Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Trwy lygaid Ron

Lluniau o Gymru yn ei holl agweddau

Dydd Iau, Chwefror 21, 2002

Byd Ron - Ron's World gan Ron Davies. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. £17.

Pedair seren
Y mae yna rywbeth yn gwbl arbennig ynglyn â lluniau Ron Davies ac nid afradloni gyda geiriau y mae rhywun wrth ddefnyddio’r gair unigryw i ddisgrifio ei gyfraniad.

Ron DaviesNid yn unig y mae lluniau Ron yn arbennig ac yn hynod ond y mae’r tynnwr lluniau ei hun hefyd yn berson sy’n destun edmygedd.

Ar y ddau gyfrif yna, dydio’n rhyfedd yn y byd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru benderfynu dathlu pen-blwydd Ron yn 80 gydag arddangosfa arbennig a llond llyfr arall o’i luniau, Byd Ron - Ron’s World.

Mewn rhagymadrodd i’r llyfr y mae Alistair Crawford yn sôn sut y cyneuwyd diddordeb y crwt wyth oed o Aberaeron mewn tynnu lluniau.

Yr oed hwnnw, ac yntau’n rhedeg negeseuon i Evan John Thomas, y Fferyllydd yn Aberaeron, swynwyd Ron Davies gan wyrth yr ystafell dywyll.

Dros y blynyddoedd daeth tynnu lluniau nid yn unig yn bleser iddo ond yn gynhaliaeth hefyd - ac y mae hynny ynddo’i hun yn destun rhywfaint o ryfeddod - ac edmygedd.

Dechreuodd Ron Davies ei yrfa yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan ddatblygodd o fod yn ffotograffydd rhyfel answyddogol i fod yn gofnodwr ffotograffig swyddogol i’r fyddin yn y Dwyrain Pell.

Er iddo fynd drwy’r fyddin heb anaf o gwbl wedi iddo ddychwelyd adref i Gymru fe’i parlyswyd o’i ganol i lawr yn dilyn damwain beic modur yn 1950.

Ers hynny, bu’n gaeth i gadair olwyn - er dydi’r gair caeth ddim yn gweddu o gwbl i rywun fel Ron achos yr un peth na wnaeth y ddamwain i Ron oedd ei gaethiwo.

Y mae ei ddycnwch a’i ymroddiad personol yn destun edmygedd inni i gyd.

Un o'i luniauCafodd ei dynnu i faes tynnu lluniau ar gyfer papurau newydd pan ddigwyddodd tri o staff Y Cymro - Geoff Mathews, Dyfed Evans a Robin Griffith - ddigwydd galw yng nghartref Ron ar eu ffordd o’r gogledd i’r de.

"Yr oedd hyn yn fuan wedi’r ddamwain a Ron braidd yn isel ei ysbryd - ond allem ni ddim peidio a sylwi ar ansawdd ac arbenigedd y lluniau oedd ar wal ei ystafell dywyll," meddai Geoff felly dyma ni’n cynnig gwaith iddo fo efo’r Cymro."

Dros y blynyddoedd tynnodd Ron gannoedd o luniau nid yn unig i’r papur hwnnw ond i bapurau eraill fel y Western Mail gan gofnodi a dehongli Cymru yn ei holl agweddau.

Adlewyrchir eangder ac amrywiaeth ei ganfas yn Byd Ron - y llyfr a’r arddangosfa - sy’n cynnwys nifer o’r lluniau mwyaf cofiadwy , i gyd wedi eu tynnu unai o sedd gyrrwr car neu o gadair olwyn gan roi iddyn nhw eu persbectif arbennig eu luniau.

O’i gyfnod cynnar pan ddatblygodd ei gariad at a’i ddiddordeb ym mywyd gwyllt Cymru a’i gwerin bobl mae enw Ron Davies wedi bod yn gysylltiedig â darluniau trawiadol o fywyd y wlad, yn enwedig cymdeithasau cymoedd glo y De a bywyd cefn gwlad Ceredigion.

Perthyn bob amser rhyw rin arbennig i’w luniau agos o wynebau pobl - weithiau’n rhychog ac yn llawn cymeriad ac olion bywyd.

Llun arall"Mae Byd Ron yn dathlu gyrfa sy’n cwmpasu 55 mlynedd o waith. Mae’n cynnwys lluniau prydferth o fywyd pobl yr India a Kashmir, a hefyd cymdeithasau Cymreig sydd bellach bron wedi diflannu, fel byd y colier, ac amaethwyr a chwryglwyr Ceredigion.

"Mae cynnal arddangosfa Byd Ron yn ddigwyddiad pwysig i’r Llyfrgell Genedlaethol a hefyd i bobl Ceredigion yn arbennig," meddai Michael Francis, Pennaeth Rhaglenni Cyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Wrth iddo sôn am ei waith ac am yr arddangosfa, daw’n amlwg fod gan Ron ei hoff luniau.

"Mae’r llun o’r ceffyl yn chwerthin yn dod i’r meddwl," meddai.

"Roeddwn i newydd ddod nôl o’r ysbyty yn Southport lle bues i am dair blynedd wedi’r ddamwain, a dyma bois Y Cymro yn gofyn i mi dynnu lluniau o Hufenfa Felinfach.

"Dyna pryd y gwelais i’r ceffyl. Cefais fy ngorfodi ganddyn nhw i fynd nôl i weithio, ac rwy’n ddiolchgar iddyn nhw am hynny. Mae ’na luniau hefyd o frawd a chwaer yn Kashmir ac wrth weld y lluniau ar y teledu am y rhyfel sydd yno, mae’r lluniau yna’n atgoffa fi o’r cyfnod hynny yn y 40au," meddai Ron.
Byd Ron - Ron’s World gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, pris £17.50.
Byd Ron – Oriel Gregynog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Tan Mai 4. Mynediad am ddim.

Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill? Ebostiwch

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy