主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Bywyd Mici

Mici Plwm yw'r diweddaraf o awduron Cyfres y Cewri - a dydi stori'r clown ddim yn un wirion

Dydd Iau, Tachwedd 7, 2002

Meical Ddrwg o Dwll y Mwg gan Mici Plwm. Cyfres y Cewri 25. Gwasg Gwynedd. 拢6.95.
Pedair seren

Y tu 么l i'r w锚n ar wyneb clown. . .
Mae'n ystrydeb s么n am y difrifoldeb sydd wrth wraidd bywyd digrifwyr - ac yn sgil cyhoeddi y gyfrol hon synnwn i ddim na fydd Mici Plwm, druan, wedi cael llond bol ar glywed yr ystrydeb yn cael ei hailadrodd hyd syrffed.

Ond yn ei achos ef mae'n fwy nag ystrydeb; mae'n wirionedd.

Dwys a difyr

Yn wahanol i'r disgwyl i lawer mae mwy o'r dwys nag o'r doniol yn y cofiant hwn a gyhoeddwyd ganddo mewn cydweithrediad 芒 Lyn Ebenezer yng Nghyfres y Cewri.

Dydi hynny ddim, fodd bynnag, yn ei gwneud yn gyfrol drom ond yn un ddifyr odiaeth.

Ond mae'n bwysig sylweddoli mai llyfr yw hwn am y Michael Lloyd Jones nad yw'r cannoedd o edmygwyr Mici Plwm neu Plymbo'r Clown yn prin ei adnabod os yn ei adnabod o gwbl.

Ac fel pe byddai i bwysleisio hynny prin y byddai'r rhai sydd ond yn adnabod y Twmffat Twp yn adnabod wyneb y gwr sy'n syllu arnom oddi ar glawr y llyfr.

Mae Mici Plwm - waeth defnyddio'r enw a ddefnyddir gan bawb - i'w edmygu am fod mor onest amdano'i hun - a bod yn onest hefyd heb fod yn ddagreuol, yn sentimental nac yn gas.

Yn sicr, nid aeth ati i lunio cofiant showbiz. Eer mai yn y byd hwnnw y gweithiodd nid dyna fyd y person preifat y down i'w adnabod yma.

Mewn cartref plant

Wedi ei fagu oddi wrth ei rieni mewn cartref plant mor hawdd fyddai hi iddo'n awr gael ei ddal yn y fagl o fod yn ddagreuol or-deimladwy.

Yr hyn a gawn, fodd bynnag, yw onestrwydd a theimlad.

Mae'r hanes yn cychwyn ym mlynyddoedd yr Ail Ryfel Byd gyda Mr a Mrs Barnett Harrison a'u merch Daphne o Lundain yn symud i fyw yn ardal y Blaenau.

Maes o law priododd Daphne a Chymro lleol ac ar Fehefin 6, 1944, ganwyd eu hail blentyn, Michael.
Dyma'r Meical Ddrwg o Dwll y Mwg yn nhestun y cofiant hwn. Mici Plwm - ac mae eglurhad o'r enw hwnnw hefyd.

Yn un o bedwar o blant fu o ddim yn blentyndod hawdd. Gyda'i fam yn treulio cyfnodau mewn ysbyty meddwl magwyd y teulu bach mewn cartref plant.

"Byddai pymtheng mlynadd yn mynd heibio cyn y c芒i Mam ddod allan o'r ysbyty. Pymtheng mlynadd cyn y bydden ni'n deulu cyfan unwaith eto. Fe wnes i fynd i Fryn Llywelyn yn blentyn chwech oed. Fe fyddwn yn dod allan yn ddyn ifanc," meddai.

Hen blant Bryn Llywelyn

Wrth gwrs yr oedd stigma yn perthyn i'r fath drefniant yr adeg honno.

"Cyn i ni fynd i'r cartra, plant Huw Morris, neu blant Huw M么r fydden ni ond, wedi i ni fynd i'r cartra, 'hen blant Bryn' oeddan ni."

Yn wahanol i nifer a fu'n byw mewn cartrefi does gan Mici Plwm ddim, diolch byth, hanes o gamdriniaeth ac mae'n hael ei deyrnged i'r gofal a gafodd.

"Mi oedd Bryn Llywelyn fel adra. Gwell nag adra i rai."

Ond mae adra ac adra wrth gwrs a sawl disgrifiad, cynnil ddigon, yn dweud cyfrolau:
"Yn hytrach na bod yn aelod o uned deuluol o chwech fel cynt, roeddwn i'n aelod o un teulu mawr, ond yn unigolyn - ac yn aml yn unig - ymhlith y rheiny."

Ac wrth gloi'r bennod hon yn ei fywyd dywed;:
""Ia, Metron a Mistar, hi yn angyles, ef yn iawn yn ei ffordd. Y ddau yn fawr eu gofal ohonan ni. Ond nid Nhad a Mam oeddan nhw."

Ie.

Llwyddir i gyfleu cyfnod anodd heb i'r peth fod yn fwrn nac yn ddagreuol.

Syr Wynff a Phlwmsan

Amhosib, wrth gwrs, fyddai peidio ag ystyried Mici Plwm ar yr un gwynt a Syr Wynff - Wynford Ellis Owen - ac adroddir yma hanes y bartneriaeth hynod a ddaeth i fodolaeth gyntaf drwy'r gyfres deledu i blant, Teliffant.

Lladdwyd ac atgyfodwyd Syr Wynff a Phlwmsan fwy nag unwaith yn 么l mympwyon comisiynwyr teledu fel y cawn ein hatgoffa yma a hynny'n rhywbeth a fu'n ddirgelwch nid yn unig i'r ddau arwr ond i'w cynulleidfaoedd niferus y daeth ymadroddion fel piwsig piwsig a raslas bach a mawr yn rhan o'u geirfa bob dydd.

Nid Mici ei hun yw'r unig un i ryfeddu at rai o benderfyniadau y byd teledu Cymraeg. Yn wir mae ganddo ef fwy nac un asgwrn i'w gnoi yn y maes hwn.

Mae hanesyn am gyfres arfaethedig am ynys Tristan da Cunah yn ddadlennol a dweud y lleiaf. Er cymaint o elfennau diddorol a gynigwyd gwrthodwyd y syniad gan S4C am na chredwyd fod y pwnc "o ddiddordeb".

"Pan dderbyniais y llythyr, cystal imi gyfaddef i mi grio . . . diolch i fympwy un neu ddau o bobl, chaiff gwylwyr S4C, yn anffodus, ddim rhannu fy mreuddwyd," meddai.

Tebyg y teimlir ym Mharc Ty Glas mai hysio haid o bobl ifanc meddw drwy glybiau nos tramor sydd "o ddiddordeb" i wylwyr Cymraeg y dyddiau hyn - yn enwedig os gellir ffilmio merch wirion a'i safn yn nhr么ns dyn diarth y tu allan i glwb nos.

Gall rhywun ddeall yn iawn beth sy'n peri i Mici yr ymgyrchydd dros Sianel Gymraeg yn y saith a'r wyth degau ddweud:

"Petai raid i mi dreulio dyddiau a nosweithiau yng ngharchar eto, fe wnawn i'n siwr y byddwn i'n gwneud hynny am achos amgenach na'r sianel sy ganddo ni."

Raslas bach a mawr, fel y byddai Syr Wynff yn dweud.

Cyfaill alcoholig

Un o benodau dewraf y gyfrol - a'r un anoddaf i'w sgwennu, siwr o fod - yw honno lle mae Mici yn trafod perthynas y ddau actor yn ystod y cyfnod hwnnw pan oedd Wynford yng ngafael gefail alcoholiaeth.

Yr hyn a gawn yn, "Yn Gaeth i Alcoholig" yw golwg onest ar gyfaill yn dygymod ag effeithiau salwch cyfaill.

"Wn i ddim a yw hynny'n ddeud rhy fawr ond roedd o'n gaeth i alcohol a minnau'n gaeth i alcoholig," meddai gan egluro hefyd sut y bu mynd drwy'r profiad yn ofid ac yn friw iddo yntau hefyd.

Dyfodol fel canwr

Wedi dweud hyn oll dydi'r gyfrol ddim yn amddifad o hiwmor ychwaith. Ymhlith y goreuon o'r ffraethinebau yw sylwadau beirniaid canu am ymdrech y Michael Lloyd Jones bychan ymhlith deugain o gystadleuwyr:

"'Gyfeillion annwyl, baswr fydd hwn," A'r dorf yn cymeradwyo eto cyn i'r beirniad ychwanegu. 'Ond baswr s芒l gynddeiriog.'"

Bu gyrfa yr Hen Hogyn y Bryn hwn yn un amrywiol a diddorol gan gychwyn yn drydanwr cyn cael gwaith yn y theatr Gymraeg yn nyddiau blaengar Wilbert Lloyd Roberts, sy'n amlwg yn arwr mawr.

Ac nac anghofiwn ddyddiau'r disco teithiol a Disc a Dawn hefyd cyn dyfod ohonynt hwyl gwahanol dyddiau Syr Wynff a Phlwmsan.

Profiad ar y mór

Ac yn ystod y daith bu amser i deithio byd, i weithio yn Hollywood ac ymgymryd 芒 gweithgarwch gwirfoddol dros eraill - yn enwedig yng nghyswllt y Jubilee Sailing Trust sy'n cynnig profiad i'r anabl ar long hwyliau draddodiadol.

Ac y mae ei ap锚l daer am fenter debyg mewn gwlad a chymaint o draddodiad y mór yn perthyn iddi a Chymru yn un gwerth ei hailadrodd yn y gobaith y bydd mudiad fel yr Urdd yn cymryd yr awgrym o ddifrif:

"Fe fuasai'n wych petai'r Urdd neu rywun yn gwneud rhywbeth tebyg," meddai gan ychwanegu, "Mae gen i ffrind mawr, Fred Kilgour . . . a ddaeth i Drefor adeg y rhyfel ac sydd wedi dysgu Cymraeg . . .

"Fe gododd un bore a chanfod ei fod yn fyddar bost. Mae o wedi bod yn sgwennu dros y blynyddoedd i'r Swyddfa Gymreig ac wedyn at y Cynulliad yn ymbil am long hwyliau er mwyn i bobol Cymru gael y profiad unigryw yma o fwynhau'r elfennau . . . Ac mi faswn i'n enwi'r llong yn Fred Kilgour."

Minnau hefyd.

Tebyg mai'r ganmoliaeth uchaf i unrhyw gofiant yw ei fod nid yn unig yn digoni y chwant fusneslyd sydd ym mhob un ohonom ond yn rhoi golwg arall ar fyw a bywyd hefyd. Mae Meical Ddrwg o Dwll y Mwg yn cyflawni hynny.
Glyn Evans

Holi Mici Plwm


Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy