Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Cymeriadau lliwgar

Chwe stori â enillodd wobr

Dydd Iau, Awst 15, 2002

Sylfeini Llithrig gan Meinir Eluned Jones. Cyfrol Fuddugol Medal Lenyddiaeth, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a’r Fro.

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. £3
pedair seren a hanner

Adolygiad gan Catrin Jones

Mae’r gyfrol yn cynnwys chwe stori fer a’r rheiny’n rhai gwahanol iawn o ran cynnwys ac arddull.

Rydym yn cael ein cyflwyno i gymeriadau lliwgar fel teilsen, dynion bach sy’n byw ar y lleuad, carreg mewn wal a thorrwr codau enwog.

Canmol dychymyg

Mae’r gyfrol yn agor gyda stori rymus o’r enw Torrwyd dy Ffenest. Yn y stori hon mae’r awdur yn adrodd ei hanes yn treulio cyfnod o brofiad gwaith fel teilsen. Mae’n rhaid canmol Meinir am ei dychymyg yma.

Dwi’n hoff iawn hefyd o’r modd y mae’n defnyddio troednodiadau yn y stori. Mae’r defnydd o’r troednodiadau hyn yn bwysig yng nghyd-destun y stori gan eu bod yn cyfleu’r berthynas rhwng yr awdur â’r darllenydd. Mae’r troednodiadau yn gyfle i’r awdur gyfarch y darllenydd heb amharu ar y stori ei hun.

A’r berthynas hon rhwng yr awdur a’r darllenydd yw thema ganolog y stori. Trwy’r gwaith mae’r awdur yn ceisio ein deffro ni’r darllenwyr a’n hysgwyd. Mae am i ni wrando ar yr hyn sydd ganddi i’w ddweud. I gyfleu hyn mae’n defnyddio’r syniad o daflu carreg tuag at ffenestr.

Y ffenestr yw’r gwydr sydd fel petai o’n cwmpas ni’r darllenwyr ac yn dylanwadu ar ein golwg ni o’r byd. Tasg yr awdur felly yw meddiannu ein sylw a thorri’r ffenestr hon sy’n mynnu ein gwarchod.

"Glywaist ti hynna? Jyst rwan....y swn byddarol ‘na. ‘Rargian, mi oedd o’n uchel, doedd? Fi daflodd garreg at dy ffenestr di. Fi graciodd wydr dy fywyd hunanganolog, hunangyfiawn di."

Darllen ein meddyliau

Mae’r awdur fel pe bai’n gallu darllen ein meddyliau ni. Mae’r frawddeg hon er enghraifft:

"Mi dreuliais i gyfnod o brofiad gwaith fel teilsen ers talwm" yn sefyll ar ei phen ein hun yn heriol yng nghanol y dudalen. Ond yn union fel pe bai’n gwybod beth yw ein hadwaith ni wedyn daw’r sylw cyhuddgar mewn troednodyn: "Dwi ‘di dy rybuddio di unwaith yn barod. Paid â’m barnu i’n ôl dy ragfarnau dy hun. Darllena’n dawel a chau dy geg."

Mae’r sylwadau hyn yn elfen bwysig iawn yn y stori hon. Gan ei bod yn stori mor wahanol a dychmygol mae’n naturiol y byddwn ni’r darllenwyr yn cwestiynu. Ond mae’r stori yn codi cwestiynau pwysig ynglyn â’r berthynas rhwng yr awdur a’r darllenydd. Pa un sydd bwysicaf mewn llenyddiaeth?

Erbyn diwedd y stori mae safbwynt yr awdur yn glir: "Fi yw’r Awdur Grymus a dwyt ti ond darllenydd clwyfus na’th ryddheir o artaith fy nhestun."

Mae’r awdur am ein gweld ni’n dioddef am ein bod ni’n gwneud iddi hi ddioddef gan nad ydym yn rhoi iddi’r cydymdeimlad y mae ei angen ac am nad ydym ni yn gwrando nac yn credu’r hyn y dywed yr awdur wrthym fel arfer.

Newyddiadurwr a Brenin

Mae’r stori nesaf sef 1969? yn dangos unwaith eto fod gan Meinir Eluned dipyn o ddychymyg. Yr hyn sydd yma yw cyfweliad rhwng newyddiadurwr a Brenin. Mae’r Brenin yn honni ei fod yn gallu gweld trigolion ar y lleuad trwy ei delisgôp. Sgwrs sydd yma felly rhwng y ddau ac mae’n rhaid canmol disgrifiadau unigryw yr awdur o fywyd ar y lleuad a’r creaduriaid bach.

Ond yng nghanol y disgrifiadau lliwgar hyn mae yma hefyd feirniadaeth ar ein cymdeithas, er enghraifft "Dydi trigolion y lleuad ddim yn rhannu’r un arferion anwar â’r ddynoliaeth. Dydi yfed cwrw fflat fesul galwyn, canu ‘Sosban Fach’ yn fyngus ac arddel ffug-genedlaetholdeb ddim yn dderbyniol yn eu plith hwy".

Llenyddiaeth y lleuad

Ceir yma hefyd gyfeiriad at lenyddiaeth. Llenyddiaeth go wahanol sydd ganddyn nhw ar y lleuad. Dywed y brenin ein bod hi’n dlawd iawn arnom ni ar y ddaear o’i gymharu â nhw: "dydi hi’m yn dlawd o gwbl arnyn nhw i fyny ‘na. Arnom ni mae hi’n dlawd, mae arna i ofn; ni – y creaduriaid anffodus na all ond rhoi un ymateb i lenyddiaeth (dau ar y mwyaf, os ydych chi’n un o’r bobol ‘mae sy’n ymdrin â’r ymennydd a’r galon fel organau paradocsaidd)."

Mae’r stori yn gorffen gyda chyfres o gwestiynau rhethregol sy’n gwneud i ni’r darllenwyr i feddwl a allwn fod yn gwbwl sicr nad oes bywyd ar y lleuad.

'Ffin a anwybyddwyd'

Mae trydedd stori’r gyfrol yn trafod Clawdd Offa. Dyma "ffin a anwybyddwyd" ac yn y stori hon mae’r Cymry yn penderfynu ei hailgodi er mwyn atal y mewnlifiad. Stori wedi ei gosod yn y dyfodol yw hon gan fod yr ailadeiladu yn dechrau yn y flwyddyn 2014.

Unwaith eto yn y stori hon mae’r awdur yn cyfarch y darllenydd gan ddarllen ein meddyliau: "A pha rôl yr wyf fi’n ei chwarae yn hyn i gyd, fe’th glywaf yn gofyn."

Rhyw fath o ymson carreg sydd yma, mae’r garreg yn un o’r rhai fydd yn ffurfio’r clawdd. Ond yr eironi yma yw fod y garreg wedi ei chaethiwo. Yn union fel y mae’r clawdd yn rhoi i Gymru ei rhyddid, mae’n caethiwo’r garreg fach hon wrth iddi golli ei rhyddid am byth.

Yr olaf yn orau

Dyma flas felly ar rai o straeon cyntaf y gyfrol. Ond y ddwy stori olaf yw’r rhai gorau yn fy marn i. Erbyn y straeon hyn mae Meinir Eluned wedi llwyr feistroli crefft y stori fer ac mae yma awdur cwbwl aeddfed.

Un o’r straeon yr ydw i’n cyfeirio atynt yw Marwolaeth Llundain. Stori abswrd yw hon am ddiflaniad prifddinas Lloegr ac mae’n codi cwestiynau pwysig am y brif ddinas.

Mae’r stori’n dechrau pan yw darganfyddiadau pwysig gan gynllunydd traffig o Japan, ffisegwr o India a beirniad llenyddol o’r Aifft yn dangos nad yw Llundain yn bodoli mwyach. Ond nid oes neb yn cymryd sylw o’u damcaniaethau ac mae pawb o’r farn eu bod yn wallgof.

Ond un diwrnod mae Llundain yn rhwygo’n ddau gan adael twll mawr du ar ei ôl. Mae’r ddinas yn diflannu o flaen llygaid ei thrigolion. A’r cwestiwn pwysig y mae’r awdur yn ei ofyn yw: "Roedden nhw’n cofio’r gwesty, y fflat neu’r ty y buont yn byw ynddo (.....ond) Sut gwyddent beth oedd tu ôl i’r adeiladau?".

Er bod pawb yn chwerthin ar y stori i ddechrau gan eu bod yn gwybod eu bod nhw wedi ymweld â mannau yn Llundain, wedi iddyn nhw ystyried yn ofalus does ganddyn nhw ddim sicrwydd fod yr holl elfennau fel y siopau a’r gwestai a’r theatrau’n perthyn i’w gilydd ac yn bodoli o fewn yr un lle. "Roedden nhw wedi croesi’r ffordd i’r orsaf danddaearol. Sut gwyddent beth oedd y tu ôl i’r adeiladau?"

Profiad dinesig

Yn y stori hon mae Meinir Eluned yn trin y profiad dinesig mewn dull cwbwl wreiddiol. Ceir yma feirniadaeth ar ein ffordd o fyw yn y byd modern wrth i ni fyw bywyd ar frys a gwibio o amgylch Llundain ar drenau tanddaearol.

Mae’r awdur hefyd yn trin y testun mewn dull dychanol. Meddai’r gwyddonydd o Foscow "Wrth gwrs, fe wyddem fod Llundain yn bodoli, mae ffisegwyr fel ni, hyd yn oed, yn darllen llenyddiaeth."

Ond mae’r stori’n mynd hyd yn oed yn fwy abswrd wrth fynd yn ei blaen. Ni ellir peidio â chwerthin wrth ddarllen am Samuel Hughes sydd o’r farn fod Llundain yn guddiedig ym Methesda.

Ond y tu ôl i’r chwerthin mae yma neges ddwys. Onid yw’r awdur yn ceisio dweud wrthym yma fod Llundain yn union yr un fath ag unrhyw dref neu bentref arall gan fod yr oes yn newid ac nad yw Llundain fel yr ydym ni’n meddwl amdano yn bodoli mwyach, gan mai dim ond delfryd yw hyn i ddenu’r twristiaid?

Stori olaf y gyfrol a’m hoff stori i yw Tynged y Torrwr Codau. Yn ddiamheuaeth hon yw stori orau’r gyfrol. Mae’n stori gyffrous, llawn dychymyg ac o’r paragraff cyntaf roeddwn i wedi ymgolli yn y stori.

Datgymalu'r Beibl

Harold Gaus, Uwchdorrwr Codau i’r Asiantaeth Ddiogelwch yn Washington, yw prif gymeriad y stori. Mae ef wedi mynd ati i ddatrys codau dyrys yn y Beibl sy’n caniatáu iddo ragweld beth fydd yn digwydd yn y byd yn y dyfodol.

Ar ddechrau’r stori mae’n derbyn e-bost yn dweud fod torrwr codau arall wedi darganfod rhywbeth erchyll yn Llyfr Genesis a’i fod ef yng nghanol hyn i gyd.
Mae’r awdur wedi llwyddo i ddal ein sylw ni’r darllenwyr o’r cychwyn cyntaf felly ac roeddwn i’n ysu i wybod beth fyddai tynged y cymeriad hwn.

Mae’r e-bost yn datgan y bydd marwolaeth yn Washington a bod yn rhaid i Harold Gaus fynd i Loegr ar frys. Mae marwolaeth, ond mae’n rhaid i ni ofyn y cwestiwn a fyddai’r farwolaeth honno wedi digwydd pe na bai Gaus a’i gyfeillion wedi ymyrryd â ffawd. Onid yw grym ffawd y tu hwnt i allu dyn?

Dyma ddiweddglo ysgytwol i gyfrol sy’n werth ei darllen. Mae’r gwaith yn unigryw a’r ysgrifennu yn hynod o aeddfed yn arbennig erbyn diwedd y gyfrol.

Roeddwn i’n hoff o’r pwyslais parhaus ar y berthynas rhwng y darllenydd a’r awdur drwy’r gwaith, oedd yn adlewyrchu diddordeb Meinir Eluned mewn beirniadaeth lenyddol. Roedd hyn yn ychwanegu dimensiwn arall i’r gyfrol ac yn arbrawf oedd yn fy marn i yn llwyddo.

Awdur ifanc dawnus

Mae Sylfeini Llithrig yn brawf fod yma awdur ifanc dawnus. Yn ei chyfrol gyntaf mae Meinir Eluned wedi profi y gall ysgrifennu ar sawl gwedd gan fod yma gymysgedd rhwng y digrif a’r dwys gyda darnau ysgafn a darnau ysgytwol. Mae’r rhain i gyd yn cyd blethu yn dda a gall Meinir newid cywair yn ddidrafferth.

Yn ogystal mae wedi llwyr feistroli crefft y stori fer. Mae’r ysgrifennu yn gynnil a phob stori’n cymell y darllenydd i feddwl ymhellach. Dyma waith canmoladwy iawn felly ac rwy’n edrych ymlaen i ddarllen mwy gan Meinir Eluned yn y dyfodol.


• Ennill yn yr Urdd -

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy