Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Angharad Price
Pwyso a mesur llenyddiaeth

Cyfrol o feirniadaeth lenyddol gan brif lenor Tyddewi

Dydd Iau,Hydref 10, 2002

Rhwng Gwyn a Du gan Angharad Price. Gwasg Prifysgol Cymru. £14.99.
Adolygiad gan Gwyn Griffiths.


Daeth darllen Rhwng Gwyn a Du gan Angharad Price, enillydd Medal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi, ag ambell atgof cymysglyd.

Is-deitl y gyfrol yw Agweddau ar Ryddiaith Gymraeg y 1990au ond mae’n ymdrin yn bennaf â gwaith Robin Llywelyn.

Sgwrs steddfodol

Cofiaf sgwrs gyda dau gyfaill tra llengar ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol rywbryd yn nechrau’r 90au.
Rhywbeth tebyg i hyn fu’r sgwrs:
CYF 1: Hei, bois, chi wedi darllen nofel y Robin Llywelyn ’na? Ês i ddim pellach na thudalen pump ...
CYF 2: Fe euthum i cyn bellad â thudalen saith ond maen nhw’n deud i mi fod AB (gan enwi cyfaill arall nid anadnabyddus ym myd llên ein cenedl) wedi mynd cyn bellad â thudalen ugain
CYF 1:
Blydi hel!
FI: Rwy i wedi phrynu hi ...
CYF 1: Gad hi fanna, was! Sdim ise i ti aberthu rhagor ...

Rwy'n cofio i mi wedyn adrodd hanesyn am rywbeth ddwedodd Waldo Williams wrthyf unwaith.
"Tybed p’un sy waethaf," holodd Waldo, "sgrifennu llyfyr mae pawb yn ei ddarllen a neb yn ei brynu, ynteu lyfyr mae pawb yn ei brynu ond neb yn ei ddarllen?"

Y canlyniad fu na lwyddais i ddarllen Seren Wen ar Gefndir Gwyn nac ychwaith O’r Harbwr Gwag i’r Cefnfor Gwyn.

Ond wnes i ddim ymdrech galed iawn ychwaith.

Rhai'n methu rhai'n canmol

Ym mhennod gyntaf Rhwng Gwyn a Du mae’r Dr Price yn ein hatgoffa o’r dadlau a fu ynghylch y ddwy nofel – wedi’r cwbl yr oedden nhw'n nofelau a enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol gyda rhai, fel fy nghyfeillion ar y Maes, wedi methu a’u gorffen.

Ond eraill yn eu canmol a'u dyrchafu tu hwnt i’r cymylau.

Meddyliais ymhellach; y dyddiau hyn pan fo cyn lleied o adolygu llyfrau Cymraeg mor ddyledus ydym i’r Eisteddfod Genedlaethol fod o leiaf rai llyfrau’n dod yn destun trafod a beirniadaeth.

Diddorol gweld cynifer o adolygiadau a gafodd nofelau Robin Llywelyn ond rwy'n amau i'r sefyllfa waethygu wrth i’r degawd fynd rhagddo.

Pwysigrwydd gwreiddioldeb

Ond digon am hynny. Teg iawn yw dadleuon y Dr Price am bwysigrwydd gwreiddioldeb gwaith er y gall y gwreiddioldeb a’r arbenigrwydd hwnnw drwy greu dieithrwch fod yn dramgwydd i fwynhad a dealltwriaeth.

Yr hyn sy’n broblem i mi yng ngwaith Robin Llywelyn - yn fwy na neb - yw’r arddull yn hytach na’r cynnwys ac wele’r Dr Price yn son am iaith-ddieithrio fwriadol gan yr awdur.

Yr hyn sy’n fy mhoeni i, onid digon bod y cynnwys yn anghyfarwydd heb ychwanegu at ein anghysur gyda brawddegau sy’n cymhlethu pethau ymhellach?

Gwneir yn fawr o gemau geiriol Robin Llywelyn gydag enghraifft o hyn mewn brawddeg o stori Nid Twrci Mo Ifan o’r gyfrol Y Dwr Mawr Llwyd lle mae’r awdur yn pentyrru priod-ddulliau:

"Tyrrai’r werin bobl o bell ac agos, o bant i bentan ac o Fôn i Fynwy i fynychu’r achlysur hwyliog hwn."

Daw hyn, neu felly roeddwn i’n ei ddeall, o ddylanwadau Gwyddeleg ar Robin Llywelyn.

Fedra i yn fy myw weld pwynt hyn chwareus neu beidio - gan fod brawddegau fel yna’n achosi rhwystredigaeth imi.

Pam yffach bodloni heb ychwanegu o Gaergybi i Gaerdydd ac o Lanandras i Dy Ddewi, hefyd!

Defnydd o'r Gymraeg

Y gwir yw fy mod yn ymdopi’n haws â chyfrol y Dr Price wrth iddi ymdrîn â llenorion Cymraeg eraill yng nghyswllt ôl-foderniaeth – hyd yn oed broto-ôl-foderniaid!

Diddorol yw’r ddadl fod Cymreictod a defnydd o’r iaith yn fwy realistig mewn nofel ffantasi nag mewn nofel Gymraeg yn y traddodiad realaidd.

Mewn gwlad lle na cheir cymdeithas uniaith Gymraeg mae’n afreal sgrifennu nofel gyfan-gwbl Gymraeg.

"Bydd realaeth draddodiadol yn rhwym o fradychu realiti’r Gymraeg," meddai'r Dr Price.

Diwedd hyn i gyd oedd imi chwilota hyd fy silffoedd llyfrau am un o weithiau Robin Llywelyn.

Deuthum o hyd i O’r Harbwr Gwag i’r Cefnfor Gwyn ac wedi cyrraedd tudalen 65 gan brysur ddiffygio.

Prawf i lyfr Angharad Price gael rhywfaint o effaith arnaf, o leiaf.




Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy