Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb



Byd planedol

Planed Plant - i fygwth y Dandy a'r Beano

Dydd Iau, Rhagfyr 5, 2002

Am y tro cyntaf erioed mae S4C wedi cyhoeddi blwyddlyfr y gyfres deledu Planed Plant - gan ddweud mai’r gobaith yw y bydd yn tyfu’n gymaint o ffefryn â hen glasuron Saesneg fel aniwals y Beano, Dandy, Jackie, Blue Peter a Bunty.

Mae’n nod uchelgeisiol i geisio ymgyrraedd ati.

"Mae Blwyddlyfr Planed Plant 2003, a gyhoeddir gan Hughes a’i Fab, cwmni cyhoeddi S4C, yn golygu y gall gwylwyr Planed Plant dreulio oriau di-ben-draw yn mwynhau’r holl adloniant a gynigir rhwng cloriau’r llyfr 64 tudalen clawr caled hwn," meddai’r Sianel mewn datganiad wrth gyhoeddi’r llyfr.

Cyntaf mewn degawd

Ac meddai Luned Whelan, Rheolwr Cyhoeddiadau Hughes a’i Fab:
"Dyma’r Blwyddlyfr cyntaf i’w gyhoeddi yn y Gymraeg ar gyfer plant ers ymhell dros ddegawd a’r cyntaf erioed i S4C ei gyhoeddi.

"Roedd yn lot fawr o hwyl i’w gynhyrchu ac rwy’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cydweithio gyda mi arno.

"Mae’r ymateb iddo wedi bod yn wych a gobeithio y bydd Blwyddlyfr Planed Plant yn datblygu’n gyhoeddiad blynyddol o hyn ymlaen."

Ffrwydrad o liw

Disgrifir y llyfr fel "ffrwydrad o liw" sy'n cynnwys cyfweliadau gyda rhai o gyflwynwyr - "poblogaidd" wrth gwrs - Planed Plant, gwybodaeth am gyfresi, cyngor ar sut i fwynhau gweithgareddau awyr agored gan gyflwynwyr Mas Draw, stribedi cartwnau, a gemau.

Ymffrostir fod y ddau frawd o Gaerdydd, Matthew a Daniel Glyn "sy’n gyfranwyr cyson i raglenni plant S4C", ymhlith y rhai sy'n cyfrannu i'r llyfr.

Daniel yw awdur y gyfres – "hynod boblogaidd" wrth gwrs - Hotel Eddie ac mae Mathew, yntau, yn actio ac yn ysgrifennu sgetsus ar gyfer Y Rhaglen Wirion ‘Na.

"Ac mae eu hiwmor dihafal nhw i’w ganfod blith-draphlith rhwng y tudalennau," meddai’r cyhoeddwr.

Ac meddai Matthew Glyn:
"Dw i’n meddwl ei fod yn wych fod Blwyddlyfr o’r safon yma ar gael yn y Gymraeg, yn enwedig gan fod cymaint ar gael yn y Saesneg a dw i’n meddwl y bydd yn gwneud i’r plant deimlo’n falch iawn eu bod yn siarad Cymraeg.

"Er bod yna nifer o lyfrau ar gael i blant yn y Gymraeg, mae yna brinder llyfrau fel hyn sy’n cynnig amrywiaeth o ddeunydd rhwng dau glawr. Dw i’n meddwl ei fod yn hollol ffantastig a dylai pob plentyn holi Siôn Corn am gopi!"

Pris y Blwyddlyfr ydi £5.99

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau a'ch hoff gerddi Nadolig a'r Calan








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy