主播大秀

Maint y byd

Y Byd

gan Beti-Wyn James
Bore Llun, Chwefror 1 2010

Fues i erioed yn un dda iawn am wneud syms!

O ganlyniad, fues i erioed yn hyderus iawn pan ddaw'n fater o weithio allan fesuriadau rhywbeth ac fe ges i'n nhaflu i ddryswch llwyr pa ddydd pan ofynnwyd imi gan un o'n merched ni, "Beth yw maint ein byd".

Wel 'na chi gwestiwn! Beth yw maint ein byd? Sut mae mesur maint ein byd? Yn 么l y filltir? Yn 么l uchder ei fynyddoedd neu ddyfnder ei foroedd?

Wedi mynd yn fach

Mae'n naturiol ein bod, wrth fesur rhywbeth, yn meddwl yn nhermau milltiroedd neu gilometrau ond does gen i ddim syniad beth yw mesuriadau'r byd!

Beth bynnag yw ei fesuriadau, caf y teimlad fod y byd rywfodd wedi dod yn fyd bach iawn.

Daeth y byd, trwy gyfrwng y radio a'r teledu, i mewn i'n cartrefi, i'n stafelloedd byw.

Gwelwn, o gysurwch ein cadeiriau esmwyth, bopeth yn digwydd o flaen ein llygaid. Cawn wasgu botymau heb godi o'r gadair a gwibio o un cyfandir i'r llall.

A maint ambell sgr卯n deledu'n droedfeddi yn hytrach na modfeddi, ynghyd 芒 sain stereo ym mhob cornel o'r 'stafell fe glywn yn gliriach nag a ddymunwn o bosib bob sgrech a ddaw o enau pob plentyn bach yn Haiti a phob clec o bob gwn yn Affganistan.

Clywir wylofain yn nistawrwydd yr orymdaith yn Wooton Basset wrth i hers arall weu ei ffordd ar hyd y strydoedd.

Do, aeth ein byd yn fyd bach iawn.

Maint ein tosturi

Ond beth yw maint ein tosturi tuag at y byd? Beth yw maint ein hewyllys da?

Fe'n hanogwyd i gyfrannu'n hael er mwyn estyn cymorth i bobl Haiti wedi'r ddaeargryn a ysgydwodd eu gwlad.

A gyfrannoch chi at yr Ap锚l? Do? Naddo? Os naddo, dyw hi ddim yn rhy hwyr. Os do, mae na gyfle i roi eto.

Siawns bod y sgriniau hynny y syllwn arnynt ym moethusrwydd ein hystafelloedd byw werth mwy o lawer yn ariannol na'r hyn a gyfrannwyd gennym at yr Ap锚l.

Na, fues i erioed yn dda am wneud syms ond gwn yn iawn beth yw gwerth bywyd unigolyn.

Ac er na wn i ddim beth yw maint y byd mewn milltiroedd gwn yn iawn beth ddylai fod maint ein tosturi tuag at ei bobl.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.