Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Portreadu'r Cymry

Nofel hanes sy'n afaelgar a chelfydd

Dydd Iau, Awst 15, 2002

Portreadau - Portraits gan David Griffiths. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyhoeddir i gydfynd ag arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth.

pedair seren a hanner

Bryn Terfel, Barry John, Gwynfor Evans, Arglwydd Tonypandy, Siân Phillips.

Mae’r rhestr o bobl sydd wedi eu portreadu gan yr arlunydd David Griffiths yn un drawiadol.

David GriffithsAc mae'r peintiadau hynny i’w gweld mewn llyfryn hardd a gyhoeddwyd i gydfynd ag arddangosfa o’i waith yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth tan Hydref 5.


Gyda chyflwyniad i waith yr arlunydd gan Rian Evans mae'n debyg iawn i restr pwy-di-pwy Cymru ail hanner yr ugeinfed ganrif!

Dros gyfnod o ddeugain mlynedd bu David Griffiths yn arlunydd llys answyddogol bywyd Cymru gan wisgo mantell traddodiad sy’n ymestyn yn ôl i’r arlunwyr gwlad.

Portreadodd arweinwyr ac eiconau bywyd Cymru ac yn y gyfrol hon nid yn unig atgynhyrchir y portreadau ond hefyd wybodaeth fywgraffyddol yn y Gymraeg a'r Saesneg.

David Griffiths - gan David Griffiths!Er mai yn Lerpwl y ganed a magwyd ef roedd ei gefndiryn gwbl Gymreig ac yn wr celf o dorriad ei fogail.

Gwnaeth ei hen daid lun o’r gwleidydd, William Ewart Gladstone.

Symudodd y teulu o Lerpwl i Bwllheli pan oedd David yn saith oed ac yno, yn Ysgol Ramadeg y dref, y daeth dan ddylanwad yr athro a’r arlunydd, Elis Gwyn, cyn mynd yn ei flaen i astudio celf yn Ysgol Gelf Slade yn Llundain.

Arwisgo'r Tywysog Charles yn Dywysog Cymru yn 1969 ddaeth a bri iddo gyntaf gan iddo ennill comisiwn i lunio portread ohono.

Ers hynny, lluniodd bortreadau o ddwsinau o bobl ym myd gwleidyddiaeth, dysg, meddygaeth, crefydd, celf a cherddoriaeth gan gynnwys rhai mor wahanol ag Enoch Powell a George Melly.

Sian Phillips"Mae yna draddodiad o lunio portreadau, traddodiad o groniclo’r eisteddwr yn gywir ac yn driw, dyna draddodiad Rembrandt a Velasquez a dyna’r traddodiad yr wyf i’n rhan ohono. Mae’n draddodiad anodd i’w ddilyn yn yr hinsawdd gelf sydd ohoni lle mae celf cysyniadol yn norm, os nad yn gelf sefydliadol bellach, ond rwy’n dilyn fy nghwys fy hun," meddai David Griffiths o’i stiwdio yng Nghaerdydd.

Arddangosfa Portreadau David Griffiths yw prif ddigwyddiad y Llyfrgell Genedlaethol yn ystod yr haf eleni ac mae'n dyst, meddai llefarydd, i’r parch sydd iddo a’r pwysigrwydd a roddir i artist sydd wedi dyrchafu diwylliant a chymdeithas Cymru trwy ei waith.

Jâms Nicolas"Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gael cynnal Arddangosfa Portreadau David Griffiths – arddangosfa sy’n cynnal dychymyg y cyhoedd ac sydd hefyd yn chwarae rhan bwysig gymdeithasol a chelfyddydol wrth i Gymru geisio dod i dermau â’i hinsawdd wleidyddol a diwylliannol newydd," dywedodd Michael Francis, Pennaeth Arddangosfeydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy