主播大秀

Dyma'r Nadolig

Ffenestr

gan Mererid Mair Williams
Bore Gwener, Tachwedd 27, 2009

Mi fydd unrhyw un sydd 芒 chysylltiad 芒 phlant yn gwybod ein bod ar drothwy'r cynnwrf mawr.

Bu Gwydion yn holi am gael n么l ei DVDs Nadolig ddechrau'r mis a minnau'n ymateb drwy ddweud nad oeddwn i am glywed y geiriau Nadolig a Si么n Corn tan Fis Rhagfyr.

A hithau'n Sul cyntaf yr Adfent dydd Sul, a Rhagfyr yma ddydd Mawrth, dwi'n ymwybodol y bydd y cynnwrf yn cynyddu fymryn bob diwrnod nes y bydd yn ffrwydro ar fore Nadolig.

Mis o baratoi
Mi fydd y mis nesaf yn fis o baratoi; o foreau coffi, siopa, coginio, ymweld 芒 theulu, sgwennu cardiau ac o edrych ymlaen - ac mi fydda i'n un ohonyn nhw - dwi wrth fy modd efo'r 'Dolig.

Fel Cristion, mae'r mis hefyd yn gyfnod o fyfyrio ar yr hyn mae'r Nadolig yn ei olygu ac ar geisio sicrhau mai Crist fydd yn cael y lle canolog yn fy mywyd.

Ond wyddoch chi beth sydd yn gallu fy ngwylltio i am y cyfnod hwn?

Yr holl s么n fydd yna fod yr 糯yl wedi colli ei gwir hystyr, o'r materoliaeth a'r gorwario.

Efallai y clywn ni'r sylwadau pigog hynny yn ein heglwysi am bobl fydd yn mynychu adeg y Nadolig yn unig.

Yn bersonol, mae'n well gen i ganolbwyntio ar yr hyn mae'r Nadolig yn ei olygu i mi ac nid yr hyn nad yw'n ei olygu i eraill.

Wedi dod yn arferiad
Ar y rhaglen deledu, Cymru Hywel Williams, am grefydd dywedodd mai arferiad a thraddodiad yw Cristnogaeth i'r mwyafrif o'r Cymry bellach a dyna pam mae Cristnogaeth wedi dirywio.

Dwi'n credu fod llawer mwy iddi na hynny yn bersonol ond mae'n codi cwestiwn diddorol.

Ac mae'n debyg nad oes adeg o'r flwyddyn lle gwelwn ni hynny'n digwydd fwy na'r Nadolig.

Efallai mai traddodiad ac arferiad sy'n gwneud i bobl fynychu noson garolau neu wasanaeth Nadolig, ond onid yw'r awydd i fod yn rhan o addoliad Cristnogol yn dangos fod pobl am chwilio am ystyr dyfnach na'r materol?

Hyd yn oed yn ein hoes gyfalafol farus ni, mae teimlad fod mwy i fywyd.

A pha gyfnod gwell i bwysleisio hynny, na'r Nadolig wrth inni ddathlu Duw yn iselhau ei hun i ddod i'r byd gyfalafol farus hon.

gwyrth y Nadoligi
Dyna wyrth y Nadolig - Duw yn cysylltu 芒 ni yn y fath fodd, drwy Iesu yn yr ogof oer honno. Dyna'r neges i ni ganolbwyntio arni hi yn ystod prysurdeb yr Adfent.

Mae'r Adfent yn gyfle inni ystyried beth mae hyn yn ei olygu inni.

Gadewch inni gymryd y cyfle yr Adfent a'r Nadolig hwn i ymateb a chysylltu ag O.

Ar wefan Cristnogaeth 21 thema frwd ar y fforwm yw Arglwyddiaeth Iesu ac un sylw sydd wedi ei wneud yw fod nifer o Gristnogion heddiw yn canolbwyntio ar Iesu'r dyn ac yn hynny o beth yn colli golwg ar ei Arglwyddiaeth.

Prif neges y Nadolig yw Duw yn iselhau ei hun i ddod i'r byd fel baban bach - byddwn yn dathlu dyndod Duw.

Mae'r Adfent yn gyfle i feddwl a myfyrio ar Dduw yn iselhau ei hun i ddod i'r byd fel baban.

Drwy iselhau ei hun mawrygu ei hun.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.