Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr Cam Wrth Gam
Brwydr y ddiod

Nofel gyntaf actores a sgriptwraig

Dydd Iau, Ebrill 25, 2002

Cam wrth Gam gan Mari Emlyn. Gomer.
Pedair seren
Adolygiad gan Catrin Jones

Nofel yn ymdrin ag alcoholiaeth yw Cam wrth Gam, nofel y mis ar gyfer Ebrill.

Mari Emlyn yw’r awdur a dyma ei nofel gyntaf.

Mae Mari Emlyn yn wyneb cyfarwydd ar lwyfannau a sgriniau teledu Cymru - yn adnabyddus fel actores a sgriptwraig.

Y profiad dirdydnnol o golli ei mam a’i hysgogodd i fynd ati i ysgrifennu’r nofel hon.

Mari EmlynDerbyniodd y nofel ganmoliaeth uchel yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych y llynedd gyda Manon Rhys, un o’r beirinaid, yn ei disgrifio fel ‘nofel rymus’.

Ac meddai Gwerfyl Pierce Jones, beirniad arall, "Dyma fath ar nofel sy’n brin yn y Gymraeg ...camp nid bychan yw llunio nofel boblogaidd ddarllenadwy o’r safon hon".

Disgwyliadau uchel

Dyma dipyn o ganmoliaeth felly ac roedd fy nisgwyliadau’n uchel wrth imi fynd ati i ddarllen. A dwi’n falch o ddweud na chefais fy siomi.

Mae Mari Emlyn wedi dewis pwnc dyrys ac anodd ar gyfer ei nofel cyntaf. Dyma bwnc sydd yn gofyn am dipyn o ddealltwriaeth seicolegol.

Roedd gofyn bod yr awdures yn deall yr hyn sy’n mynd trwy feddwl y dioddefwyr ac yn cymell alcoholiaeth a hefyd seicoleg perthnasau’r dioddefwyr sydd hefyd yn cael eu heffeithio gan y clefyd.

Nid yw hyn yn beth hawdd i’w bortreadu ac roedd yn bwnc uchelgeisiol iawn ar gyfer nofel gyntaf. Roedd gofyn i’r awdur fynd o dan groen y cymeriadau a threiddio i’w meddyliau. Rhaid ein argyhoeddi ni’r darllenwyr fod y cymeriadau’n rhai credadwy.

Llwyddodd Mari Emlyn i wneud hyn mewn dull canmoladwy iawn.

Popeth yn braf ar yr wyneb

Mae’r stori yn cael ei hadrodd gan Leusa, gwriag a mam yn ei thridegau cynnar. Ar yr wyneb ymddengys fod bywyd Leusa’n berffaith. Mae’n byw mewn ty moethus yng Ngwynedd gyda’i gwr Paul sy’n gyfreithiwr a Iolo ei phlentyn pump oed.

Mae ganddi yrfa lwyddiannus fel therapydd lleferydd ac i bawb o’i chwmpas ymddengys fod ganddi’r bywyd delfrydol. Ond y tu ôl i hyn i gyd mae rhywbeth mawr yn ei phoeni ac yn gysgod du dros ei bywyd - alcoholiaeth ei mam.

Cadw dyddiadur

Mae’r nofel wedi ei hysgrifennu ar ffurf dyddiadur yn olrhain hanes Leusa o fis Rhagfyr 1995 i fis Ionawr 1998. Ond nid dyddiadur confensiynol sydd yma gan mai edrych yn ôl y mae Leusa ar ddigwyddiadau cythryblus y blynyddoedd a arweiniodd at farwolaeth ei mam.

Atgofion sydd yma felly a Leusa’n eu dadnsoddi gyda golwg wahanol wedi iddi ddygymod â’i phrofedigaeth. Drwy edrych yn ôl mae’n deall sut y bu i gyflwr ei mam effeithio arni hithau hefyd.

"Dwi’n gwybod rwan fod salwch Mam yn ymdreiddio’n ddwfn i mi ar y pryd, yn newid fy nghymeriad, fy nhymer, fy agwedd at eraill – at y rhai agosaf ataf".

A dyma sy’n digwydd yn ystod y nofel. Mae’r straen o orfod cuddio cyflwr ei mam rhag ei ffrindiau, ei chymdogion a’i phlentyn ei hun, yn creu tensiynau ym mherthynas Leusa ag eraill.

Tensiwn fel feis

Mae’r tensiwn i’w deimlo fwyaf yn y berthynas rhyngddi hi a’i gwr, Paul. Yn nhudalennau cyntaf y nofel mae’n disgrifio’r awyrgylch yn ei chartref: "gellid teimlo’r tensiwn fel feis o gwmpas y ty....Chwydais fy rhwystredigaeth ar y rhai diniwed". Mae hyn i gyd yn deillio o’i gofid am ei mam.

Mae Mari Emlyn yn ein taflu ar ein pennau i fywyd tymhestlog Leusa o dudalen gyntaf y nofel. Does yma ddim gwastraffu geiriau wrth i’r nofel agor â’r geiriau "Anghofia i fyth, fyth y noson honno."

Dyma ddechrau egluro’r stori gymhleth i ni am ofid Leusa. Mae’r nofel yn dechrau ym mis Rhagfyr 1995, ychydig ddyddiau cyn y Nadolig. Cawn wybod bod mam Leusa wedi bod yn aros gyda’r teulu ers deuddydd ac mae Leusa’n teimlo’r straen yn barod.

Nadolig trychinebus

Cawn hanes digwyddiadau trychinebus y Nadolig cynt ac wedi hynny rydym yn deall yn iawn pam fod Leusa’n poeni’r tro hwn.

Mae’r nofel wedi ei hysgrifennu mewn tair rhan. Dim ond pennod yr un yw’r rhan gyntaf a’r olaf. Yr ail ran felly yw corff y nofel. Mae hyn yn gweithio’n dda gan mai yn y rhan honno yr ydym yn gweld y dirywiad yn iechyd mam Leusa ac effaith hynny ar fywyd personnol ei merch.

Mae yma bortread grymus o’r fam ac mae’r disgrifiadau o’i chyflwr corfforol wrth i’r gwenwyn feddiannu ei chorff a’i meddwl yn ddirdynnol. Mae’r disgrifiadau hyn yn ein hysgwyd ni’r darllenwyr ac rydym yn cydymdeimlo’n llwyr â’r fam ac yn tosturo wrthi yn ei chyflwr truenus:

"Cydiai ei llaw fach yn dynn yng nghanllaw’r wal, a brigyn bregus ei braich yn crynu dan yr ymdrech. Gwegiai ei choesau dryw bach wrth gario’i bol chwyddedig. Roedd ei chorff y peth tebycaf a welais erioed i’r lluniau o blant newynog Ethiopia ar y teledu."

Cuddio rhag y byd

Wrth gwrs rydym yn cydymdeimlo â Leusa hefyd. Gallwn ddeall sut y bu i’r straen o orfod ymdopi â salwch ei mam a’r boen ychwanegol wedyn o orfod cuddio hynny rhag y byd, ei harwain i wneud llanast o’i bywyd ei hun.

Mae pob diwrnod yn ofid iddi gan nad oes modd rhagweld beth fydd ei mam yn ei wneud nesaf: "Chysgais i fawr neithiwr. Roedd fy meddwl yn troi fel chwrligwgan, ac eto teimlwn elfen o ryddhad. Roedd hi’n dal yn fyw! Diolch byth!"

Roedd fy nghalon yn gwaedu drosti wrth iddi orfod ymdopi ar ben popeth ag ymadawiad ei gwr. Y prif reswm dros y dirywiad yn eu perthynas yw methiant Leusa i rannu ei theimladau ag ef.

Yn ddiarwybod iddi wrth guddio cyflwr ei mam dros y blynyddoedd mae hefyd wedi bod yn cuddio ei theimladau ei hun. Dydi hi ddim am rannu eu hofnau na’u hemosiynau â neb.

Euogrwydd
Un o’r emosiynau hynny yw euogrwydd. Mae’r euogrwydd wrth iddi ddyheu am ddiwedd i’r hullef a dymuno marwolaeth ei mam yn ei mygu. Mae’n siglo’i hunanhyder ac yn gwneud iddi dimlo’n fethiant fel merch, mam a gwraig.

"Teimlwn yn fethiant llwyr. Yr unig beth y gwyddwn i yr adeg honno oedd fy mod yn casàu fy mam, yn fy nghasàu fy hun a phawb arall o’m cwmpas. Bum ar hyd y blynyddoedd yn gweddïo y byddai hi’n rhoi’r gorau i yfed, ond yno ynghanol drewdod yr alcohol o’m cwmpas gweddïais ar y Duw na chredwn ynddo y byddai hi’n ei hyfed ei hun i farwolaeth."


Cymeriadau credadwy

Rhaid canmol Mari Emlyn am greu cymeriadau cwbwl gredadwy. Yn ddiamheuaeth mae wedi llwyddo i fynd o dan groen y cymeriadau a chamu i’w meddyliau cymleth a dyrys.

Erbyn diwedd y nofel roeddwn yn teimlo fy mod wedi dod i adnabod pob un ohonynt fel pe baen nhw’n bobol o gig a gwaed. A gan fod y cymeriadau’n troi o gwmpas effeithiau dyrys alcoholiaeth roedd hyn yn dipyn o gamp.

Er mai’r berthynas rhwng Leusa a’i mam a’r dirywiad yng nghyflwr y fam yw prif stori’r nofel mae yma elfen arall. Mae’r holl ddigwyddiadau yn cymell Leusa i gloddio’n ddwfn yn ei gorffennol ac at y ffactorau hynny a allai fod wedi cymell ei mam i ddechrau yfed yn drwm a chymell Leusa hithau i guddio ei theimladau.

Dyma helyntion a chwalodd fywyd y fam ac sy’n parhau’n gysgod dros fywydau’r teulu. Mae hyn yn creu tipyn o ddirgelwch ac yn sicrhau bod ein diddordeb ni’r darllenwyr yn cael ei gynnal drwy’r nofel. Mae strwythyr y nofel a’r plot yn gweithio’n berffaith ac yn sicr roeddwn i’n un darllenydd na allodd roi’r nofel i lawr wedi i mi ei dechrau.

Nofel lwyddiannus

Dyma nofel lwyddiannus iawn felly. Mae’n llwyddo ar sawl lefel. Yn gyntaf mae’n nofel boblogaidd a fydd yn apelio at bobol o bob oed. Mae’r iaith yn rhwydd a darllenadwy a’r ddeialog yn naturiol a chredadwy.

Mae Mari Emlyn yn feistres ar ysgrifennu deialog ac nid yw’n syndod o ystyried ei phrofiad fel sgriptwraig.
Yn olaf mae’r nofel yn llwyddo am ei bod yn ymdrin â’i phwnc, alcoholiaeth, mewn dull mor onest.

Llwyddodd i gyfleu’r hunllef dawel y mae perthnasau’r dioddefwyr yn ei fyw o dydd i ddydd yn ogystal âg effeithiau creulon y clefyd ei hun.

Yn sicr rydwi’n teimlo fy mod i’n gwybod llawer mwy am y cyflwr a’i effeithiau wedi i mi ddarllen y nofel.

Dyma nofel emosiynol ac ysgytwol sy’n wir yn werth ei darllen.


Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy