主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Traeth
Llyfr Mawr am fyd Natur

Plant Ynyslas yn llunio llyfr arbennig i hyrwyddo Gwarchodfeydd Natur.

Dydd Iau, Awst 22, 2002


Mae Llyfr Mawr, a gafodd ei greu gan blant ysgol lleol, yn cael ei arddangos yn Ynyslas ar hyn o bryd.

Mae'r llyfr wedi ei greu gan feirdd ac artistiaid mwyaf blaengar Cymru a phlant ysgol yr ardal.

Mae'n rhan o brosiect newydd arloesol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru er mwyn hyrwyddo eu Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Plant o Ysgol Craig yr Wylfa yn Y Borth, ger Aberystwyth, a luniodd y cerddi a'r gwaith celf sydd i'w gweld yn y Llyfr Mawr a hynny dan oruchwyliaeth fanwl y beirdd Menna Elfyn a Gillian Clarke a'r arlunydd Jenny Fell.

Mae'r llyfr yn cael ei arddangos yng nghanolfan ymwelwyr Ynyslas yn ystod misoedd yr haf. Yn yr hydref bydd yn cael ei ddychwelyd i'r ysgol gynradd leol.

Y Llyfr Mawr yw'r cam cyntaf mewn cynllun i greu celfyddydwaith sy'n fwy gweledol yn Ynyslas dros y misoedd nesaf:

Cerfio'r cerddi ar gerflun
Bydd rhannau o gerddi a gafodd eu llunio gan y plant yn cael eu cerfio ar gerflun derw a fydd yn darlunio symudiad parhaol y tywod yn Ynyslas.

Bydd cywaith wedi ei seilio ar chwedl Cantre'r Gwaelod, chwedl leol i'r ardal, yn cael ei greu yn y ganolfan ymwelwyr. Bydd hwn yn cael ei gynllunio a'i ddatblygu gyda chymorth grwpiau lleol a fydd yn gweithio gydag arlunwyr enwog.

Mae'r prosiectau newydd hyn i gyd yn rhan o fenter newydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru mewn Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a elwir yn 'Ymdeimlad o Gyrraedd'.

Mae'r fenter yn newid mawr o'r dulliau mwy traddodiadol a ddefnyddir fel arfer i esbonio pwysigrwydd y Gwarchodfeydd i ymwelwyr.

Helpu pobol i ddeall

Meddai 厂颈芒苍 Shakespear, Swyddog Dehongli CCGC.
"Y gobaith yw helpu pobl i ddeall eu bod mewn ardaloedd arbennig drwy edrych ar natur drwy gyfrwng ffurfiau gwahanol o gelfyddyd.

"Mae nifer o'r prosiectau sydd wedi eu cynllunio hefyd yn canolbwyntio ar gael y gymuned leol i gymryd rhan, ac rydyn ni'n gobeithio cael cymaint 芒 phosib o bobl leol i gymryd rhan yn y broses.

"Mae gan lawer o'r Gwarchodfeydd gysylltiad diwylliannol cryf 芒 ll锚n gwerin Cymru a chysylltiadau gyda chymunedau lleol, a dyna pam rydyn ni wedi penderfynu defnyddio celfyddyd fel ffordd o gysylltu elfennau diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd y Gwarchodfeydd yma" ychwanegodd.

Gobeithio annog pobol
Mae'r Cyngor Cefn Gwlad yn gobeithio y bydd cymryd rhan yn y broses o lunio'r gwaith celfyddydol yn annog pobol i ddod i wybod mwy am swyddogaeth a Gwarchodfeydd.

Creu-ad sy'n cydlynu'r gwaith ar ran y Cyngor Cefn Gwlad. Grwp o arlunwyr yw'r rhain sy'n arbenigo mewn gweithio ar brosiectau sy'n gysylltiedig 芒 chymunedau a'r amgylchedd yng nghefn gwlad Cymru,

Bydd y fenter yn digwydd mewn pump o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol trwy Gymru sef:
Coedydd Aber ger Llanfairfechan, Tywyn Niwbwrch yn Ynys M么n, Oxwich ym Mhenrhyn Gwyr, Cors Caron yng Ngheredigion ac Ynyslas.

Dyma rai o'r cerddi sydd i'w gweld yn y Llyfr Mawr:

C芒n Y Moresg

Canu a wna'r gragen, c芒n am y cranc
Canu wna'r adar yn yr awyr,
canu wna'r tonnau yn yr hwyr,
ond sibrwd a wna siani flewog yn y glaswellt.

厂颈芒苍
Canu'r m么r ar y traeth
canu'r cerrig yn y m么r
canu'r gwymon yn y dwr -
caneuon, alawon sy'n llawn stwr

Thomas
Canu'r cranc, canu'r cregyn
canu'r clogwyn yn y moresg

c芒n creadur, c芒n y cerrig
c芒n holl glychau Cantre'r Gwaelod

c芒n gwylanod yn y m么r
c芒n tlws y moresg pigog

John
Tonnau'n taro ar y glust
swn mawr swnllyd ar y traeth
canu'r neidr llithrig iawn,
clywed seiniau yn y prynhawn.

Rhiannon
C芒n y cregyn, c芒n y cranc
canu'r cocos yn y moresg

canu'r tywod, canu'r traeth
twyni'n cwympo o dan foresg.

Shaun
Acenion y cregyn fel y m么r
canu mawr ar hyd y tywod
mae gan bob creadur, dafod.

Dylan
Canu'n hapus a hopian o gwmpas
canu gyda babis, canu yn yr haul
canu c芒n y gragen
c芒n sy'n dweud 'amen'.

Caroline
Canu'r gragen. Canu'r cranc,
canu'r cregyn ar y banc
c芒n y Tegeirian Bera
c芒n y berta, berta...
canu pili pala yn yr haul
c芒n yr awel bob yn ail.

Samantha
C芒n yr wylan ymhell ar y m么r
canu'r neidr yn y moresg
canu'r blodau, canu'r traeth
c芒n y m么r a'i hiraeth.

Shanice
Y falwen gylchog
fel rhes ar 么l rhes o s锚r y llwybr llaethog,
yn chwyldroi'r fythol ar ei thaith;
cragen hardd o liwiau'r enfys
yn llithro'n araf ar y traeth.

Hannah
C芒n y cranc
C芒n y cregyn
C芒n y m么r yn y moresg

C芒n yr haul
fach droellog
c芒n yr halen
c芒n y gloch
Och, yng Nghantre'r Gwaelod

Sarah
Y falwen gylchog mewn cragen
yn edrych fel gwydr pigog clir
Os daw storm, does dim ots.
Cloi ei drws a wnaeth hi
a llithro ymlaen pan stopia'r storm.

Gan blant Ysgol Craig-yr-Wylfa, Borth.


Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy