yn ystrydebol yn ei ramanteiddio.

A鈥檙 gwir amdani, wrth gwrs, yw fod yr ystrydebol Wyddelig yn rhan o fyw bob dydd yn Iwerddon ac y mae pethau yn digwydd i ddyn yn Iwerddon na ellir eu dychmygu yn digwydd unrhyw le arall.

Y mae鈥檙 Gwyddel yn hael a chynnes ei groeso, y mae yna rhyw ogwydd gwahanol i鈥檞 resymeg a rhyw siamp锚n yn ei eirio cam.

Pob math o hanesion

Amhosib ymweld 芒鈥檙 ynys heb ddychwelyd gyda hanesyn am ryw ddigwyddiad gwahanol neu ogleisiol.

Gofyn y ffordd i ddyn ar y stryd yn Galway a hwnnw鈥檔 dweud, "Mae鈥檙 car wedi ei barcio fan acw, dowch," a fy ngyrru鈥檔 unswydd at garreg drws lle鈥檙 oeddwn eisiau mynd.

Ac yr ydym oll yn gwybod am rywun a aeth i dy tafarn a gofyn "Pa bryd da chi鈥檔 cau?" a chael yr ateb, "Rhywdro tua diwedd mis Medi."

Ac mae hi yn wir i rywun fynd i dafarn, gofyn am ddiod a chael ei wrthod oherwydd nad yw鈥檙 bar ar fynd nes bydd yr awr Gysegredig drosodd.

"Ydio鈥檔 iawn imi ista yma i ddisgwyl 鈥檛a?" ydi cwestiwn nesaf y darpar gwsmer.

"Ydi鈥檔 tad," atebir gan ychwanegu. " A fasa chi鈥檔 hoffi diferyn tra da chi鈥檔 disgwyl?"

Gweddi'r ferch

Mae鈥檙 Iwerddon braf hon yn brothio drwy ddalennau Profiadau Gwyddelig gan gynnwys cyfraniad (braidd yn rhy faith) Phil Mostret, Hwyl a Hiwmor yn Iwerddon.

Fel sawl un o鈥檌 flaen dydi o ddim yn swil o son am y weddi fenywaidd fendigedig honno - a glywodd yn McHugh鈥檚 yn Claregalway;

"Holy Mary, mother of God, you who conceived without sinning, help me to sin without conceiving."

Y mae o hefyd yn un o鈥檙 degau a gafodd yr ateb, pan holodd rywun a oedd o鈥檔 briod neu beidio; "I鈥檓 thinking about thinking about it."

Mi fydda i wrth fy modd efo straeon o鈥檙 fath a doedd o ddim syndod o gwbl imi gael fy hun yn ymgolli鈥檔 llwyr yn y gyfrol fach hon.

Perfformiad arbennig

Wil Sam yn son sut y perfformiwyd A Taste of Honey mewn theatr yn unswydd ar ei gyfer ef a phum cyfaill. Yn lle arall ond Dulyn, hola, y digwyddai peth felly - dinas sydd, meddai "yn siarad drama" dim ond i rywun fod a鈥檌 glustiau yn agored.

Hawdd anghofio rhwng dalennau鈥檙 gyfrol hon fod yna, yn anffodus, Ddulyn arall hefyd a dydi honno ddim yn cael ei chrybwyll yn y gyfrol hon.

Dulyn y slyms ac isfyd y cyffuriau a barwniaid herfeiddiol y drygiau yn ymddangos ar adegau eu bod yn drech na deddf gwlad.

Yn y Ddulyn hon y saethwyd mewn gwaed oer yn ei char, tra鈥檔 sefyll wrth oleuadau traffig, y newyddiadurwraig ifanc a mam i blentyn pumlwydd oed, Veronica Guerin, oherwydd ei bod yn cyhoeddi gormod o wirioneddau.

A鈥檙 saethwr wedyn yn diflannu ar ei fotobeic ymhlith traffig prysur hwylio a鈥檙 gwaith.

Ac y mae hyn hefyd yn rhan o ddirgelwch Iwerddon.

Yn rhan o ddryswch Iwerddon - fod gwlad sydd ar un wedd mor addfwyn, croesawgar a difalais ei phobl yn gallu esgor hefyd ar fryntni annynol sydd y tu draw i ddychryn.

Ceir rhywfaint o naws hynny yn nisgrifiad Mared Owen o鈥檌 hymweliad 芒 Belfast. Mae Orig Williams, y gorau o gyfranwyr y gyfrol ddywedwn i, yn rhyw gyffwrdd 芒鈥檙 peth hefyd.

"A鈥檙 bobl glenia dwi wedi鈥檜 cyfarfod ydi Gwyddelod Chwe Sir y Gogledd," medda fo. "Y rhyfeddod mwyaf i mi ydi nad ydi鈥檙 bobol yma yn medru cyd-fyw gyda鈥檌 gilydd."

Ond, yn ffodus iddyn nhw, profiadau braf a gafodd y rhai sy鈥檔 rhannu eu profiadau yn y gyfrol hon a dydw i ddim am edliw hynny iddyn nhw ac o鈥檌 derbyn am yr hyn yw, mae鈥檔 gyfrol y mae鈥檔 bleser troi ati.

Gwaith y golygydd

Allai ddim peidio 芒 thynnu sylw fodd bynnag at y ffordd od y dewisodd y golygydd gyflwyno yr ysgrifau - gydag enw pob awdur ar ddiwedd pob ysgrif yn hytrach nag ar ben ei dalen gyntaf islaw y teitl.

Penderfyniad a鈥檓 gwylltiodd i fwy nag unwaith wrth droi鈥檙 dalennau i鈥檙 diwedd i ganfod pwy oedd wedi sgrifennu beth oeddwn i鈥檔 ei ddarllen ar y pryd.

Ac er bod nifer o鈥檙 awduron yn adnabyddus imi byddai wedi bod yn braf cael bywgraffiad byr o bob un yng nghefn y gyfrol yn ychwanegol at y disgrifiad cwta ohonyn nhw yn y rhagair.

Ni allaf beidio 芒 sylwi hefyd i鈥檙 golygydd fod yn llai na chydwybodol wrth ddarllen drwy鈥檙 cyfraniadau a dderbyniodd a gadel i nifer o f芒n wallau syrthio drwy鈥檙 gogor -manion bethau, yn wir, fel pan mae yn hytrach na pam yw neu pam fo.

Mae鈥檔 rhan o waith golygydd i amddiffyn cyfranwyr rhag y brychau m芒n pe bai ond i gau cegau adolygwyr piwis.

• Oes gennych chi farn am y llyfr hwn?
Ebostiwch
ni.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy