Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Bedwyr yn frwd a beiddgar

Darlithoedd ac ysgrifau beirniadol Bedwyr Lewis Jones yn hawdd i'w darllen

Dydd Iau, Mawrth 14, 2002

Tua’r Dalar gan William Owen. Gwasg Carreg Gwalch. £6.95.
Tair seren
Adolygiad gan Glyn Evans

Reit ar gychwyn y gyfrol hon y mae’r awdur yn rhoi clets i rhyw "oracl" ar Radio Cymru a adolygydd yn feirniadol un o’i gyfrolau eraill.

Tynnu sylw yn "llawn gwynt" a wnaeth yr un oedd "yn ffansio ei hun fel tipyn o adolygydd" at y modd y bu i’r awdur anwybyddu tlodi a chaledi y cyfnod yr oedd yn ei ddarlunio yn ei lyfr.

Er bod William Owen yn cyfeirio at y feirniadaeth hon fel rhagfarn mi alla innau ddeall beth oedd gan yr adolygydd nas enwir dan big ei gap - ac y mae mwy o’r un peth yma!

Cychwynnodd taith hunangofiannol William Owen gyda chyhoeddi Codi Canol Cefn yn 1974 ac nid yw’n syndod ei fod yn cadw at y ddelwedd amaethyddol gyda’r gyfrol hon sy’n dod â ni at y cyfnod presennol yn ei fywyd.

Rhwng y ddau lyfr bu nifer o ddramâu a chyfrolau cofiadwy fel Robin Rengan Las a Llacio’r Gengal yn darlunio’r hen gymdeithas amaethyddol fel ag yr oedd ym Môn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Yn amlwg yn ffansio ei hun yn dipyn o Laurie Lee Cymraeg mae’r awdur wrth edrych yn ôl yn cloriannu ei fwriadau yn rhoi y pethau hyn ar bapur.

Cyhoeddodd Sommerset Maughan ei Summing Up, William Owen ei Dua’r Dalar.

Nid oes amau ei ddawn fel sgrifennwr rhyddiaith na’i ddawn ychwaith fel darluniwr cymeriadau mewn geiriau. Y mae ei Gymraeg yn fwyn ac yn felys a’i lygaid yn graff, ei glust yn fain.

Mae’r gyfrol olaf hon yn cychwyn gyda’i gyfnod yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor yn y pumdegau a chyfnod yn athro digon diniwed yn rhai o ardaloedd tlotaf - neu ddifreintiedig fel y byddem yn cael ein cymell i ddweud heddiw - Lerpwl. Hen lefydd ryff a defnyddio idiom fy mhlentyndod innau ym Môn!

Y mae yna lawer o draethu’r cyffredin a’r digon dibwys yn y rhan hon o’r gyfrol ac er bod ambell i ronynen yma ac acw y mae ynghudd dan sacheidiau o fanus.

Ydi mae’n ddiddorol cael gwybod am yr Athro A. H. Dodd "yn mynd yn fân ac yn fuan ar hyd Ffordd y Coleg gan aros a sefyll yn awr ac yn y man i godi stwmp sigaret, ac wedi iddo edrych o’i gwmpas i sicrhau nad oedd neb yn ei weld, ei fwrw’n lladradaidd i waelodion poced ei gôt laes."

Ond y mae manion gwybodaeth arall ac y mae cynifer o straen sy’n cychwyn yn addawol ond yn mynd i le’n byd erbyn gweld.

Weithiau cawn yr argraff na phasiodd pryf glaw y giât na chafodd ei enw yn y gyfrol hon.

Yn ystod y cyfnod hwn o ddarllen yr oedd Tua’r dalar yn stryglo i ennill seren a hanner o ganmoliaeth a phe na byddwn ar ddyletswydd adolygu mae’n amheus gen i a fyddwn wedi dal ati.

Yn union rhes drwchus o rwdins byddai’r gyfrol hon wedi elwa ar gryn deneuo tra’n cyrchu tua’r dalar.

O ddal ati i fyny’r rhes, fodd bynnag, cynhesais at y gyfrol ac mi gefais sawl munud o bleser ymhlith "Pobol Ddiddorol" o ddalen 86 ymlaen.


Mwynheais yn arbennig y portread sylwgar a gonest o J. T. Jones Porthmadog a gyflawnodd gymaint camp yn cyfieithu rhai o ddramâu Shakespeare i’r Gymraeg gan gynnwys Hamlet ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy, 1958.

Cawn yma ddarlun o gyfuniad rhyfeddol o athrylith eang ei orwelion ar y naill law a gwr rhywfaint yn rhagfarnllyd a chul ar y llall ac efallai yn rhywfaint o fwli diwylliannol!

Difyr ac ni ellir ond cytuno â William Owen ei bod yn gawl enbyd ar ran Meic Stephens i’w adael allan o’i Gydymaith i Lenyddiaeth Cymru - yn enwedig o weld ambell un arall llai a salach ei gyfraniad yn cael ei big i mewn.

Bu William Owen ei hun yn gystadleuydd llwyddiannus ar y ddrama yn y Genedlaethol - ac aflwyddiannus hefyd fel y datgela mewn stori fach ogleisiol am ei brofiad gydag un ddrama a thri beirniad.

Pan anfonwyd y ddrama i gystadleuaeth gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr oedd y beirniad - "yn wr galluog uchel ei barch a thra phrofiadol yn y maes" - yn llawdrwm iawn arni gan ei disgrifio yn ddim amgen na sgets estynedig ac yn hiliol a di-chwaeth ar ben hynny.

Am rhyw reswm mae William Owen yn osgoi enwi’r beirniad ond William R. Lewis oedd o yn Eisteddfod Maldwyn 1981.

Ta beth am hynny, mewn dwy eisteddfod arall cafodd yr union un ddrama ganmoliaeth ac fe ddaeth yn ail da i ddrama gan T.James Jones gyda’r beirniad, Hywel Teifi Edwards, yn hael ei ganmoliaeth a’r un modd J. R. Evans mewn trydedd eisteddfod lle bu’r ddrama yn fuddugol.

"Nid canmol yr ydwyf," meddai William Owen, "ond dywedyd y gwir, wrth geisio olrhain hynt ac yn arbennig helynt digon cythryblus un ddrama fer a oedd yn bopeth yr un pryd, yn ddim namyn ‘sgets estynedig’, yn ‘amlygu dawn bendant’, yn ‘hiliol ac ansensitif’, yn ‘fyrlymus a hynod lwyddiannus’ ac i goroni’r cyfan, yn ‘hynod o ddi-chwaeth’."

Yn wyneb hynna beth wnawn ni felly o feirniaid steddfodol!

Tuedd i ganmol y rhai y mae’n eu portreadu sydd gan William Owen ond ni ddylai hynny fod yn syndod gan mai cyfeillion a edmygai a ddewisodd sgrifennu amdanynt beth bynnag a does dim o’i le yn hynny.

Ond y mae rhywun yn synnu, o ystyried naws y gyfrol, ei weld yn beirniadu rhywrai eraill am fod yn nawddoglyd ac yn ymosod ar "y dull Cymreig arferol" o "sheflio sebon" wrth sgrifennu.

Sylw a fydd yn peri i’r geiriau brycheuyn, trawst a llygaid ddod i feddwl ambell i ddarllenydd rwy’n siwr gan nad yw ei shefl ei hun yn un sy’n hel rhwd o segurdod.

Ond wedi dweud hynny rhoddodd gyda sawl un o’i gyfraniadau foddhad i lawer - heb sôn am y pleser y mae sgrifennu yn ei roi i’r sgrifennwr ei hun.

"Fynnwn i ddim gwadu nad oeddwn i’n ceisio boddhau’r awydd am ryw fath o ddihangfa a’r awydd am ‘gymundeb’ gyda’r rhai a garwyd ac a gollwyd felly. Ac os oedd yr hen fywyd ar gilio, roedd yn bwysig rhoi peth ohono ar gof a chadw er mwyn dangos ei hyfrydwch a’i ragoriaethau. Roedd yn rhaid ceisio atal, dros dro beth bynnag, y proses tragwyddol o erydu sy’n digwydd oblegid y mae colli cyfle i roi ar gof a chadw yn wadiad ar fodolaeth. Yr un pryd roedd yn gyfrifoldeb ar rywun i wneud a allai i sicrhau . . . fod rhyw gofnod yn aros ‘canys ni welir mo’u tebyg hwy byth eto’."

A pha ragorach rheswm a chymhelliad sydd ei angen.













Ebostiwch

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy