主播大秀


Explore the 主播大秀

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dalen o'r Llyfr Du
Dod a'r Llyfr Du i'r golau

Llyfr hynaf Cymru ar y We

Dydd Iau, Rhagfyr 26, 2002

Cysylltir Abertawe鈥檔Un o ddigwyddiadau mwyaf diddorol y flwyddyn hon oedd gosod Llyfr Du caerfyrddin ar y we gan y llyfrgell genedlaethol.

Go brin fod angen ysgolhaig i ddweud wrthyf i'r llyfr hanesyddol hwn gael ei enwi oherwydd lliw ei rwymiad - ond rhaid troi at yr arbenigwyr a gwefan y Llyfrgell am fwy o'i hanes.

Eu barn hwy yw fod iddo gysylltiad 芒 Phriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog, Caerfyrddin ac yn waith un cop茂ydd a luniodd y gyfrol ar wahanol gyfnodau yn ei fywyd.

Un o'r rhai cynharaf

Yr oedd hyn o gwmpas y flwyddyn 1250 sy'n golygu fod y Llyfr Du yn un o'r llawysgrifau Cymraeg cynharaf sydd ar gael.

Daeth y llawysgrif i feddiant Syr John Price, Aberhonddu yn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Yr oedd o'n ddyn gyda diddordebau llenyddol a hynafiaethol a benodwyd yn brif gofrestrydd y goron mewn materion eglwysig, ac yn rhinwedd y swydd honno fe aeth ati i archwilio'r mynachlogydd a ddiddymwyd gan Harri'r VIII.

Daeth o hyd i'r Llyfr Du, yn 么l yr hanes, ym meddiant trysorydd Eglwys Gadeiriol Tyddewi, a dywedid ar y pryd fod y llawysgrif wedi dod o Briordy Caerfyrddin.

Ychydig a wyr yr arbenigwyr hyd yn oed am hanes y gyfrol ar 么l iddi gael ei hachub gan Syr John hyd yr ail ganrif ar bymtheg pan ddaeth i feddiant hynafiaethydd o'r enw Robert Vaughan a fu farw yn 1666).

Llyfrgell helaeth

Mi gasglodd o lyfrgell helaeth o lyfrau a llawysgrifau o'r pwysigrwydd mwyaf yn Gymraeg ac ieithoedd eraill, yn ei gartref, Hengwrt, ger Dolgellau, Meirionnydd.

"Fodd bynnag, ar gyfnod cynharach, ymddengys i'r llawysgrif fod ym meddiant ysgolhaig a chasglwr llyfrau arall, sef Jasper Gryffyth (bu farw 1614), warden Ysbyty Rhuthun, a ysgrifennodd ei enw mewn llythrennau Hebraeg yn y Llyfr Du yn ogystal 芒 llunio nodyn ar y cynnwys," meddaai gwefan y Llyfrgell genedlaethol.

Ysgrifennodd William Salesbury (c. 1520-1584?), cyfieithydd y Testament Newydd i'r Gymraeg, nodyn ar waelod un o'r tudalennau hefyd.

Yn 么l Robert Vaughan bu'r bardd Si么n Tudur a fu farw yn 1602 yn berchen ar y llawysgrif ar un adeg.

Mynd i Beniarth

Pan fu farw gor-gor-gor-gor-wyr Robert Vaughan, Syr Robert Williames Vaughan, yn 1859, pasiodd llyfrau a llawysgrifau Hengwrt trwy gymynrodd i'w gyfaill William Watkin Edward Wynne (1801-80) o Beniarth ger Tywyn, Meirionnydd.

Tra yr oeddent ym Mheniarth, fe gatalogwyd y llawysgrifau Cymraeg gan J. Gwenogvryn Evans ar gyfer ei Report on Manuscripts in the Welsh Language, a gyhoeddwyd yn 1899.

Rhoddodd Gwenogvryn Evans amlygrwydd i'r Llyfr Du drwy ei glustnodi yn llawysgrif Peniarth 1.

Mae Llyfr Du Caerfyrddin ynghyd 芒 gweddill casgliad llawysgrifau Peniarth bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Pum mil a hanner

Talodd Syr John Williams, barwnig (1840-1926) a meddyg i Dduges Caerefrog 拢5,500 am y casgliad, gyda Llyfr Du Caerfyrddin wedi ei brisio am 拢400 er mwyn ei gael i'r Llyfrgell.

Lluniwyd y llawysgrif o wyth cydiad o femrwn cryf wedi eu gwn茂o ynghyd i ffurfio cyfrol o 108 tudalen.

Ond dydi'r gyfrol ddim yn gyfan.

Newid ei sgrifen

"Yr hyn sy'n taro llygad darllennydd fwyaf yw diffyg cysondeb y llaw a'i hysgrifennodd, yn y ffordd y tynnwyd y llinellau ar bob tudalen cyn ysgrifennu ac yn y llawysgrifen ei hunan lle ceir anghysondebau na cheir fel arfer mewn llawysgrifau a luniwyd gan gop茂wyr proffesiynol o'r cyfnod hwn," meddir ar wefan y Llyfrgell.

"Mae hyn i gyd yn ategu'r farn fod y cop茂ydd yn gweithio ar wahanol gyfnodau yn ei fywyd. Hwyrach y bwriadai lunio mwy nag un gyfrol, ond yn lle hynny daethpwyd 芒'r cydiadau memrwn gwahanol at ei gilydd ar ryw adeg a'u rhwymo ynghyd ar ffurf y gyfrol a adwaenwn ni yn Llyfr Du Caerfyrddin."

Dalen arallAr wah芒n i drioedd sy'n cyfeirio at geffylau chwedlonol yr arwyr Cymreig barddoniaeth ydi'r cynnwys.

" Ceir cerddi gyda phynciau crefyddol fel yr 'Ymddiddan rhwng y Corff a'r Enaid', ac awdlau moliant a marwnad fel 'Marwnad Madog ap Maredudd' (bu farw 1160), sy'n ddienw yn y Llyfr Du ond, yn 么l llawysgrif arall, a luniwyd gan y bardd llys, Cynddelw Brydydd Mawr (bl. 1155-1200).

"Ond hwyrach mai'r cerddi mwyaf trawiadol yw'r rheiny sy'n cynnwys stor茂au yn ymwneud o ran thema ag arwyr Prydain yn yr Oesoedd Tywyll, ac yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig 芒 chwedl Myrddin," meddir

Siarad gyda choeden

Mewn dwy gerdd mae dyn dienw sy'n byw ar ei ben ei hun yn y goedwig yn cyfarch coeden afalau a mochyn gan broffwydo llwyddiant neu fethiant y Cymry yn y brwydrau sydd i ddod yn erbyn y Normaniaid yn Ne Cymru.

"Mae'n amlwg bod y llinellau sy'n cynnwys y proffwydoliaethau hyn wedi eu cyfansoddi ar 么l y digwyddiadau y maent yn honni eu rhagweld," meddir!

Ymhlith y cerddi chwedlonol yn y Llyfr Du y mae cerdd am borthor o'r enw Glewlwyd Gafaelfawr yn gwrthwynebu'r Brenin Arthur a'i gydymaith Cai gydag Arthur yn cael ei ddarlunio "yn fwy o arwr chwedlonol nag o ymerawdwr brenhinol mawr yn null Sieffre o Fynwy."

Y Llyfr Du ar Wefan


Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau a'ch hoff gerddi Nadolig a'r Calan








Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 主播大秀 Cymru'r Byd






About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy