主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Ych a fi!

Chwilio a chwalu ymhlith chwedlau gwerin

Dydd Iau, Tachwedd 21, 2002

Diwylliant Gwerin Morgannwg gan Allan James. Gwasg Gomer. 拢12.95.
Tair seren

Byddai'r hen Wladfawr o Batagonia, Fred Green, yn disgrifio'r ceffyl fel anifail twp iawn o'i gymharu ag ych fel anifail gwaith ar fferm.

Yr oedd ganddo, meddai, barch aruthrol tuag at ychain fel anifeiliaid gweithgar a chall.

Yn hynny o beth yr oedd mewn cytundeb llwyr 芒 hen amaethwyr Morgannwg ac fe welir sawl enghraifft o'u parch hwy tuag at yr anifail hwn yng nghyfrol Allan James, Diwylliant Gwerin Morgannwg.

Statws arbennig

Yn y bennod Byd yr Ych daw yn amlwg fod i'r ych "statws symbolaidd arbennig" o fewn y gymuned amaethyddol gyda "parch anghyffredin" tuag ato.

"Roedd yn weithiwr ffyddlon ac yn anifail a gynysgaeddwyd, ym marn y gwladwr, 芒 rhyw allu greddfol tra arbennig," meddir - ac mae'n ddiddorol sylwi mai yr un yn union oedd profiad Fred Green yntau yr holl filoedd o filltiroedd dros yr Iwerydd ym Mhatagonia.

Disgrifir yn llyfr Allan James sut y byddai'r amaethwr yn "cyfathrebu'n gyson 芒'r ych ac yn ei drin fel un a ddylai rannu cyfrinachau'r teulu."

Byddai peth o'r cyfathrebu hwn ar g芒n ac yr oedd yn rhinwedd o bwys mewn gyrrwr ychain fod ganddo lais a chof da ar gyfer canu a chofio'r amryfal dribannau wrth ei waith.

Cyfansoddi tribannau

Byddai'n was mwy gwerthfawr fyth, wrth gwrs, pe gallai hefyd gyfansoddi tribannau newydd o safon - achos nid gwiw canu unrhyw hen rigwm yng nghlyw anifeiliaid cyn bwysiced ag ychain.

Dyfynnir nifer helaeth o'r tribannau yn y gyfrol:

Mae s么n drwy'r fro a'r Blaena,
Am ychain mawr y Sela,
Y nhw o Fargam i Golhuw
O lawer yw y gora.

Yw un ymffrost ac mae arall yn dweud:

Mae geni bedwar bwlyn
Yn pori brig yr eithin;
Hwy doran gwys o'r mwya gwych
Hwy gerdda'n rhych i'r blewyn.

Ac eto

Mae gen i bedwar bwlin
Sy'n byw ar ddail yr erfin
Fe redant ton mor syth or bron
Ru'n trwch a gwrych y mochyn.

Ffordd o fyw

Yn ogystal 芒 bod yn ddifyr ynddynt eu hunain y mae'r tribannau hyn erbyn heddiw yn gyfrwng gwych i gyfleu inni natur ffordd o fyw sydd wedi hen ddiflannu.

"Afraid dweud fod y tribannau hyn yn cynnig cyfres o ddarluniau difyr a dadlennol sy'n cyflwyno'r darllenydd i gyfnod a chymdeithas hollol ddieithr ac i ddull o fyw ac athroniaeth gymunedol a heriwyd yn y pen draw gan ddatblygiadau'r oes ddiwydiannol."

A'r hyn sy'n fendigedig wrth gwrs yw eu bod yn ddarluniau o holl amryfal agweddau y bywyd gwledig y cyfnod cyn-ddiwydiannol.

Mae'r triban hwn, er enghraifft, yn ein goleuo beth oedd yn dderbyniol fel pryd da:

Cawl sydd yn frasder drwyddo
A ser yn nofio arno,
A'i flas yn tynnu dyn yml'an
A'r calla'n ei fendithio.

Weithiau gall gormod o'r hyn sy'n dda fod yn syrffed;

Mi gefais gawl i ginio
Caf gawl i swper heno;
Fe gaiff y feistres fyn'd i'r diawl
Cyn yfai chawl hi eto.

Canmol y casglwyr

Yn y pen draw, emyn o glod i'r casglwyr hynny a ddiogelodd y gweithiau hyn a channoedd o rai eraill tebyg iddyn nhw mewn sawl agwedd o fywyd yw y gyfrol hon gyda diddordeb Allan James gymaint yn y dull o gasglu ag yn yr hyn a gasglwyd.

Gellid cyhuddo rhywun o fod braidd yn slic wrth ddweud mai cyfrol sy'n gyforiog o bethau difyr yw hon ond nid cyfrol arbennig o ddifyr ynddi ei hun.

Ond rhaid ychwanegu mai o safbwynt y darllenydd cyffredin y mae rhywun yn dweud hynny a chan mai fel cyfrol ysgolheigaidd y'i bwriadwyd rwy'n syrthio ar fy mai nad yw'n feirniadaeth gwbl deg - ond yr wyf yn flin na allaf ei mwynhau i'r graddau y teimlaf y dylwn.

Ond y mae modd i'r darllenydd llai ysgolheigaidd ei hyfforddiant fynd i ryw raddau y ffordd arall heibio i'r drafodaeth ysgolheigaidd a mwynhau y pethau eraill.

Mae'r awdur, sy'n brif ddarlithydd y y Gymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg, yn gosod ei fater gerbron reit ar gychwyn y gyfrol trwy ddweud:

"Nod y gyfrol hon yw ail-greu darlun o gymdeithas werinol ei natur drwy gyfrwng cyfres o ddogfennau perthnasol a luniwyd neu a ddetholwyd gan groniclwyr sy'n perthyn i wahanol gyfnodau ac i amrywiaeth o gymunedau.

"Mae'r darlun cymdeithasol hwnnw, ar y naill law yn dangos gwerinwr wrth ei waith ac, ar y llaw arall, yn cynnal ac yn gwarchod hen draddodiadau ei gynefin."

Er mai ar Fro Morgannwg y canolbwyntir nid oes amheuaeth fod yma adlewyrchiad o gymunedau Cymreig eraill.

Amrywiaeth o bynciau

Y mae teitlau y gwahanol benodau yn cyfleu natur y gyfrol a diddordeb ei hawdur yn y broses o gasglu a diogelu; Y Traddodiad Llafar, Casglwyr, Casglu a Chofnodi.

Fel y byddai rhywun yn disgwyl, mae penodau cyfain ar Y Fari Lwyd, Arferion y Nadolig a'r Calan, hela'r dryw ac hefyd bennod hynod ddiddorol ar arferion elusennol.

Y mae pennod i ffoli arni am yr iaith hyfryd honno y Wenhwyseg gyda geirfa gynhwysfawr eithriadol o ddiddorol.

Gyda'r holl elfennau diddorol hyn trueni na ddewisodd yr awdur boblogeiddio ei drafodaeth gyda thrafodaeth llai ysgolheigaidd.

Byddwn wedi croesawu hefyd ymdrech ganddo i gyfieithu dyfyniadau Saesneg i'r Gymraeg.

Ond wedi dweud hynny yr ydym yn cael am ddim ond 拢12.95 lyfr safonol, awdurdodol, o dros 300 tudalen gyda nifer helaeth o luniau difyr.
Tipyn o fargen.
Glyn Evans


Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy