主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr
Yn iaith y Cofi

Straeon mawr y Co Bach

Dydd Iau, Tachwedd 28, 2002

• Y Co Bach a Hen Fodan a Wil. Gan Gruffudd Parry.
Gwasg Carreg Gwalch. 拢5.50. .

Pedair seren

Adolygiad gan Ioan Mai Evans

Ar un cyfnod perthyn i dref Caernarfon yn unig roedd ymadroddion fel niwc, yn golygu ceiniog, a dyma'r dref lle roedd pobol yn dweud sgramio am fwyta, stagio am edrych, crinc am rywun gwirion - a thros drigain o ddywediadau Ilafar cyffelyb sydd wedi eu rhestru ar ddechrau'r gyfrol hon.

Cawn wybod sut y daeth cymaint a boblogeiddio ar hyn oll yn y cyflwyniad gan John Roberts Williams, cyn-bennaeth y B.B.C ym Mangor.

Ymddengys i Richard Huws, neu y Co Bach, glywed yr odrwydd ieithyddol hwn yn ei dref enedigol Caernarfon .

Yna clywodd Sam Jones, pennaeth 主播大秀 Bangor ar y pryd, am y dafodiaith a gweld fod yma ddefnydd ar gyfer y rhaglen Noson Lawen a oedd mor boblogaidd ar y radio yn y pedwar a'r pum degau.

Gruffudd Parry a Richard HuwsTrefnwyd i'r diweddar Gruffudd Parry roi trefn ar y cyfan a'r diweddar Richard Huws, i lefaru yn union fel 'pobol dre ond mewn mydr ac odl gan amlaf.


Yr oedd yma elfen gref o drefgarwch - hyd yn oed wedi ymweld 芒 gwesyll Butlins - tre y Cofis oedd orau.

On i'n falch cal dwad'n 么l i dre rywsut
O ganol y twrw a'r swn,
A 'dan ni ddim yn meddwl awn ni'r ha' nesa',
Dim and i Caeathro i weld rasus cwn.


Daw y trefgarwch i'r golwg yn aml gan hoelio'r sylw fwy-fwy ar y dywediadau fel ar achlysur ymweliad Wil Bach, yr Hen Fodan a Co Bach 芒 Lerpwl ac i weld stesion awyrennau yn -l芒d - sef y wlad.

Odd stesion eropl锚ns reit yn 'lad ia,
A euso ni i mewn i gal gweld nhw am sei,
Oeddan nhw'n landio hyd cae yn bob man ia,
Fatha gwlanods rm么r ar ben wal yn cei.


Y mae rhywfaint o sylwadaeth gymdeithasol anuniongyrchol hefyd ac ym mlynyddoedd blinion y diwaith yr oedd chwarae ar eiriau tel hyn yn medru codi'r galon:

Euso fi i lawr i lle d么l ryw fore ia,
A sticio'n y ciw am tuag awr,
O'n i'n cyrnu fel jeli wrth weitiad
A nhrad i fatha cerrig hyd Ilawr,
"N ba lein 'dach chi isio job ta ?"
Me' Co, a 'ma fi'n apad o'n str锚t:
Dim job gweithio ar lein 'dw i isio co,
A gofynna 'pin bach fwy syd锚t.


A chydag ambell deitl difrifol fel Nid cardod i ddyn ond gwaith a fu'n gri calon sawl gweithiwr mewn dyddiau anodd mae'n ysgafnhau y cyfryw i ddarllen a chlywed am waith yn y coparet a dwy joban arall:

Ges i symud wedyn i Coparet am dipyn
I gario allan efo beic rownd dre,
Ond mi ath 'rolwyn rhwng plancia Pont Rabar
Rhyw bnawn 'tr - ac mi gollis i'n lle.


Fuo fi'n hel papura rownd pafilion - ond mi chwalon o,
A fuo fi'n Guild H么l - a mi fuo honno'n 'Amen'
Wedyn euso fi weithio i stesion ac mi ddarun godi'r relwes,
A phan euso fi i'r Armi ia, mi ddoth rhyfal i ben.


Bonws tra derbyniol gyda'r gyfrol ei hunan ydyw'r CD lle clywn y dweud yn yr oslef unigryw oedd yn eiddo'r Cofis ond sydd, gwaetha'r modd, yn prysur fynd ar golli .

Wedi ei impio fel petae ar y cyfan mae yma hiwmor iach sy'n ychwanegiad a fydd yn gwarantu hir oes i'r gyfrol a'r CD fel dogfen i hanes tref Caernarfon a welodd sawl tro ar fyd dros sawl canrif.

Nid angof ychwaith yr ymweliad a neuadd y B.B.C. ym Mangor yn Cofi'n Cofio

Neuso nhw agor y ddau ddrws yn Penrhyn
I gal Hen Fodan i mewn yn i str锚t,
A nath Wil a fi ista bob ochor iddi hi
Wrth bod hi'n colli drosd ochor 'i s锚t.
Odd na go siarad Sowth yn cwt gwydr
Tu n么l a fodan efo gwallt cyrls du,
'Mr Jones a Nan odd i henwa nhw,
Ond dim and 'Chi' ddeudodd Hen Fodan a fi.
Do, bu raid diolch i Richard Hughes fel hyn:

Ma Wi! Bach a Hen fodan a finna
Isio diolch i 'Lchiad Huws am bod co
Wedi miglo i consarts hyd 'l芒d ia
A mynd a ni yn tri efog o.


Stagiwch ar hyn - blas ar iaith Co Bach
Richard Huws肠辞苍箩卯 - miri, helynt
crinc - rhywun gwirion.
giaman - cath
giami - gwael, s芒l
gwlanods - mwy nag un gwylan
hog - swllt
lempan - clustan
lob - un gwirion
migmas - ystumiau
milings - cweir, cosfa
lgodod - llygod
patro - siarad
rwmsus - ystafelloedd
sei - chwecheiniog
slobs - plismyn
stagio - edrych

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy