主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrol
Nodau llesmeiriol

Caneuon Ems a'u hanes

Dydd Mercher, Mai 12, 2002

Caneuon Ems gan Emyr Huws Jones.Y Lolfa. £5.95..
tair seren ond o leiaf bedair o ran cynnwysond o leiaf bedair o ran cynnwys.

Mae seiniau llesmeiriol - ddolefus weithiau - alawon fel Ceidwad y Goleudy, Ynys Llanddwyn a Cofio Dy Wyneb wedi cyffwrdd sawl un ohonom, dros y blynyddoedd a dychan crafog caneuon fel Rebal W卯cend wedi'n gogleisio.

Yr hyn sy'n gyffredin i'r caneuon hyn a sawl un lesmeiriol arall yw iddynt oll gael eu cyfansoddi gan Emyr Huws Jones - Ems .

Caneuon sy'n cydio

Mae'n siwr o fod yn un o gyfansoddwyr poblogaidd mwyaf blaenllaw Cymru gyda'i grebwyll di-feth wrth gyfansoddi cerddoriaeth atgofus sy'n hynod o hymiadwy - a throsi gair o'r Saesneg.

Ac wele'n awr y Lolfa yn cyhoeddi casgliad o 25 o ganeuon Ems yn cynnwys Ceidwad y Goleudy, Cofio dy Wyneb a Hi yw Fy Ffrind.

Dydi hi ddim yn gyfrol sy'n gwneud llawn chwarae teg a'i thestun.

Wrth gwrs ei bod yn werthfawr cael cerddoriaeth a geiriau'r caneuon rhwng dau glawr fel hyn ac yn werthfawrocach fyth cael sylwadau Ems ei hun ar gefndir y caneuon a chynnwys lluniau o Ems a bandiau fel Y Tebot Piws a Mynediad am Ddim - ond fe allai'r wasg fod wedi sicrhau dyluniad mwy haeddiannol i'r gyfrol na'r hyn a gawn gyda nodiadau Ems wedi eu stwffio o'r neilltu braidd mewn print m芒n ar waelod dalen.

Chwater canrif o ganeuon

Mae yma werth chwarter canrif neu ragor o ganeuon gyda phob un ohonyn nhw nid yn unig wedi eu recordio ond yr artistiaid a'u canodd yn amrywio o Mynediad am Ddim i Plethyn ac o Linda Healy i John ac Alun, Iona ac Andy a Bryn Fon.

Nid dyma holl gynnych y chwarter canrif wrth gwrs. Fel yr eglura Ems:
"Wrth baratoi casgliad o ganeuon ar ffurf llyfr un o'r meini prawf ar gyfer dewis caneuon yw fod y sgwennwr yn eu lecio ac roedd hynny'n golygu fod sawl un nad oedd yn cael ei hystyried o gwbl.

"Roedd yn bwysig fod y caneuon ar record hefyd gan fod angen cael rhywun i'w cysodi, felly nid oedd modd cynnwys rhai o'r caneuon mwyaf newydd."

Dyn ynysoedd
Un o F么n ydi Emyr Huws Jones wedi ei eni ar Ynys Cybi. Er yn awr yn byw yng Nghaerdydd mae gafael yr ynys yn dal: "Yn wahanol i R. Williams Parry mae mwy o ddifyrrwch i mi yn y m么r na'r mynydd," cyfeddyf.

Dywed iddo ddechrau sgwennu caneuon yn y chwedegau yn syth ar 么l cael ei git芒r cyntaf.

Ac yntau wedi bod yn gymaint dylanwad ar y s卯n Gymraeg mae'n ddiddorol darllen:

"Caneuon Saesneg oedd y rheini, dan ddylanwad Cat Stevens, Neil Sedaka, Bob Dylan, ac eraill."

Cymysg oedd y canlyniad: "Doedd y caneuon oedd yn efelychu'r ddau gyntaf ddim yn rhy ofnadwy ond dwi'n falch iawn fod y caneuon oedd yn dynwared Bob wedi hen ddiflannu!" meddai.

Dywed mai tra'n canu efo'r Tebot Piws ac wedyn, Mynediad am Ddim, y dechreuodd sgwennu yn y Gymraeg.

Lluniau a straeon
Mae yma gasgliad difyr iawn o luniau yn y gyfrol ac mae nodiadau Ems yn sicrhau mwynhad ychwanegol inni o rai o'r caneuon poblogaidd.

Dyma a ddywed am Ceidwad y Goleudy::

"Rhywdro yn y saithdegau, roedd Ynys Llanddwyn ar werth. Dwi wrth fy modd efo ynysoedd, yn enwedig rhai gweddol fychan. Mae'r ffaith i mi gael fy ngeni a'm magu ar un yn rhannol gyfrifol am hyn mae'n siwr. Mae 'na rywbeth yn braf iawn am gael gwybod yn union lle mae ffiniau rhywun, cael gwybod yn iawn i lle mae rhywun yn perthyn.

"Rheswm arall mae'n siwr yw rhyw hen ofn y byd mawr. Ynys Llanddwyn oedd y 'nefoedd fach' gyntaf i mi ac mae'n dal yn agos at fy nghalon.

"Wedyn daeth Ynys Enlli, Agistri ac ynysoedd hyfryd o anghysbell y Shetland yn fwy diweddar.

"Roedd teulu fy mam yn dad o Niwbwrch, y pentref agosaf at Llanddwyn, ac felly roedd cyfle i fynd yno'n weddol aml pan yn blant, ac roedd rhyw deimlad fy mod yn 'perthyn'. Yng nghyfnod plentyndod fy mam roedd pobl yn byw yn y bythynnod bach del 'na sydd i'w gweld ar yr ynys hyd heddiw.

"Mae'n debyg bod 'na flodau prin ar yr ynys heddiw ac mae'n rhaid i ymwelwyr gadw at y llwybrau a chadw eu cwn ar dennyn. Go brin mai newydd ddyfodiaid yw'r blodau, ac os felly roedden nhw yno pan oedd pobl yn byw yno - ac roedd y rheini'n cadw defaid hefyd! Tybed oedden nhw wedi dysgu'r defaid i adnabod blodau prin! Dwi'n meddwl fod deud cymaint a hynna'n ddigon i esbonio'r g芒n hon.

"Mae hi'n g芒n serch syml iawn er bod rhai, fel Dewi Pws, yn meddwl ei bod yn dywyll. Yn wir, mae ef yn credu fy mod dan ddylanwad cyffuriau cryfion iawn pan sgwennais i hi. Ella mai un rheswm am y dryswch yw fad y cytgan yn s么n am rywbeth gwahanol sef y broses o sgwennu c芒n, a'r teimlad uffernol weithiau o sgwennu c芒n gyfan yn y pen a'i hanghofio cyn cael cyfle i'w rhoi ar bapur neu d芒p. Roedd hon yn wahanol diolch byth!"

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy