Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Cyfrol sy'n sgorio!

Cyfrol wych i fynd gyda chyfres deledu am bêl-droed

Dydd Iau, Ionawr 30, 2002

Sgorio. Golygydd, Emyr Davies. Nant/Y Lolfa ac S4C. £4.95, rhyfeddol o resymol
pedair seren
Adolygiad gan Gwyn Griffiths

Cyfrol ysblennydd ei gwedd a difyr ei deunydd darllen yw Sgorio - fe wna anrheg iawn i’r gwr neu’r cariad, sydd ddim yn rhy llengar ond yn dwli ar bêl-droed.

Dweud y gwir, ’dyw’r deunydd darllen ddim yn ffôl o gwbl.

Diddorol cofio cychwyn y rhaglen deledu o’r un enw.

Er bod tipyn o amheuaeth ymhlith pwysigion S4C a fyddai rhaglen o uchafbwyntiau gemau pêl-droed yr Eidal a Sbaen yn cydio onid oedd Mark Hughes yn chwarae yn Barcelona, Ian Rush yn Juventus a John Toshack yn hyfforddi Real Sociedad?

Felly yr oedd yn werth rhoi cynnig arni - mewn cyfnod pan nad oedd llawer o bêl-droed ar y teledu beth bynnag. Dim, mewn gwirionedd, pan ddechreuodd Sgorio.

Syniad a gydiodd

Cafodd pobol S4C haint pan ddaeth Sparky a Rushie adref cyn i’r gyfres gychwyn. Ond, er mor anodd credu hynny, Sgorio oedd yr unig raglen bêl-droed ar deledu ym Mhrydain am y mis cyntaf pan ddechreuodd y gyfres.

Beth bynnag, fe gydiodd y syniad. Rwy’n cofio mynd i fwyty Eidalaidd yng Nghaerdydd a’r perchennog yn ein clywed yn siarad Cymraeg. "Sgorio," gwaeddodd. Yr unig air Cymraeg a wyddai.

Mwynhad Rush

Roedd chwaraewyr Lerpwl ac Everton yn wylwyr cyson ac y mae Arthur Emyr, mewn cyfweliad difyr iawn, yn dweud i’r Sun ddyfynnu Ian Rush gan ddweud ei fod yn "mwynhau’r iaith a’r gystrawen".

Mae portreadau o chwaraewyr yma - Raul Gonzalez, Rivaldo, y rheolwr John Toshack, y chwaraewr a’r rheolwr Mark Hughes.

Mae'r portread o Tosh yn un cynnes a dadlennol.

Ef oedd yr ieuengaf erioed i chwarae i Gaerdydd, gyda llaw ac yn Gymro i’r carn o hyd. "No soy Inglese soy Galese," fel y bydd yn atgoffa newyddiadurwyr sy’n ei alw’n Sais.

Ond os setlodd Tosh yn hapus dramor, nid felly Mark Hughes yn Barcelona. Chwaraewr ffrwydrol ar y cae, cymeriad mewnblyg a thawel oddi arno.

"Cymro ifanc dryslyd nad oedd yn dymuno bod yno beth bynnag."

Mae’r bennod ar elyniaeth - a gwleidyddiaeth - Barcelona a Real Madrid werth ei darllen.

Y cawr tyner

Mae pennod gan Morgan Jones ar y mwyaf ohonynt oll - "Il buono gigante" - John Charles, y cawr tyner; hanes blwyddyn Ian Rush yn Juventus; stori ryfeddol Gorgio Chinaglia, a fagwyd yng Nghaerdydd, a chwaraeodd i Lazio a’r Eidal ac sy’n berchen ei sianel deledu leol ei hun.

Emyr Davies, y golygyddSut collodd Cymru hwnna?

Mae Bayern Munich a’r Bundesliga yma …

Ar y diwedd mae pennod Y Carwyr - secs, meddwn innau. Ond na. Storïau doniol y rhai fyddai’n mynd trosodd i Madrid i ’nôl tapiau gemau’r Primera, i Rufain am dapiau y Serie A a Munich ar gyfer y Bundesliga.

Gyda llaw, cludwyr neu cariwyr hyd yn oed - nid carwyr. Wedi dweud hynny mae’n gyfrol secsi a hwyliog.

• Holi Emyr Davies -

Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill?

Ebostiwch
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy