主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Hanes Dewi

Cyfuniad o ffeithiau, dychymyg - a chwaeth

Dydd Iau, Chwefror 28, 2002

Dewi Sant gan Rhiannon Ifans. Lluniau gan Margaret Jones, 96 tt, Y Lolfa 拢5.95.

pum seren

Adolygiad gan Grahame Davies


Fe glywsoch yr hanes, nawr prynwch y llyfr.

Geni  DewiMae'n rhyfedd bod Cymru yn dathlu gwyl ei nawddsant gyda chymaint o frwdfrydedd, ac eto bod prinder llyfrau modern atyniadol i bobl ifanc am fywyd Dewi Sant ei hun.

Wel, ni ellir cwyno am hynny bellach, gyda chyhoeddi Dewi Sant gan Rhiannon Ifans (Y Lolfa, 拢5.95).

Testun bywiog

Dyma gyfrol glawr-caled deniadol a lliwgar sydd yn cyfuno dylunio trawiadol a safonol gyda thestun bywiog ac awdurdodol.

Mae'r llyfr ar ei ennill yn fawr drwy awduraeth Rhiannon Ifans ei hun, a hithau, wrth gwrs, yn arbenigwraig ym maes llenyddiaeth y cyfnod.

Peth braf oedd y rhagymadrodd a esboniodd yn onest ac yn syml sut y tyfodd y chwedlau am Dewi, ac mai chwedlau ydynt ac nid hanes gwrthrychol.

"Oherwydd ei fod yn ddyn mor wych fe dyfodd llawer o draddodiadau amdano ar 么l iddo farw. Straeon o glod yw'r rhain i gyd. Nid oedd pobl ers talwm yn hidio dim a oedd y straeon yn llythrennol wir ai peidio.

"Ond roedd yn bwysig iawn iddynt fod yr hyn a oedd yn cael ei ddweud am Dewi yn ardderchog, yn arwrol, ac yn gyson 芒'r cof melys amdano."

Dyna ddiffinio mewn modd clodwiw iawn berthynas yr hanesion gyda'r digwyddiadau hanesyddol a chyda dyheadau ac amcanion edmygwyr Dewi.

Ffrwyth dychymyg

Wedi esbonio, felly, mai ffrwyth dychymyg yw'r rhan fwyaf o'r stor茂au am Dewi, dyna fynd ati wedyn i'w hail-greu mewn modd gafaelgar a naturiol, gan roi cefndir, cymhellion a bywyd i'r cymeriadau a chan lenwi'r darlun gydag ambell fanylyn naturiol:

"Roedd yr eglwys yn dywyll wrth iddi fynd i mewn o'r haul llachar."

Soniais am onestrwydd Rhiannon Ifans yn trin y dystiolaeth hanesyddol, ac fe geir yr un onestrwydd ganddi pan eir i'r afael ag agweddau llai derbyniol y cyfnod hefyd, megis pan sonnir am sut y mae'r pennaeth, Sant, sef tad Dewi, yn ei dadogi ar Non drwy drais.

"Aeth Sant am dro drwy wlad Dyfed un diwrnod. Yno fe welodd forwyn hardd iawn o'r enw Non. Roedd Sant wedi dotio arni. Disgynnodd oddi ar ei geffyl a chodi sgwrs 芒 hi. Dechreuodd garu 芒 hi ar y gwair cynnes. Doedd Non ddim yn fodlon. Ond roedd Sant yn ddyn cryf a digywilydd. Yn erbyn ei hewyllys, daeth Sant yn dad i blentyn Non."

Nid sant yw pob Sant, mae'n amlwg. Ond, i mi, dyna drin pwnc anodd mewn modd gonest a heb fod yn ddi-chwaeth, er i ryw ias o bryder fynd drwof wrth ei ddarllen gyda fy merch saith oed!

Lluniau pert

Diolch byth yr oedd mwy o ddiddordeb ganddi yn y lluniau pert o anifeiliaid sy'n britho'r gyfrol nag yn nulliau amrwd penaethiaid Dyfed o fynegi eu gwerthfawrogiad o brydferthwch benywaidd.

Yn ei barn hithau dyma'r llyfr gorau am Dewi Sant iddi ddarllen erioed - ac mae'r llyfrau diweddar eraill ar y pwnc yn ei meddiant hefyd, felly gellir coelio hi.

Cymorth mawr at atyniad y llyfr yn sicr yw lluniau gwych Margaret Jones, bob un ohonynt, bron, mewn lliw llawn. Gyda'r manylion bach darluniadol a geir hefyd rhwng y penodau, ac ar frig a gwaelod pob tudalen, mae ansawdd cynhyrchu'r gyfrol yn rhagorol, ac mae 拢5.95 yn bris rhesymol iawn o ystyried hynny.

Rhwng popeth, felly, dyma enghraifft wych o gyfuno ysgolheictod, chwedleua, dychymyg a dylunio. Mae'n deilwng bob tudalen o'i wrthrych hybarch.

Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill? Ebostiwch

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy