主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y llyfr
Cynfas Cymreig

Golwg ar luniau Mary Lloyd Jones

Dydd Iau, Awst 29, 2002

Delweddau o鈥檙 Ymylon gan Ceridwen Lloyd-Morgan a lluniau gan Mary Lloyd Jones. Y Lolfa. 拢24.95
Pedair seren
Adolygiad gan Lois Eckley

Mae鈥檔 siwr gen i fod pob artist neu sgwennwr yn palfalu ym mhob cornel o鈥檜 hunain cyn dod o hyd i鈥檙 hyn maen nhw am ei ddweud a鈥檌 gyfleu.

"Dyluniwch yr hyn rydych chi鈥檔 ei adnabod ac yn ei ddeall - yr hyn sydd yn agos ato chi"yw鈥檙 cyfarwyddyd.

Er cymaint mae hynny鈥檔 gwneud synnwyr, dyw鈥檙 dod o hyd a chyfleu yr hyn rydych chi鈥檔 fwyaf cyfarwydd ag ef ddim bob amser yn rhwydd, hyd yn oed os yw e o dan ein trwynau.

Brwydro'n galed

Mary Lloyd JonesA 46 o arddangosfeydd yn ddiweddarach mae Mary Lloyd Jones wedi brwydro鈥檔 galed yn ei Cheredigion i ddod o hyd i鈥檞 hiaith weledol er i ddarnau ohono weiddi arni mewn cylchoedd coch o鈥檙 matiau rhacs yn Rhos-y-gell ble cafodd ei gwersi piano.

Dilyn bywyd a gwaith yr artist arbennig yma mae'r gyfrol Delweddau o鈥檙 Ymylon gan Ceridwen Lloyd-Morgan sy'n rhoi sylw i waith gwraig sydd wedi cyfoethogi bywyd y celfyddydau gweledol yn ei hardal ar ei ganfed.

Yn ferch, yn Gymraes ac yn arlunydd doedd bywyd ddim yn rhwydd.

Cefnogaeth deuluol

Cafodd gefnogaeth hollbwysig ei theulu - wrth i鈥檞 thad wthio am gystadlaethau celf yn eisteddfod y capel ac wrth i鈥檞 mam roi golau dydd i鈥檞 lluniau pan ddeuai ymwelwyr i鈥檙 ty.

Wrth newid o un cyfrwng i鈥檙 llall; o bortreadau a gwaith gwnio a batic fe ddaeth yr arlunydd o hyd i鈥檞 gwreiddiau yn yr Ogam ac yng nghoelbren y beirdd gan beri i'r daith i鈥檙 heddiw fod yn llawn o liwiau a phrofiadau fel dechrau ysgolion haf i feithrin celfyddyd yng Ngheredigion a magu teulu a gweithio yn llawn amser.

Trwy ddilyn ei hanes hi yr ydym yn dilyn hanes datblygiad celfyddyd weledol yng Nghymru hefyd gan fod ei gyrfa hi yn rhan annatod o'n bywyd Celfyddydol.

Mynnu paentio

Gan ddechrau canolbwyntio yng Ngholeg Celf Caerdydd ymhlith artistiaid eraill fel Ernie Zobole a Dai Mainwaring, amlygodd natur benderfynol y wraig ben ddu ei hun wrth iddi fynnu astudio paentio fel ei phrif bwnc er mai brodwaith a wthiwyd arni.

Erbyn heddiw mae hi鈥檔 gosod pwyslais mawr ar gyfathrebu gyda ni ac mae鈥檙 iaith yn ei gwaith yn enghraifft o hynny.

StiwdioIaith y lleiafrif, sydd yn berthnasol i bob person sy鈥檔 rhan o unrhyw leiafrif ar draws y byd, nid ni鈥檙 Cymru yn unig.

Mae hi hefyd yn ymfalch茂o ei bod hi bellach wedi darganfod ei llais a chynfas i鈥檞 leisio.

Ynghanol hyn i gyd bu cyhoeddi鈥檙 llyfr yn frwydr sydd wedi ymestyn dros ddwy flynedd.

Ond diolch i dros 200 o danysgrifwyr fe sicrhawyd clawr caled i鈥檙 cyhoeddiad.

Mae yna alw - a digonedd o le ar y silff lyfrau - i鈥檙 math yma o lyfr, a da fyddai gweld mwy.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy