Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Reeves yr awdur
Briallu

Stori Fer fuddugol rhaglen Y Celfyddydau Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru

Gorffennaf 2003

Briallu
gan B S Reeves


ar y stori yn cael ei darllen gan Mari Emlyn

Caeodd ddrws y bwthyn yn glep. Dim gair gan neb. Ofynnodd neb faint o wyn newydd gyfrodd o heddiw. Roedd y glaw wedi socian drwy'i ddillad nes eu bod yn teimlo'n drwm ar ei gorff. Gwanwyn gwlyb, gwlanen gwlyb. Stwff trwm. Oerfel: gallai'r wyn oddef ychydig o hwnnw, ond roedd y glaw di baid yn eu hoeri fwy rhywsut. Doedden nhw ddim yn prancio wrth gysgodi ac felly doedden nhw ddim yn cryfhau fel y dylsent. Diwrnod diflas o waith.


Llusgais y ferfa rydlyd dros y cae. Bum yn ei gwthio, ond roedd ffrithiant diffaith gwlith y bore ar y glaswellt gwlyb yn erbyn yr olwyn wichlyd wedi lladd ar unrhyw frwdfrydedd egnïol yn reit handi. Roedd y car wedi'i barcio ar waelod yn lôn fach a arweiniai at y bwthyn bugail, ond nad oedd, mewn gwirionedd yn arwain ato o gwbl. Roedd yn dod â ni yn nês at baradwys ond nid yn ein tywys yno. Rhaid oedd goddef y camau olaf hynny tuag at borth paradwys drwy lusgo berfa a gludai ein 'pethau' ar draws cae gwlyb, tuag at ein gwyliau perffaith. Ond roedden ni'n talu am hyn. Roedd y 'dioddef' yn rhan o'r hwyl. Troi cefn ar foethusrwydd yn allwedd i ymlacio.

Ond dim ond i raddau. Dewiswyd y bwthyn hwn o blith degau, a chynildeb y broliant ynghyd â'r chwareli bychan bach o bobtu'r drws ffrynt isel yn y llun aeth â hi. Roedd defod dewis gwyliau wedi mynd a dod yn gynt eleni. Defod dewis gwyliau'r Pasg sydd gen i fan hyn. Mae'n debyg y bydd rhaid bwcio ar gyfer y 'Steddfod cyn bo hir(ydy o'n clashio hefo'r Jazz yn Aberhonddu eleni eto?), heb sôn am noson fach yng Ngwyl Y Gelli, (gobeithio na fydd y plant yn ennill yn y Steddfod Sir), a Llangoed Hall ar gyfer nos Galan. Dim Douarnenez y Pasg hwn. Doedd teithio dramor ddim yn apelio, pan oedd rhyfel yn yr awyr, a'r tywydd, medden nhw yn well yma nac acw. Bwthyn bugail yn nghesail Eryri oedd yr ateb. Mi fuasai'r plant yn ca'l dod i adnabod ychydig ar Ogledd Cymru a 'swn i'n ca'l llonydd i ymlacio. Ar ôl gorffen gwneud ychydig o waith, hynny yw.

Dim gwerth o friallu eleni; y tywydd mor wael.

Doedd dwy daith ferfa ddim yn ddigon. A doeddwn i ddim yn fodlon i'r plant gario'r laptop a'i drugareddau. Roedden nhw wedi ymlâdd wedi'r daith, M4 wedyn A470, a phob gêm i'r gameboy wedi'i chwarae i'r eithaf. Osgoi'r traffig oedd y bwriad, ond dyna, ymddengys, oedd bwriad pawb arall hefyd. Taith hir a gafwyd gyda'r dotiau melyn hwnt ac yma'n ein tywys ar hyd y ffordd.

Mae'n wanwyn da i friallu eleni. Tywydd braf a chynnes yn anwesu'r tyfiant. Y blobiau melyn yn closio at ei gilydd fel paent yn rhedeg yn un o luniau'r plant o'r Ysgol Feithrin. Dyma flodyn Ail Ryfel y Gwlff. Dyma flodyn dianc i gefn gwlad fel arfer. Ond eleni maen nhw'n mhobman. Welais i glympiau bach mwya' del yn tyfu'n gryf rhwng pafin a ffordd yng nghanol dre' 'rwythnos d'wetha'. Ro'n i newydd brynu'r papur newydd, ac wrth ddarllen am ffosydd rhyfel fodern, daeth gwawr euraid y dihirod ochr ffordd i guddio cochni'r pabi. Ac felly dyna fo. Briallen fydd blodyn y rhyfel hon. Ac roedd y cloddiau o amgylch y bwthyn bugail yn sgrechian eu croeso mud. Mae 'ngwlad i'n rhyfela, ac mi fedra'i fynd ar fy ngwyliau a'm laptop a'i drugareddau dan pob cesail.

Lladd y mochyn heddiw. Diwrnod pwysig. Rhaid gweld at y defaid hefyd. Rhedeg fyny'r mynydd yn anos - wedi'r holl law mae'r llethrau'n llithrig.

Roedd y cyfarwyddiadau ar sut i fynd i fewn i'r bwthyn yn ecsentrig a dweud y lleiaf. Ychwanegai hyn at apêl y lle. Rhaid oedd chwilio am fin sbwriel ddu a allai fod unrhyw le o gwmpas y bwthyn. Tu fewn i'r bin roedd carreg, o dan y garreg yr allwedd. Chwerthin wrth feddwl am adael goriad mewn lle mor dwp. Roedd y bin yn tynnu sylw ato'i hun wrth wyngalch y waliau. Byddai unrhyw leidr wedi dyfalu ar unwaith mai yno y byddai'r goriad. Ond pa ladron? Pam cloi o gwbl? Wedi'r cwbl mi roedden ni ar ochr mynydd ar ddiwedd lôn anghysbell. Ond efallai gyda'r laptop ei bod hi'n llawn cystal… Ecsentrig hefyd oedd y manylion am y lle. Oedd roedd o'n ddrud, ond nid ymffrostiai'r catalog yn ei rinweddau. Gwariwch gannoedd i fyw mewn bwthyn fel y gwnaeth eich cyndeidiau. Cewch gynnau tân i gadw'n gynnes a byw ar salad a dwr o'r ffynnon. Ewch am dro i'r mynyddoedd a gweld copaon godidog Gogledd Cymru. Chewch chi'm gwyliau iachach yn un lle. Dihangwch oddi wrth hualau gwaith, grwn bywyd, bryntni'r ddinas. Hyn oll a dim Health Farm i'w weld yn unman. Cadwch eich Atkins diet a'chCelebrity Health and Fitness. Teimlo'n smyg wrth fwytho'r awyr iach ar fy ffroenau.

Diwrnod talu rhent heddiw. Rhaid gwyngalchu 'fory. Cnydau'n gorfod aros - rhy wlyb i hau. Wyn 'di tyfu'n ddefaid , byddant yn wydn i'r mynydd cyn bo hir.

Chymerodd hi'm yn hir iawn i un ohonynt sathru mewn dom, a hynny cyn gwisgo'r welingtons (newydd sbon). Crïo mawr. Tensiwn yn fy nghysur. Dere di

. -Be di'r swn yna?

-Traffig

- Ond o'n i'n meddwl…

-Mae'r A470 yn rhedeg ar hyd waelod y dyffryn

Ond doeddwn i ddim yn poeni'n ormodol. Roedd swn y traffig yn gartrefol braf. Mi fyddai'n fy suo i gysgu heno. Dwi'n cael trafferth cysgu ar noson gyntaf y gwyliau, bob tro.

Pawb yn sôn am godi capel. Lle ga' i amser i ddiolch i Dduw am beidio â chael amser i wneud dim oll ond gweithio, gweithio, gweithio?

Does dim llawer o le yn y bwthyn, felly rhaid oedd ffeindio'r man gorau i'r laptop ar unwaith. 'Dwi'n bwriadu gweithio am ychydig oriau, i mi gael rhoi sglein ar y brîff diweddaraf. Mae'r dodrefnu'n chwaethus. Soffa i ddau, cadair siglo a chadair freichiau yn gymesur o gwmpas y lle tân. Bwrdd bach derw ag un drôr hir â nobyn pres arno. Desg delfrydol. Defnydd Osborne and Little sydd ar y ffenestri fel y clustogau. Dim gormod ohono, ond digon i'r sawl sy'n gwybod, fedru sylwi arno a'i edmygu. Carpedi bach lliwgar ym mhob man. Shabby genteel. Mae waliau'r ystafell ymolchi yn goch cyfoethog. Fired Earth, siw^r o fod. Tydwi ddim yn talu i weld Dulux tra'n socian yn y bath. Y ty bach a'r sinc yn rhai drud - pili palod wedi eu peintio â llaw drostynt i gyd. Lloriau pren yn y llofftydd, (Junkers mwn), matiau choir hwnt ac yma. Llawrlech gwreiddiol lawr grisiau. Mae'r gegin yn debyg i un o luniau Kathy Gittins. Oes angen dweud mwy? Agor y ffrij a gweld bod pob peth sydd ei angen ar gyfer gwneud salad yno - digon o olew, garlleg, rocet, a thomatos a phecyn o barmesan M&S fel anrheg i'n croesawu. Dim gwin. Ond mae digon wedi dod gyda ni. Bydd angen sawl trip gyda'r ferfa i'w dywys yma.

Maip, moron, nionod, coed tân. Dim blas ar fwyd heno. Diwrnod pobi 'fory. Gwell flas ar bethau wedyn.

-Am faint 'da ni yma?

-Wythnos?

Now yn wyth oed heddiw. Caiff ddod i'r mynydd cyn bo hir. Mae 'na fwy na digon i'w wneud.

Yn y dechreuad…Dyma adeg gwaetha'r gwyliau… y dyddiau'n ymestyn yn hir a dibendraw o'n blaenau. Y plant yn bôrd yn barod. Wedi'r rhuthro cynhyrfus o un 'ystafell i'r llall, ffeindio lle fyddant yn cysgu, agor pob cwpwrdd, gweld os oes 'na PS2 (nac oes), beth am deledu (oes, ond mae'r signal yn gythreulig o wael a'r fideo wedi torri), dyna pryd mae'r swnian yn dechrau.

Dyma pryd y byddaf yn cenfigennu ar y ffrindiau sy'n aros adre' a byth yn mynd i'r unlle. Dyma pryd dwi'n sgrechian yn ddistaw i mi fy hun 'Dwi jest isio bod ADRA', yng nghanol brynti'r traffig a'r mwg. Mae gweld un friallen ar ochr y ffordd yng nghanol dre' yn ddigon i mi. Mae'u gweld nhw ym mhob man yn ymylu at y syrffedus. Ac O! Onid yw nant y mynydd yn groyw loyw, ac mae'n wir mai sisial ganu a wna rhwng y brwyn. Ond dwi 'di ca'l llond bol ar orfod dweud a rhyfeddu at hynny bob tro y canfyddaf fy hun ar lethr mynydd. Yna, mae'r cenfigen yn dyfnhau. Meddyliaf am y bobl gall hynny sy'n aros adref yn lolian yn eu gwlâu wrth i mi godi'n gynnar y bore wedyn. Pam? Am fod pob awr ychwanegol yn y gwely'n gwastraffu DEG PUNT o werth y gwyliau. Cânt ddiogi drwy'r dydd, yn ôl eu dymuniad. Caiff eu plant wylio Nickolodeon o fore gwyn tan nos a llosgi'u bodiau'n ulw ar PS2. Llusgwn ein plant ni o gwmpas Castell Penrhyn yn ddefodol ddiflas. 'Dwi ddim isio ymweld â llefydd, gweld pethau, mynd, mynd, mynd. Ond 'dwi ddim isio gorwedd ar draeth chwaith, na darllen nofel ddiweddaraf Grisham yng ngardd y bwthyn hwn. Dwi'n ysu am gael gwyliau adref yn fy mocs llychlyd concrit. Bysai bod yn slob yn braf. 'Dwi wedi alaru ar y grefft o ymlacio. Wedi cael llond bol ar ioga a reiki a gwyliau.

Dwi'n sâl eisiau torri allan o'r rhigol. Ond safaf yn fy rhych yn lle.

Tybed be' sy'n digwydd yn y gwaith? Pedair awr ar hugain i ffwrdd, ac mae'r demtasiwn o yrru at rywle i gael signal i'r mobile yn fy mwyta'n fyw. Byddan nhw i gyd eisiau clywed am y bwthyn.

- Sut mae o'n cymharu â'ch bwthyn yn Nhy Ddewi adeg y 'Steddfod llynedd?
- Mwy anghysbell. Mwy chwaethus.
- Laura Ashley?
- Nage, Osborne & Little, Jane Churchill.
- Fired Earth?
- Wrth gwrs.
- Llonydd o'r hen PS2
- Mae fel y bedd yma.
- Mwynha dy hun. Anghofia am y gwaith. 'Da' ni jest yn trafod newid delwedd y swyddfa dros y dyddiau nesaf. Mae popeth o dan reolaeth yma. Dos nôl at y briallu!
- Iawn. Hwyl.

Ond doeddwn i ddim eisiau i bopeth fod o dan reolaeth. Roeddwn eisiau clywed nad allan nhw wneud un dim hebof fi. Clywed y creisis yn eu lleisiau - yr erfyniad arnaf i orfod gorffen y gwyliau cyn ei ddechrau a'u hachub rhag anffawd. Sut ar y ddaear all popeth fod yn IAWN? Ffieiddiais at y briallu.

Ma' Now isio mynd i'r ysgol. Ddim isio bod yn fugail medda fo. O le cafodd o'r syniad bod dewis i'w ga'l? O le ca' inna'r pres i dalu am 'i addysg o? I'r mynydd 'r ei di boi.

Bydd gorffen y brîff yn limbo pleserus iawn rhwng gwaith a gwyliau. Bydd llonydd y lle 'ma'n f'ysbrydoli i'w ddarllen â gogwydd newydd, ffres. Dwi am gymryd f'amser i'w wneud. Nai aros nes bod y plant yn eu gwlâu. 'Falle gadawaf iddyn nhw gael pum munud bach hefo'r gameboy ar ôl darllen eu llyfrau i'w helpu i setlo'n gynt. Mae'n wyliau wedi'r cyfan…

Gweithiodd y cynllun i'r dim. Aeth y pethau bach i gysgu'n rhyfedd o rwydd. Dwi'n siwr o dalu am y peth rywsut, dydyn nhw ddim yn clwydo'n gynnar heb fod yna bris i'w dalu am y moethusrwydd: deffro'n y nos a methu setlo wedyn, neu ddeffro bore fory cyn codi cwn Caer. Dyma 'nghyfle. Ffics bach o waith caled, ac mi fyddai'n barod i ddechrau'r gwyliau…

Bron nad ydw i eisiau dechrau ar y brîff. Mae'r hyn sy'n dilyn ei gwblhau yn ymddangos fel ogof duach na thriog yn fy nychymyg. Mae'r rhyddid o fod â dim byd i'w wneud, dim deadline i anelu ato yn frawychus. Na, dwi'n sicr am gymryd f'amser i'w wneud yn iawn. Mae'r laptop yn edrych yn odidog ar y ddesg. Mae 'na rywbeth synhwyrus iawn am y cyfuniad o'r hen a'r modern; y crôm a'r plastig du ar y deri sgleiniog. Dyma hau syniad newydd am y newid delwedd mae'r swyddfa 'cw'n chwilio amdano. Mae golwg blinedig wedi mynd ar y dodrefn IKEA yn ddiweddar. Ydy, mae o'n dod â steil am bris rhad i'r swyddfeydd, ond erbyn hyn mae'r steil Swedaidd-lân wedi mynd mor gyffredin fel y buom yn ystyried sut allwn ni newid delwedd heb wario gormod. Dyma'r ateb. Ambell i fwrdd antîc yn gorseddu'r i-Mac diweddaraf. Byddai'n tynnu sylw ac yn denu'r cwsmeriaid iawn. Mae uchder y bwrdd yma'n berffaith fel desg. Gweithred greadigol yn dwyn gwedd esthetig, a'r hyn oll yn waith!

Ac wedi i mi orffen bydd hi'n amser cau'r laptop , a'i osod yn ofalus yn ei faneg ledr a'i gario'n ôl at ddiogelwch bwt y car. Wedi edrych ychydig ar yr olygfa o'm cwmpas fe af yn ôl yn ling-di-long at y bwthyn, mynd i'r gegin ac agor potelaid o win coch. Dyma pryd y byddaf yn dechrau ymlacio go iawn am y tro cyntaf a'r hen sinig ynof fi'n cael ei hel o'ma fel ysbryd aflan. Cymysgaf ddail, olew a chaws, a'u gosod ar blatiau gwyn, gwyn. Dotio at chwaeth perchennog y lle unwaith eto. Wrth fy modd bod y llestri o'r safon uchaf ond nad oes modd gwylio'r teledu heb gael llygaid croes. Ymhyfrydu yn fy synnwyr o eironi.

Mi fydd hi dal yn braf ac felly eisteddwn y tu allan, ar lechen eistedd sy'n gynnes braf dan belydrau olaf haul y p'nawn. Y dotiau melyn yn dal fy llygaid unwaith eto. Y tro hwn maent yn eu cynefin a'r newyddion am ryfel yn bell, bell. Penderfynu nad oes raid i mi ryfeddu atynt ddim mwy nag ydw i wedi'i wneud yn barod heddiw. Teimlo'n well am bethau, a theimlo efallai, y gallwn fwynhau fy hun ar y gwyliau yma. Ac wrth sipian rhyfeddod gwinllannoedd De Affrica, mi fyddai'n meddwl, ac yn meddwl - be ar y ddaear wnawn ni 'fory?

Mwy am y gystadleuaeth




.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd






About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy