主播大秀

iPad a Tony Blair!

Cyflwyno'r  iPad newydd

gan Huw Tegid
Bore Iau, Ionawr 28, 2010

Wel, i'r rhai ohonoch chi sy'n ymddiddori mewn pethau technolegol, mae'r teclyn hir ddisgwyliedig wedi cyrraedd.

Am chwech o'r gloch neithiwr yng Nghymru, neu ddeg o'r gloch y bore yng Nghaliffornia, dadorchuddiodd cwmni Apple ei declyn diweddaraf, yr iPad.

Rhaid ei chael

O'r hyn rydw i'n ei ddeall, dyma'r ddyfais ddiweddaraf y bydd pawb yn dymuno ei chael. Yn wir, dyma'r ddyfais y bydd yn rhaid i bawb ei chael os credwch chi beth mae rhai pobl yn ei ddweud.

Mae'r iPad rywle yn y canol rhwng gliniadur a ff么n boced, yn ddyfais hwylus y gallwch chi ei chario gyda chi i ble bynnag yr ewch chi.

Drwy gyfrwng rhywbeth meinach a llai o faint na phad ysgrifennu A4, mi fyddwch chi'n gallu darllen pob math o bapurau newydd a llyfrau digidol, chwarae gemau, gwylio fideos a dyn a 诺yr faint o bethau eraill.

Yn hytrach na chario llyfrgell ar eich cefn, bydd y cyfan i'w gael ar y teclyn hwn.

Holi Blair

Tua'r un adeg ag yr oedden nhw'n dadorchuddio'r ddyfais hon, draw yn Nghanolfan Gynadledda'r Frenhines Elizabeth yn Llundain roedden nhw'n tynnu tua therfyn diwrnod arall o holi a stilio rhai o weision a chyn weinidogion y Llywodraeth ynghylch cyfreithlondeb y rhyfel yn Irac.

Fory, mae disgwyl i'r cyn Brif Weinidog, Tony Blair, ddod gerbron y pwyllgor archwilio, a rhoi ei farn yntau ar y cwestiwn tyngedfennol - a oedd hi'n gyfreithlon mynd i ryfela yn Irac?

Eisoes, mae cannoedd wedi sicrhau eu lle yn ystafell y gwrandawiad i glywed yr hyn fydd ganddo i'w ddweud.

Tybed fydd o'n gallu perswadio'r rhai a fydd yn ei holi o bod arfau dinistriol o fewn cyrraedd Saddam Hussein a'i gyfundrefn, ac mai lle Prydain ac America oedd mynd yno ar eu liwt eu hunain, waeth beth oedd gan y Cenhedloedd Unedig a mwyafrif y boblogaeth yma ym Mhrydain i'w ddweud?

Dalen l芒n

Pan ddaw'r holi i ben, tybed a fydd dalen Tony Blair yn l芒n?

Os mai dalen bapur fydd honno, gobeithio y bydd o'n sylweddoli un peth. Pan fyddwch chi'n gwneud eich marc, er gwell, er gwaeth, fe fyddwch chi'n gallu gweld 么l hynny ar dudalen nesaf y pad.

Os mai dalen mewn pad digidol fydd ganddo, a fydd y ddalen honno'n berffaith l芒n, ynteu a fydd yr i-Pad yn tueddu i ddod 芒'r gorffennol yn 么l o'i gof helaeth?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.