主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr

Gwae ar yr aelwyd

Merch fach yn cael ei chamdrin gan ei thad!

Dydd Iau, Mawrth 28, 2002

Siabwcho gan Marged Lloyd Jones. Nofel y Mis, Mawrth 2002. Gomer. 拢6.95.
Tair seren
Adolygiad gan Glyn Evans

Siwr o fod mai un o鈥檙 pethau a鈥檔 brawychodd fwyaf yn sgil y ffrwydrad o achosion ymyrryd yn rhywiol 芒 phlant dros y blynyddoedd diwethaf oedd, fod cymaint ohonyn nhw.

Fodd bynnag, gyda chymaint o gyhuddiadau a honiadau yn gweld golau dydd yr oedd rhywun yn cael ei demtio i feddwl mai rhyw ffenomenon fodern oedd hon.

Rhywbeth yn perthyn i鈥檙 dydd heddiw. Rhywbeth a fyddai鈥檔 gwbl estron i鈥檙 gymdeithas y magwyd ein tadau a鈥檔 teidiau a鈥檔 neiniau ynddi.

Darlunio gwarth

Buan y darbwyllwyd rhywun nad yw hynny o anghenraid yn wir ac i鈥檙 gwarth ddigwydd y tu 么l i ddrysau cae毛dig hyd yn oed ar adegau a ystyriwyd yn rhai mwy parchus a diniwed.

Darlunio achos o hynny鈥檔 digwydd y mae鈥檙 nofel fach hon gan Marged Lloyd Jones.

Mae鈥檔 nofel sy鈥檔 garreg filltir lenyddol.

Nid lleiaf oherwydd y pwnc sy鈥檔 cael sylw - camdrin yn rhywiol ferch fach bum-mlwydd oed gan ei thad.

Dydi hynny ddim wedi bod yn bwnc o fewn ein llenyddiaeth cyn hyn.

Mae鈥檔 ddiddorol hefyd nad awdur ifanc, beiddgar, a roddodd bin ar bapur. Y mae Marged Lloyd Jones yn aelod parchus a blaenllaw o鈥檙 gymdeithas h^yn. Yn llywydd anrhydeddus Merched y Wawr.

Awydd diffuant

Rwy鈥檔 meddwl y gallwn fod yn weddol sicr nad ymgais i fod yn feiddgar, i siocio a chynhyrfu dyfroedd yw鈥檙 nofel hon ond awydd diffuant i ddarlunio digwyddiad sydd, yn gwbl gyfiawn, yn ein dychryn a鈥檔 hysgwyd.

Y mae rhywun yn edmygu dewrder Marged Lloyd Jones yn mentro cyhoeddi. Dywedodd i rai o鈥檌 ffrindiau wrthod darllen y nofel oherwydd ei thestun.

Mae Siabwcho, fodd bynnag, yn ymwneud 芒 mwy na鈥檙 un pwnc brawychus hwn er mai hynny sydd wedi tynnu sylw at y nofel.

Y cyfnod yw blynyddoedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac y mae yma bortread synhwyrus a synhwyrol o鈥檙 cyfnod hwnnw; o gymdeithas y dydd a鈥檙 gwewyr o fyw dan gysgod rhyfel a bechgyn ifainc yn gadael am faes y gad - rhai ohonyn nhw byth i ddychwelyd.

Yn gyferbyniad i hyn mae rhyfel rheibus arall ar aelwyd Mary Anne Jane John fechan - Jini John - y ferch fach y mae ei thad ffiaidd yn ymryrryd yn rhywiol 芒 hi.

Amarch gorffwyll

Dyn yw Dyta sydd nid yn unig yn annynol tuag at ei ferch fach ond hefyd yn trin ei wraig gyda鈥檙 un ffieidd-dra ac amarch gorffwyll.

Mae yna ddisgrifiadau yn y nofel sy鈥檔 ysgytwol a sefyllfaoedd sy鈥檔 ein hoeri a chodi ofn wrth feddwl am ferch fach mewn lle mor ddiymgeledd wrth i ddiogelwch aelwyd droi鈥檔 dir rhaib.

Darlunir yn grefftus gymdeithas sydd am gelu drygau y tu 么l i ddrysau cae毛dig ac mae鈥檔 arwyddocaol fod y Fam a鈥檙 ferch fach yn ystyried fod camdriniaeth erchyll y tad yn adlewyrchu鈥檔 waeth arnynt hwy yn hytrach nag arno ef.

Yn wyneb hyn, sylweddolwn ninnau sut y cai鈥檙 pethau hyn rwyddach hynt i ddigwydd nag a fyddai鈥檔 bosib mewn cymdeithas fwy agored ac os digwyddodd rhywbeth o unrhyw werth yn y maes hwn yn ein cyfnod ni, creu awyrgylch sy鈥檔 ei gwneud yn haws i bobl rannu eu gofidiau yw hynny.

Nid dyma鈥檙 lle, fodd bynnag, i fynd ar 么l ochr arall y geiniog honno o bosibilrwydd camgyhuddo.

Yn hen wraig

Mae鈥檙 nofel yn cychwyn gyda Jini John, yn awr yn hen wraig, yn edrych yn 么l dros ei bywyd yn egluro sut y bu "mor amheus" o "bob gwryw" a sut y bu iddi gario "mwy o ofid nag y dylai unrhyw blentyn ei ddioddef."

Er bod hyn yn anogaeth i ddarllen ymlaen i ddarganfod mwy camgymeriad, yn fy meddwl i, fu cychwyn y nofel yn yr union fan hon gan ei bod yn rhoi鈥檙 sicrwydd hwnnw sy鈥檔 mennu ar y nofel y bydd Jini John yn byw drwy ei rhyfel bersonol.

Byddai ansicrwydd ynglyn 芒 hynny wedi ychwanegu at dyndra鈥檙 nofel.

Yna gellid defnyddio yr ychydig dros ddwy ddalen gyntaf yn 么l-nodyn yn hytrach nag yn gychwyn.

O ran y cymeriadau, bwystfil cwbl ffiadd yn cael ei yrru gan chwant yw Dyta gan beri i rywun feddwl tybed, o safbwynt creu cymeriad mwy diddorol, na fyddai wedi bod yn ddiddorol dod â rhyw elfen o ddyneiddiwch i'w gymeriad rhag iddo ymddangos mor unochrog.

Ond nofel fer iawn yw hon, yn enwedig o ystyried dwyster y pwnc ac eangder y cefndir ac nid oes yma le fel ag y mae i greu cymeriadau aml-haenog. Trueni, mewn gwirionedd, i'r awdur fodloni ar drin mor gryno y deunydd sydd ganddi ond peryg mai dyna ofynion cyhoeddwyr Cymraeg heddiw.

Beth yw eich barn chi? Ebostiwch
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy