主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gwyn Sion Ifan
Newid byd wrth werthu llyfrau

Ond er gwaethaf pob chwyldro mae llyfrau yma o hyd . . .

Dydd Iau, Tachwedd 21, 2002

Dydi cadw siop lyfrau ddim yr hyn oedd o. Erbyn hyn, th芒l hi ddim sefyll y tu 么l i lathen o gwonter yn disgwyl cwsmeriad. Yn hytrach, rhaid mentro allan i ganol pobl i werthu.

Dyna brofiad Gwyn S茂on Ifan, rheolwr siop Awen Meirion sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed yn Y Bala eleni.

Mynd o'r siop

Ac wrth edrych yn 么l dros flynyddoedd cyffrous yn hanes y diwydiant cyhoeddi a recordiau Cymraeg mae Gwyn yn edrych ymlaen yn frwdfrydig tuag at y dyfodol hefyd.

"Erbyn hyn, fedrwn ni ddim disgwyl i bobl weld be sy ar gael trwy ddod i mewn drwy'r drws yn unig," meddai.

"Mae'r amser wedi hen ddod i ni fynd 芒 llyfrau at ein cwsmeriaid. Felly, dwi'n mynd o amgylch ysgolion a chymdeithasau yn gwerthu llyfrau.

"Dwi'n gweithio'n galed i hyrwyddo llyfrau ac i wneud hynny mae'n bwysig mynd allan i'w dangos.

Awduron yn y siop

"Yn ddiweddar dwi hefyd wedi bod yn gwerthu a hyrwyddo llyfrau drwy gael awduron yma i'r siop ac yn cynnal sesiwn lofnodi. Mae hyn yn rhoi cyfle i'r darllenwyr ddod i adnabod awduron yn ogystal 芒 bod yn ffordd o hyrwyddo gwerthiant a drwy hynny cael bobl i'r siop."

Wrth edrych yn 么l dros ei flynyddoedd yn y siop ychwanegodd:
"Mae'n swydd sydd yn dod yn fwy o sialens ac oherwydd y gystadleuaeth hyrwyddo sydd dros y we, mae'n golygu bod yn rhaid i siop fach fel Awen Meirion ehangu a'r cam nesaf fydd sefydlu ein tudalen ein hunain ar y we.

"Ar hyn o bryd mae na nifer o gwsmeriaid yn cysylltu drwy e-bost - rhai o'r America, Yr Eidal, Awstralia, ond mae'n rhaid agor drws y siop yn bellach a bydd tudalen ar y we yn mynd ar draws y byd," meddai.

Ond nid ar draul y siop ei hun y digwydd hynny gan fod Gwyn yn paratoi i ail-ddodrefnu'r siop ei hun hefyd.

Menter gydweithredol

Siop sy'n cael ei rhedeg gan 17 o gyfarwyddwyr ydi Awen Meirion gyda Gwyn S茂on Ifan yn rheolwr.

"Ar hyn o bryd fi sy'n rheoli'r siop ond mae'r ochr gydweithredol yn dal i barhau," meddai.

Ond er gwaethaf pob newid a chwyldro mae Gwyn yn sicr o un peth - fod dyfodol y llyfr fel cyfrwng yn ddiogel.

"Yn rheolwr ers deuddeng mlynedd, mae yna lot fawr o newid wedi bod dros y blynyddoedd ac yn ddiweddar mae dylanwad technegol wedi bod yn rhyfeddol gyda'r CD yn disodli'r feinyl ym maes recordiau a chyn bo hir bydd casetiau yn diflannu i wneud lle i ddisg gyda Wil Cwac Cwac a Dai Jones i'w gweld ar DVD.

"Wrth gwrs fel pob peth mae'n rhaid newid ond un peth y gwelaf barhad iddo yw'r llyfr. Er bod cymaint o bethau ar gas茅t a CD y fedra i ddim gweld siop Awen Meirion heb lyfrau ar ei silffoedd," meddai.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy