主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Olion diwydiannol yng Nghernyw
Cam â Chernyw

Trafod Cernyw mewn cyfraith

Dydd Iau, Ebrill 11, 2002

• The Reason Why - Cornwall鈥檚 Status in Constitutional and International Law gan Bro Kernow 2001, pris 拢2.00.

Adolygiad gan Gwyn Griffiths.


Yn 么l llyfryn difyr am statws Cernyw mewn Cyfraith Gyfansoddiadol a Rhyngwladol - The Reason Why - cyhuddir Dug Cernyw o esgeuluso鈥檙 wlad sydd dan ei warchodaeth tra鈥檔 manteisio鈥檔 ariannol o鈥檌 safle.

Mae Dug Cernyw - rhag ofn nad ydych yn cofio - hefyd yn Dywysog Cymru. Charles o Windsor.

Ymddengys fod ganddo gyfrifoldebau arbennig dros Gernyw - llawer mwy pell gyrhaeddol, hyd y medra i weld, na thros Gymru.

Cyllid y Dug
Fe鈥檌 cyhuddir o fethu yn ei ddyletswyddau fel Gwarchodwr Cernyw.

Mae - neu yr oedd - yn amlwg fod Charles o Windsor yn cymryd ei gyfrifoldeb o ddifrif. Pan oedd ef a Diana yn ysgaru llwyddodd ef i鈥檞 rhwystro hi rhag cymryd cyfran o鈥檌 eiddo yng Nghernyw.

Dadleuodd - yn llwyddiannus - fod cyllid a gaiff o鈥檙 Ddugaeth (Ducheth mewn Cernyweg) yn bodoli i gynnal ac ariannu ei swyddogaethau cyfansoddiadol yno. "(It) is most emphatically not a mere private estate office" oedd ei ddadl dros beidio a rhoi cyfran o鈥檙 eiddo hwnnw i gyfoethogi Diana.

Diogelu adnoddau

Ymysg ei ddyletswyddau y mae defnyddio鈥檌 adnoddau i ddiogelu adnoddau mwyn Cernyw. Ond yn lle hynny dywedir na fu ond yn dyst diymadferth i ddifodiant mwyngloddio yng Nghernyw tra bo gormeswyr trahaus yn halogi hawliau鈥檙 Cernywiaid.

Er ei bod yn rheidrwydd arno i hyrwyddo cyfarfodydd Senedd Cernyw ac i sicrhau ufudd-dod i Ddeddfau Cernyw nid yw gwneud hynny. "The present Duke鈥檚 neglect of his duties rivals the dereliction of any half-dozen of his predecessors combined," meddir.

Yn sicr, mae鈥檔 ymddangos fod gan yr awduron - y diweddar Paul Leity, Tim Saunders o Gaerdydd ynglyd ag Alan M. Kent - ddadl gref.

Sofraniaeth
Ni chafodd sofraniaeth Cernyw ei huno (fel yn achos Yr Alban) na鈥檌 dileu (fel yn achos Cymru). Ac er gwaethaf anrhaith y Sacsoniaid Gorllewinol ni chafodd Cernyw erioed mo鈥檌 choncro.

Cyfeirir at Frenin Wessex, Athelstan, (Slobodan Milosovic yr oesoedd canol), a鈥檌 lanhau ethnig "o鈥檙 hil ffiaidd" o dref Exeter yn 927. Gwnaeth yr un peth yn nhrefi eraill gorllewin Dyfnaint dros y deng mlynedd wedi hynny.

Cytunwyd yn 936 mai afon Tamar, sy鈥檔 afon hir ac yn ymestyn bron o un arfordir i鈥檙 llall, fyddai鈥檙 ffin rhwng Wessex a Chernyw. Parhaodd y ffin fwy neu lai鈥檔 ddigyfnewid byth oddi ar hynny.

Ond ni atodwyd (annex) Cernyw at Wessex - yn wir, meddir, ni atodwyd Cernyw at unrhyw wlad ond, yn hytrach, cytunodd Cernyw i ddod yn warchodaeth dan Wessex.

Amddiffyn hawliau

Golygai hynny ar y naill law na fyddai Cernyw yn gweithredu mewn ffordd na fyddai鈥檔 llesol i Wessex ac, ar y llaw arall, y byddai Wessex yn amddiffyn hawliau Cernyw, ei chyfreithiau a鈥檌 sefydliadau a chywirdeb ei thiroedd.

Nodir nad yw hyn yn gyfystyr 芒鈥檙 hyn a olygir yn gyffredin gan y gair protectorate yn y Saesneg. Nodir y gwahaniaeth ystyr rhwng Gwovro a Gworwlazaeth yn y Gernyweg gyda鈥檙 cyntaf yn disgrifio鈥檙 berthynas rhwng Cernyw a Wessex ond yr ail yn cyfateb i鈥檙 ystyr Saesneg cyfoes - sef perthynas rhwng yr amddiffynnwr a鈥檙 diriogaeth y mae鈥檔 tra-arglwyddiaethu drosti..

Er i Wessex a theyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd eraill uno i greu Lloegr parhaodd y berthynas rhwng Cernyw 芒鈥檙 grym newydd.

Pan ddaeth Gwilym Goncwerwr

Yn ddifyr iawn, pan ddaeth Gwilym Goncwerwr, Dug Normandi, i Brydain yn 1066 roedd un rhan o dair o鈥檌 fyddin o Lydaw.

Roedd yr Armoriciaid wedi dechwelyd gyda llawer yn ymsefydlu yng Nghernyw ac ar ffiniau Cymru lle鈥檙 oedd pobl yn siarad iaith debyg iddyn nhw.

Penodwyd Robert Mortain yn Iarll Cernyw gan y Concwerwr gyda chyfrifoldeb dros weithredu dyletswyddau鈥檙 "amddiffynnwr".

Roedd Cernyw mor gyfoethog mewn mwynau a physgodfeydd nes sicrhau i Iarll Richard gael ei ethol yn Frenin yr Almaen. Proses nid annhebyg, meddir, i ethol Arlywydd America heddiw.

Cymaint cyfoeth Cernyw, bu i Frenin Lloegr lacio pob hawliau a fynnodd cynt er mwyn parhau - hyd byth - y berthynas arbennig rhwng y ddwy wlad.

Brenin o dras Gymreig

Digwyddiad diddorol oedd dyrchafu Harri鈥檙 VII yn Frenin Lloegr. O dras Gymreig ac wedi bod yn alltud am bymtheng mlynedd yn Llydaw, godrodd ei gysylltiadau Brythonaidd am ei fywyd i sicrhau cefnogaeth o Gymru a Chernyw.

Ceisiodd Harri ddileu sefydliadau Cernyw nes tynnu gwrthryfel am ei ben. Yn y diwedd penderfynodd mai callach peidio.

Erbyn 1750 roedd Cernyw yn un o鈥檙 gwledydd mwyaf diwydiannol ond bod y cyfoeth - o鈥檙 mwynau - yn llifo i鈥檙 "amddiffynnwr" ac, fel, gyda glo yng Nghymru, roedd y deunyddiau crai yn cael eu hysbeilio heb gael eu defnyddio i greu nwyddau eraill a thrwy hynny greu gwaith a sefydlogrwydd i鈥檙 economi.

Heb ddileu deddfau

Ni ddilewyd yn ffurfiol ddeddfau Cernyw yn 么l yr awduron. Yn hytrach defnyddiwyd cynseiliau o Gyfraith Lloegr i鈥檞 herydu鈥檔 araf.

Lluniwyd y llyfryn fel rhan o ymgyrch i geisio sicrhau i Gernyw yr un statws lywodraethol ag sydd gan Gymry - Cynulliad. Gwaith annibynnol yw serch hynny.

Heblaw bod yn rhyfeddol o ddifyr, mae鈥檔 gyfrol gwerth ei darllen pe bai ond i ni ddysgu rhywfaint am hanes ein cyd-Frythoniaid.

Gellir cael copi drwy鈥檙 post oddi wrth Gwynn ha Du, 4 The Arcade, Fore Street, Liskeard, Kernow.

Ebostiwch
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy