Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Geiriau buddiol

Geiriadur newydd ar gyfer dysgwyr

Dydd Iau, Hydref 31, 2002

• What's the Word for . . . Beth yw'r Gair am . . . gan Carol Williams. Gwasg Prifysgol Cymru. £4.99.
Pedair seren

Mae geiriadur cynhwysfawr yn rhywbeth y mae pob dysgwr yn ysu amdano - a waeth pa iaith ydych chi'n ei dysgu fe ddywed dysgwyr wrthych nad oes yna byth un sy'n ateb pob gofyn.

Dalennau deniadol a chlir y geiriadurGwir hynny yn y Gymraeg hefyd er bod yna gryn gnwd ohonyn nhw erbyn hyn ac wele un newydd arall gan Wasg Prifysgol Cymru.

Os geiriadur hefyd gan mai geirfa yn hytrach na geiriadur ydi What's the word for . . . - Beth yw'r gair am . . . gan Carol Williams sy'n cyflwyno dros fil a hanner o eiriau-pob-dydd.

Fodd bynnag, nid oes dadlau nad aeth cryn feddwl i'w gynllunio a hynny'n golygu ei fod yn ddeniadol a hwylus o ran cyflwyniad gyda nifer o luniau deuliw glas a du deniadol.

Defnyddir yr un lliw i dynnu sylw at ddywediadau sy'n defnyddio'r gair dan sylw.

Y mae cymorth hefyd i ddod o hyd i ystyr geiriau sydd wedi treiglo - er enghraifft pe byddai rhywun yn chwilio am y ffurf dreigledig droed mae dull hwylus o ddarganfod mai troed oedd y gair yn wreiddiol.

Trosiad uniongyrchol o eiriau sydd yma er y byddai'n siwr o fod yn ddefnyddiol i ddysgwyr pe byddid wedi cynnwys ail air Cymraeg am yr un gwrthrych pan yw hynny'n addas - er enghraifft dan bad ceir eg (badau): boat ond dim sôn mai cwch yw gair rhai ardaloedd. Ac, wrth gwrs, dydi bad ddim yn cael ei gynnig dan cwch ychwaith.

Wrth gyflwyno'r geiriadur dywedir y bydd o help i ddysgwyr ddatblygu sgiliau defnyddio geiriadur a gwir hynny.

Er iddo gael ei seilio ar eirfa a ddefnyddir i ddysgu Cymraeg fel ail iaith i’r rhai 7–11 oed dywed y cyhoeddwyr y bydd yr amrywiaeth o eiriau a'r diwyg yn sicrhau y bydd o werth i ystod oedran ehangach a "rhai sefyllfaoedd iaith-gyntaf."

Bydd y nifer o luniau sy'n cael eu cynnwys yn fuddiol i athrawon gychwyn trafodaeth efo dysgwyr mewn dosbarth.

Yn ogystal â'r llyfr ei hun y mae hefyd ond dydi hi ddim yn cynnig yr holl eiriadur ar y we fel y byddai rhywun yn meddwl ar yr olwg gyntaf.

Ond mae'r cyfan yn ychwanegiad buddiol ddigon.


Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy