主播大秀

Gwylio'r gusan

Harri Parri

gan Harri Parri
Bore Mawrth, Ionawr 12 2010

Fy hun, does gen i ddim byd yn erbyn cusanu. Pan fydda rywun yn mynd i'r pictiwrs 'stalwm, yn hogyn, roedd yna wefr o weld rhai o actorion mawr y dydd wrth y gwaith.

A hynny o flaen llond sinema o wylwyr yn y Palladium, ym Mhwllheli, neu'r hen Down-h么l.

Cusan gweinidog

Un peth dw i wedi sylwi'n ddiweddar - ac wrth fynd heibio mae hwn - ydi bod Gweinidogion yr Efengyl, dydw i ddim yn si诺r am Ficeriaid, wedi mynd ati i gusanu mwy ar ferched yn eu cynulleidfaoedd.

A hynny pan fydd y rheini ar eu ffordd allan o oedfa - a heb le i ddianc, a deud y gwir.

Dydw i ddim yn si诺r nag ydi ambell weinidog, hefyd, yn torri Deddf Cydraddoldeb. Mynd am y rhai fenga bydda i'n eu gweld nhw - hanner cant i lawr deudwch. Ond peth arall ydi hynny.

Wedi laru

Ond dwn i ddim be amdanoch chi, ond dw i wedi laru ar weld Iris Robinson - ym mhenawdau'r newyddion ar y teledu - yn rhoi cusan hirhoedlog i'w g诺r drachefn a thrachefn.

Dw i'n gwybod mai'r un gusan ydi hi, yn cael ei hailgylchu dro ar 么l tro ac mae'n debyg mai'r diafol ddaru fy atgoffa i am Jwdas yn rhoi cusan i Iesu yng Ngardd Gethsemane a fynta'n gofyn, "Ai 芒 chusan rwyt ti'n bradychu Mab y Dyn?"

A heddiw eto, mae Peter ac Iris Robinson ar frig y newyddion. Y hi, yn 么l ei g诺r, o dan driniaeth ddwys mewn uned seiciatrig ac yntau, i ddyfynnu Parry-Williams, "fel g诺r ar ddyfroedd hunlle'n methu cyrraedd glan".
Dyna be ydi trasiedi.

Dau beth

Mae yna ddau beth yn mynd drwy fy meddwl i'r bore yma.

Yn gyntaf, dydi hi'n braf bod yn fawr neb. Druan o selebs neu wleidyddion; un cam o'i le ac mae'r wasg yn eu croeshoelio nhw'n gyhoeddus.

A dyma ichi beth arall - y dieuog sydd i fod i daflu'r garreg gyntaf. Pechod parod ydi hunan gyfiawnder.

A lle mae hynny yn y cwestiwn, y ni, grefyddwyr, sy agosaf at yr erchwyn o neb. Wel ni, a gwleidyddion!


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.