主播大秀

Gwyddonwyr

Protestwyr newid hinsawdd yn Copenhagen

gan Hefin Jones
Bore Iau, Chwefror 4 2010.

Achub cam gwyddonwyr

Nid yw'n amser cyfforddus i wyddonwyr! Mae'n ymddangos bod pawb wrthi'n ddygn yn chwilio am wendidau - boed yn y brechiad triphlyg neu mewn tystiolaeth am newid yn yr hinsawdd.

Yn wir, cred rhai bod gwyddonwyr yn meddwl eu bod yn anffaeledig, yn gwybod y cyfan a byth yn gwneud camgymeriadau!

Er treulio dros 30 mlynedd yn y byd gwyddonol 'rwyf eto i gyfarfod a'r fath wyddonydd!

Darganfod a chwilio

Amcan gwyddoniaeth yw darganfod a chwilio allan. O ddarganfod rhywbeth heddiw, yfory bydd fy nghyfoedion yn mynd ati i'w wirio neu ei wrthbrofi. Dyna hanfod gwyddoniaeth.

Nid rhywbeth statig, llonydd yw, ond rhywbeth byw a deinamig sy'n derbyn bod yna gamgymeriadau a chamddealltwriaeth, ac, yn anffodus, heb unrhyw fwriad, bod yna weithiau gam wybodaeth yn ymddangos.

Anaml y clywir gwyddonydd yn dweud ei fod yn hollol bendant - s么n am debygrwydd ffenomenon a wna.

Un frawddeg!

Yn ystod yr wythnosau diwethaf clywsom am ddata camarweiniol yn deillio o'r Ganolfan Ymchwil Newid Hinsawdd. Ddoe, ar Dweud eich Dweud soniwyd am wendid yn y darogan am rewlifau mynyddoedd yr Himalayas.

Un frawddeg gamarweiniol mewn adroddiad dros 3, 000 o dudalennau o hyd!

Ychydig cyn y Nadolig bum mewn cynhadledd ar newid hinsawdd. Dangosodd un o'r cynadleddwyr, g诺r o Kirabati yn y M么r Tawel, lun o'i wyres yn pwyntio allan i'r m么r. Pwyntio oedd at yr ynys lle ganwyd ei thad-cu hanner can mlynedd yn 么l; man sydd bellach dros droedfedd o dan donnau'r m么r.

Dynol ydyn nhw!

Ydy, mae gwyddonwyr yn gwneud camgymeriadau - dynol ydynt!. 'Rwy'n derbyn nad yw pob gwyddonydd yn dilyn y broses wyddonol o weithredu bob amser.

Mae gwyddonwyr hefyd yn newid eu damcaniaethau. Yng nghyd-destun newid hinsawdd mor hawdd defnyddio'r fath gamgymeriadau a cham ddehongliad fel rheswm ac esgus i beidio gwneud dim!

Mor hawdd dilorni gwaith ymchwil miloedd o wyddonwyr i sicrhau esmwythfyd.

I Baranite Karita a'i wyres o Kiribati mae newid hinsawdd yn real iawn - rhoi halen ar y briw yw tynnu sylw o'r gwirionedd sylfaenol a phellgyrhaeddol hwnnw.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.