主播大秀

Amser

Rhan o wyneb wats

gan R Alun Evans
Bore Mercher Rhagfyr 30 2009

Gobeithio i chi gael amser da dros y Nadolig. I rai - er gwaetha popeth.

Amser da; colli amser; lladd amser; gwneud pethau yn eich amser da eich hun ... y diog ag 'amser ar eu dwylo' tra bo'r pwyllog yn 'cymryd ei amser.'

Ystyr amser

Dyw 'amser' ddim yn golygu'r un peth i bawb. Weithiau y mae amser yn golygu 'byth'.

"Rhag taro ohonot un amser dy droed wrth garreg," tra bo ystyr "unwaith yn y pedwar amser" yn golygu 'achlysurol.'

A dyma ninnau ddiwedd Rhagfyr yn mesur amser, nid yn nhermau munudau ac eiliadau - fel sy'n ofynnol i ddarlledwyr - ond yn nhermau misoedd a blwyddyn.

Edrych yn 么l. Dyna'r ffasiwn. Dyna'r demtasiwn. Cofio uchafbwyntiau blwyddyn; degawd hyd yn oed.

Edrych yn 么l. Mae'n llenwi colofnau papurau dyddiol, wythnosol; llenwi sgriniau; llenwi tonfeddi'r awyr.

Edrych ymlaen

Beth am edrych ymlaen? I weld sut gellir dygymod 芒'r tywydd, sy'n bwnc trafod dyddiol.

Ond nid halogi'r amgylchedd yn unig sy'n gwneud China yn wlad i'w beio'r bore ma. Mae 'na feirniadu'r wlad honno am anwybyddu iawnderau dynol gan wrthod ap锚l i beidio 芒 chyflawni'r gosb eithaf i smyglwr cyffuriau oedd yn glaf ei feddwl yn 么l y teulu.

Onid yw hi'n anodd bod yn gyson? Mater o fisoedd sy' er y condemnio hallt ar lywodraeth yr Alban, ar gownt iawnderau dynol, am ryddhau un oedd yn marw o gancr.

Edrych ymlaen. I'r gwleidydd - at Etholiad Cyffredinol. Pleidlais. Pobolgrwydd. Addewidion ... sy mor ddiddal ag addewidion blwyddyn newydd.

I'r crediniwr

Edrych ymlaen. I'r crediniwr - a diolch i Undeb yr Annibynwyr am raglen ddatblygu - edrych ymlaen at flwyddyn o agor drysau a chodi pontydd; o newid agweddau a chynnal fflam gobaith.

Wedi blynyddoedd o ddirywiad, i ymroi o'r newydd i wasanaethu Duw. Addewid gwerth ei chadw. Dyna fyddai'n 'flwyddyn newydd dda.'


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.