主播大秀

Cydweithio gwleidyddol

Syr Emyr Jones Parry

gan Aled Edwards
Bore Mawrth Chwefror 2 2010

Pennau bach sy'n mesur eraill oddi wrth gr诺p mewn gwleidyddiaeth. Mae'n gamgymeriad mawr.

Union wythnos yn 么l roeddwn mewn tr锚n ar y ffordd i D欧'r Cyffredin yn Llundain. Mae'n debyg taw rhoi tystiolaeth ar berthynas San Steffan a'r Cynulliad fyddai fy ngwaith olaf ar ran Confensiwn Cymru Gyfan.

Fel arfer, roedd yn braf mwynhau cwmni a meddwl anhygoel Syr Emyr Jones Parry.

Greddfol anghytuno

Roeddwn hefyd yn edrych ymlaen at weld Ceidwadwr y b没m yn gweithio'n arbennig o agos gydag o ar y Confensiwn, Paul Valerio.

Gadewch imi fod yn onest. Dwi wedi treulio bywyd cyfan yn reddfol anghytuno 芒 sawl peth o eiddo'r Ceidwadwyr, ond fe drodd y Confensiwn, mewn modd cwbl ryfeddol, yn gr诺p o gyfeillion wrth drafod y dadleuol gyda'r gwahanol.

Mewn amser gwirioneddol wael i wleidyddiaeth, fe adferodd fy ffydd yn egwyddorion hen ffasiwn, ond da, gwasanaeth cyhoeddus.

Fe aeth un ar bymtheg o bobl wahanol yn ddi-d芒l i gyflawni gorchwyl ar ran y cyhoedd.

Dysgu llawer

Wrth dderbyn tystiolaeth o bob rhan o Gymru fe wnes i hefyd ddysgu llawer mwy am fy ngwlad fy hun.

Roedd gweithio 芒 th卯m y staff yn bleser ac yn fwyaf oll, fe wnes i ffrindiau newydd - ond ffrindiau gwahanol.

Byddai rhai yn trin aelodau seneddol fel gr诺p unlliw ac yn arbennig y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Mae Aelodau'r Cynulliad yn gr诺p arall meddai eraill. Nid felly'r gwirionedd.

Ta waeth, cawsom ein holi am awr a hanner ond fe aeth y cyfan heibio'n rhwydd.

Tu draw i'r ystrydeb

Ymysg llu o bethau, awgrymwyd y dylem fod wedi cynnwys diagram ar sut mae Mesur Seneddol yn gweithio. Cafwyd parodrwydd ar ein rhan ninnau y gallai ambell beth - dim byd mawr - fod wedi cael ei fynegi'n fwy eglur.

Yn fwy na dim yn y Pwyllgor Dethol, gwelodd pobl o argyhoeddiad yn dda i weld tu hwnt i'r ystrydeb a chanfod modd i gytuno ar sut i anghytuno ac i geisio argyhoeddi.

Fe wnes addewid na fyddwn yn dweud unrhyw beth pellach ynghylch cynnal refferendwm cyn i'n gwleidyddion gynnig penderfyniad ond, dwi am fod yn ofalus.

Meddwl wnes i taw'r buddugwyr mewn unrhyw refferendwm fydd y rhai sy'n gweld unigolion fel rhywbeth amgenach nag ystrydebau mewn gr诺p.

Y ddawn i'r naill ochr neu'r llall fydd argyhoeddi'r gwahanol. Amser a ddengys.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.