Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Y cyfuniad perffaith?

Newyddiadurwr a hanesydd yn un - teip sy'n brin

Dydd Iau, Mai 9, 2002

• Fy Hanner Canrif i gan Emyr Price. Lolfa
Pedair seren
Adolygiad gan Rhys Evans


Mae’r berthynas rhwng newyddiadurwyr a haneswyr wastad wedi bod yn rhyw berthynas od,digon anniddig.

Mewn byd delfrydol,dyma sut y dylsai bethau weithio: .y newyddiadurwyr,wrth roi pin ar bapur yw’r cynta i geisio ’sgwennu drafft cyntaf hanes.Yna daw’r haneswyr i bwyso a mesur, cywain a chywiro cyn cyhoeddi’r dehongliad diffiniol.

Ysywaeth, mae’r drefn honno yn perthyn i fyd delfrydol.

Tyrau ifori

Yn amlach na pheidio, mae newyddiadurwyr yn dueddol o synied am haneswyr fel ffigyrau arallfydol - rhyw deips sy’n mwmial yn annealladwy yn eu tyrau ifori tra’n gloddesta ar eu hacademig dost.

O du’r haneswyr, wel teips sy’n sgwennu ar gyfer papur chips fory yw’r newyddiadurwyr, heb na’r gallu na’r crebwyll i wahaniaethu rhwng y dibwys a’r digamsyniol bwysig.

Yn wyneb y rhwyg hwn, felly, y mae hunangofiant Emyr Price, Fy Hanner Canrif I, mor werthfawr.

Emyr Price yw un o’r adar prin hynny a wyr sut y gellir cyfannu’r rhwyg rhwng newyddiadura a bod yn hanesydd.

Yr hyn sy’n bwysig yw adrodd yr hanes ac wedyn dehongli yng ngoleuni yr hyn sydd wedi digwydd.

Daw’r gweddill yn reddfol iddo.

O Bwllheli i Bontcanna

Felly, o’r cychwyn cyntaf, er y disgrifir y gyfrol hon fel hunangofiant, mae yna ymgais barhaus i adrodd nid yn unig ei hanes ei hunan ond hefyd hanes y gymdeithas y digwyddai fyw ynddi - o Bwllheli i Bontcanna.

Mae hanes blynyddoedd cyntaf Emyr Price nid yn unig yn hanes difyr ond yn dalp pwysig o hanes cymdeithasol Sir Gaernarfon.

Dyma gymdeithas a oedd eisoes yn elwa o ysbryd colectifaidd rhyfel. Ganed Emyr Price yn ‘Bangor Lad’ ac i ddwylo saff y geinocolegydd arloesol, OV Jones, neu fel yr adwaenid ef ar lafar gwlad ‘Ovary Jones’.

Ac nid newidiadau cymdeithasol oedd yr unig rai a groesawodd Emyr Price. Flwyddyn wedi geni’r awdur roedd "Dewin Dwyfor", Lloyd George, yn ei fedd a Rhyddfrydiaeth hefyd yn farw fel hoel wrth i don Lafurol dorri dros Bwllheli a sawl tref arall yn y Gymru naturiol, anghydffurfiol Gymraeg hon.

Ond er mor naturiol y diwylliant Cymraeg, roedd na newidiadau anferth ar droed.

I fechgyn y ‘Pwllheli Grammar School’, roedd gwrando ar Radio Luxembourg ar y 208 metres medium wave a gwylio Rock Around the Clock mor naturiol a mynychu y bar coffi newydd gai ei redeg ym Mhwllheli gan Owain Williams (Now’r Bomiwr).

Ynghanol hyn i gyd roedd gafael Anghydffurfiaeth a Chapelyddiaeth yn llacio.

Wemod prifysgol

Fel Neil Kinnock, Emyr Price oedd y cynta o dylwyth y Preisus mewn milflwydd i fynd i Brifysgol ond braint â blas wermod arni oedd lle Emyr Price ym Mangor.

Mewn pennod hynod onest, dyry’r awdur ddarlun o genhedlaeth lle na theimlai’n rhan gysurus ohoni - teimlad fyddai’n aros gydag ef.

Ar lannau’r Fenai, daw ar draws yr Euryn Ogwen ifanc, gwr : "Y credwn y byddai wedi bod yn wleidydd Maciafelaidd o lwyddiannus, ond bu’n rhaid iddo fodloni ar fod yn ail yn arweinyddiaeth S4C."

Yno hefyd roedd Derek Lloyd Morgan dlawd o Gefnbrynbrain, gwr yr oedd "ei fryd o ar fod yn fardd ond bu’n rhaid iddo fodloni ar fod yn academydd."

Yn yr un cyfnod, daw ar draws "bachgen bach trwsiadus a chymen" o Rydychen o’r enw Emyr Daniel. Deallai Emyr Price : "iddo dreulio y rhan fwyaf o’i amser yno yn chwarae pocer."

Y dirmyg mwyaf

Oes, mae na ddoniolwch yn y darluniau dychanol hyn ond penllanw’r cymhlethdodau cymdeithasol ac emosiynol a brofai Emyr Price oedd cael ei ddanfon "i fyd Tywyll Heno".

Canlyniad hyn oedd ei adael a’r "dirmyg mwyaf at y rhai sy’n sôn yn ysgafn am seilam."

Gonest, ie, ond mae yna rai cwestiynau sy’n dal heb eu hateb:
Sut y gallai gwr mor sensitif fod ar brydiau , o’i gyfaddefiad, fod yn greadur mor anodd?
Pam a sut y gallai’r sosialydd rhonc o Bwllheli deimlo’r fath ias ynghanol snobeiddiwch Rhydychen?

Fodd bynnag, mae na fwy, llawer mwy, yn y gyfrol onest hon na setlo sgôrs a sôn am seilam.

Un o'r rhai mwyaf crafog

Wedi cyfnod ffurfiannol fel athro a thiwtor, bu Emyr Price yn un o newyddiadurwyr mwya crafog, craff a chynhennus y Gymru Gymraeg a hynny am dros chwarter canrif.

Wrth ddarllen am hanes ei gyfnod yn olygydd Y Faner ni all rhywun ond teimlo hiraeth.

Dyma gyfnod pan ymlafniodd ar gyflog pitw i greu trafodaeth lachar ac i ysgwyd caets y sefydliad Cymraeg.
Coffa da amdano.

Daeth ei orig gyda’r Faner i ben ym 1985 a byth ers hynny,bu Emyr Price yn gymysg oll i gyd gydag un goes anfoddog y tu fewn i’r Sefydliad fel gohebydd a chynhyrchydd rhaglenni dogfen gwerthfawr i HTV.

Rhaglenni teledu pwysig

Dyma gyfnod lle gwnaeth waith pwysig ar raglenni fel y Byd ar Bedwar a Chanrif y Werin.

Ac yn goron ei yrfa gyfryngol,y rhaglenni dogfen amhrisiadwy ar Gwynfor Evans a Chledwyn Hughes - i enw dim ond dwy.

Ac er i rai cwestiynau aros heb eu hateb, dyma at ei gilydd, gyfrol ddarllenadwy a defnyddiol wedi ei hysgrifennu gan hanesydd a newyddiadurwr.

Er y gallai Emyr Price fod yn greadur digon cymhleth ar brydiau, doedd na ddim byd yn gymhleth am ei grefft na’i genadwri.

Biti garw bod ei deip mor brin.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy