Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


J. W. Jones
Y dyn a welodd ei hun yn Y Drych

Pen-blwydd newyddiadurwr y codwyd cofgolofn iddo!

Dydd Gwener, Ionawr 11, 2002

Ar gyfer Ionawr 11, ganrif a thri chwarter o yn ôl, ganwyd yn Llanaelhaearn, un o wyr amlwg y genedl a fu’n olygydd Y Drych yn Efrog Newydd am 32 mlynedd.

Mab fferm Bryn Bychan oedd John William Jones.

Fferm Bryn BychanYr oedd ei dad, William, yn flaenor gyda’r Methodistiaid. Bu ei daid yn glochydd Eglwys Llanaelhaearn.

Diau nad oedd bywyd yn hawdd ym mlynyddoedd ieuenctid J.W., cyfnod y pedwar degau newynllyd.

Mae hanes amdano yn ffair pentymor Pwllheli yn cael ei gyflogi yn was fferm yn Hendrefeinws heb fod nepell o’i gartref.

Yna, symudodd y teulu i Ty’n Llwyn, Llanllyfni, lle y credir i’r tad gadw ysgol.

Mor galed y dyddiau hyn yn y pedwardegau yr oedd ymfudwyr yn gadael y wlad wrth y miloedd i’r Merica.

Cefnodd deng mil ar hugain ar yr hen wlad erbyn 1850.

Yn ei ddyddlyfr Saesneg am fis Mehefin 1844 dywed Eben Fardd i John Jones, Talysarn, ddweud pan alwodd am baned o de ei fod o’n bwriadu mynd a miloedd o’i gyd-wladwyr i’w ganlyn i’r America.

Nid felly y er bod 1,200 wedi cyrraedd talaith Wisconsin, mewn deng mlynedd.

Talaith Wisconsin oedd y lle…"I Americ y moriaf - ac ansawdd Wisconsin a brofaf" oedd dyhead un bardd.

Am yno hefyd yr aeth y teulu bach o Lanaelhaearn ac yn llanc deunaw oed llafuriodd J.W. ar ffermydd y Racine, ger Chicago.

Bu hefyd yn saer dodrefn gan barhau i’w ddiwyllio’i hun, a chael rywfaint o addysg yn Ysgol Clinton yn Utica, gogledd Efrog Newydd, cyn cadw ysgol ei hunan yn dysgu Rhifyddeg, ei hoff bwnc er yn ieuainc.

Ond ar ysgrifennu roedd ei fryd a dechreuodd gyfrannu i’r papur newydd Americanaidd, Y Drych, oedd yn mynd drwy gyfnod braidd yn drafferthus yn ymwneud â pherchnogaeth a hefyd ei agwedd at y Rhyfel Cartref.

Nifer o Gymry amgylch Efrog Newydd oedd yn ei redeg ar y pryd, y rhan fwyaf ohonynt yn Jonesiaid, a chylchrediad y papur yn agos i dair mil.

Un o’r rhai amlwg a achubodd y papur ar ran y cwmni ar y pryd oedd William B. Jones, o Gaergybi, oedd wedi ei sefydlu ei hun mewn busnes llwyddiannus yn Efrog Newydd.

Ond digon ansefydlog oedd pethau pan ddewiswyd J.W. Jones, yn olygydd yn 1852 ac er bod yna bapur newydd arall, Y Gwyliedydd Americanaidd, yn cystadlu yn erbyn Y Drych gwelodd J.W. Jones, yn dda i gyd-olygu Y Drych a’r Gwyliedydd.

Ond yn gynnar yn 1858 prynodd J.W. y ddau bapur a defnyddio yr enw gwreiddiol Y Drych. Gwelodd ei bod yn well iddo ef ei hunan fod yn gyfrifol am y papur yn hytrach na bod nifer o bobl gyda gwahanol farnau ynglyn â’r cyhoeddiad, a thalu i olygydd.

Os am fanylion holl daith Y Drych am ganrif a hanner, rhaid cyfeirio at lyfr diweddar Aled Jones, a Bill Jones, - Welsh Reflections, Y Drych & America 1851-2001 - y ddau awdur o brifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd.

Cyfrol werthfawr gydag 80 o luniau a’r cynnwys yn waith ymchwil canmoladwy a thrwyadl.

Dyma gyfieithiad o un cyfeiriad at John William Jones.
"Yr oedd yn newyddiadurwr galluog, llym, a’i golofnau golygyddol bob amser yn gryf, ysgubol a nerthol. Ef oedd un o’r ysgrifenwyr mwyaf galluog a welodd y papur. Medrodd ymestyn ei gynnwys drwy ei erthyglau ar deithio, Gwyddoniaeth a Seryddiaeth. Gadawodd ei farc ar arddull y papur ac fel cefnogwr cryf i fudiad Dirwest, a hefyd ar agweddau gwleidyddol y Mudiad Gweriniaethol.

Pan fyddai pethau’n anodd arno yn ei gyfrifoldebau newyddiadurol, roedd galw mawr amdano fel darlithydd ar ei hoff destunau fel seryddiaeth, ymfudo, pynciau dyrys fel gwleidyddiaeth y dydd, a hanes ei deithiau.

Un o’r teithiau fyddai ei aml ymweliadau â’r hen wlad.

Y DrychI gofio cenedlgarwr a gwr arbennig, gwelodd cymry Utica yn dda ofalu fod lle i’w goffadwriaeth ym mynwent Forest Hill a chodi cofgolofn drwy danysgrifiadau chwechant o’i edmygwyr.

Cofgolofn eithriadol yn mesur deg troedfedd o uchder ac yn pwyso yn agos at bum tunnell.

Ond pwy oedd y bardd a luniodd y deyrnged a gerfiwyd ar y golofn, a newid y John i Ioan, a chanu fel hyn amdano?
Ioan, oedd esgud hunan addysgydd -
Heb hawl golegawl bu’n deg olygydd,
Cawr oedd o anian, cywir wyddonydd,
A’i enw oesa fel gwir hanesydd,
Hael ei ddawn oleua ei ddydd-llenyddiaeth
Ac i weriniaeth bu’n gu arweinydd.

Mwy am

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy