Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Dau dderyn prin - a sylwebydd craff

Golwg ar Gymru o'r awyr

Dydd Iau, Ebrill11, 2002

• Môr a Mynydd - Surf and Skylines gan Gwilym Davies ac Iwan Llwyd. Gwasg Carreg Gwalch. £9.
Pedair seren
Yr oedd yn ddiwrnod braf o haf ddeunaw mlynedd yn ôl a Gwilym Davies newydd orffen ei waith yn ei glinig deintyddol pan alwodd Arfon.

Tynnwr lluniau a pheilotYn beilot, yr oedd Arfon a’i fryd ar fanteisio ar yr hin deg a chodi ar ei adain o faes awyr Mona ar Ynys Môn. Yn dynnwr lluniau brwd penderfynodd Gwilym fynd efo fo yn gwmni.

A dyna gychwyn partneriaeth sydd nid yn unig yn parhau heddiw ond sydd hefyd wedi esgor ar un o lyfrau harddaf a difyrraf y blynyddoedd diwethaf ’ma.

Mae’r bartneriaeth rhwng y ddau yn un llwyddiannus a syml - Arfon yn hedfan yr awyren a Gwilym yn tynnu lluniau - gyda’r ddau yn gwybod yn union lle maen nhw’n sefyll, fel petai.

Fel y dywed Gwilym yn Môr a Mynydd - Surf and Skylines, dydi o ddim yn ymyrryd â sut mae Arfon yn hedfan yr awyren a dydi Arfon ddim yn dweud wrtho yntau pa lens i’w defnyddio i dynnu llun!

Lluniau o'r gyfrolY canlyniad yw golwg ysblennydd o ryfeddodau a harddwch Eryri gan edrych i lawr o’r awyr - ac nid oes dadlau fod rhyw rin arbennig yn perthyn i lun a dynnwyd 700 a 1,000 o droedfeddi i fyny yn yr awyr.

Ac i gydfynd a’r lluniau y mae sylwadau treiddgar a chyfoethog mewn gwybodaeth gan y Prifardd Iwan Llwyd yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’r sylwadau hyn yn llawer iawn mwy na ‘captions’ i luniau gan fod yma nid yn unig drysorfa o wybodaeth hanesyddol ddiddorol ond ymwybyddiaeth o berthynas dyn a’i dirwedd dros y canrifoedd.

Canmol hen dafarn
Mae’r difyrrwch yn cychwyn o’r cyflwyniad ei hun gyda chyfeiriad at daith Thomas Pennant o Gaergybi i Fangor yn saithdegau’r ddeunawfed ganrif a’i ganmoliaeth o dafarn y Gwindy (Gwyndy) rhwng Trefor a Llynfaes ar yr hen lôn bost ar draws Môn.

"Yn anarferol lle bo tafarnau Cymru yn y cwestiwn, roedd y rhan fwyaf o deithwyr yn canmol ei lety a’i fwrdd," meddai Iwan Llwyd cyn tynnu o’i sgrepan fwy o’r wybodaeth ddifyr yna sy’n gwneud i un llyfr ragori ar un arall:

Cario'r post

"Mae’n debyg mai gwraig ’debol Hugh Evans, Gwyndy, oedd y letywraig hynod (a fu yn y Gwyndy ers deugain mlynedd) . . . a bu ei gwr yn dwyn y post o’r dafarn i Gaergybi yn rheolaidd o 1745 hyd at ymddangosiad y goets fawr gyntaf i gario’r mêl yn 1785.

"Roedd Thomas Telford ei hun yn gyfarwydd â gwasanaeth ardderchog y Gwyndy, a phan gwblhawyd y lôn bost newydd yn yr 1820au, rhoddodd gyfarwyddyd y dylai Eliza Jones, gweddw postfeistr y Gwyndy, dderbyn pensiwn i’w digolledu am fasnach a gollodd oherwydd y ffordd newydd," meddai.

Gan ychwanegu fod y Gwyndy heddiw "yn adfail dan eiddew" - enghraifft arall o fieri lle bu mawredd yng Nghymru.

Mae’r wybodaeth yr un mor ddifyr a thrwyadl am weddill Eryri sy’n gwneud Môr a Mynydd yn rhywbeth llawer rhagorach na dim ond casgliad o luniau trawiadol. Bargen, felly, gan y byddai'r lluniau eu hunain wedi bodloni y rhan fwyaf ohonom.

Gem o gyfrol ar ddau gyfrif, trueni nad oes iddi glawr caled - ond go brin, wedyn, y gellid cadw're pris mor resymol â £9.

Beth yw eich barn chi am y llyfr hwn neu lyfrau eraill? Ebostiwch
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy