主播大秀

Thomas Paine

Thomas Paine

gan Bethan Mair
Bore Gwener, Ionawr 29 2010

Heddiw fyddai dydd pen-blwydd y meddyliwr mawr o oes y Chwyldroadau, Thomas Paine.

Efallai mai ei gyfrol The Rights of Man yw'r peth enwocaf a ysgrifennodd Thomas Paine ond roedd ganddo farn gref iawn am grefydd gyfundrefnol hefyd.

Dim ond chwech

Yn wir, erbyn iddo farw yn 1809 yn yr Unol Daleithiau, roedd wedi digio cynifer o bobol gyda'i wrthwynebiad i drefniadaeth eglwysi a chrefyddau mai dim ond chwech o bobl ddaeth i'w angladd.

Wn i ddim beth a ddywedai Paine petasai'n gwrando ar sylwadau rhai o Gristnogion honedig America yr wythnos hon, dynion eithafol sydd wedi bod yn bwrw'r bai am drychineb Haiti ar ben trigolion y wlad honno fel cosb gan Dduw.

Ac eto, efallai mai ailadrodd yr hyn ddywedodd e yn y ddeunawfed ganrif wn芒i'r g诺r, sef bod credu mewn duw creulon yn creu dynion creulon.

Ie, i ble aeth Duw cariad yw, dwedwch?

Yn gyfartal

Thomas Paine biau'r geiriau hyn hefyd:
Rwy'n credu bod dynion yn gyfartal, bob un; ac rwy'n credu bod gwneud ein dyletswydd crefyddol yn golygu gwneud iawn, caru trugaredd ac ymdrechu i wneud ein cyd-ddyn yn hapus.

Er gwaetha'r dioddef a'r tlodi enbyd sy'n cael ei ddangos ar y teledu bob dydd, mae'n werth cofio bod pobl Haiti yn gyfartal 芒 ni. Maen nhw'n teimlo poen fel ni, maen nhw' anghenus am yr un pethau 芒 ni. Ac, yn y pen draw, yr un duw sydd ganddyn nhw ag sydd gennym ni. Beth yw ein dyletswydd crefyddol ni iddyn nhw?

Deiseb

Mae gan Gymorth Cristnogol ddeiseb ar y we yn gofyn i'r gwladwriaethau mawr ddiddymu dyled Haiti fel gweithred gadarnhaol i ailadeiladu'r wlad.

Yn ogystal 芒 rhoi arian i leddfu poen heddiw, rwy wedi torri fy enw y ddeiseb yn y gobaith o leddfu poen fory.

Fel y dywedodd Thomas Paine, os oes rhaid cael helynt, boed iddo ddigwydd yn fy nyddiau i, fel y gall fy mhlant fyw mewn hedd.

Roedd Paine yn ddyn o flaen ei amser, ond wn i ddim faint o bobol ddoi i'w angladd e yn yr Unol Daleithiau heddiw chwaith.

Trueni na allai mwy o bobl ddweud fel y gwnaeth ef: "Y byd yw fy ngwlad, a gwneud daioni yw fy nghrefydd."


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.