主播大秀

Dyledion Haiti

gan Branwen Niclas
Bore Gwener, Chwefror 5 2005

Cynhadledd lle'r pysgod

Gwisgo siwmperi cynnes yn hytrach na siwtiau yw'r cyngor swyddogol ar gyfer gweinidogion cyllid gwledydd yr G7 sydd yn cwrdd yng Nghanada dros y deuddydd nesaf.

Mae 'na ddadlau pa mor berthnasol yw'r G7 a'u trafodaethau erbyn hyn - ac yn 么l rhai o'r gwahoddedigion dyw lleoliad ac amgylchiadau'r cyfarfod hwn ddim yn helpu pethau.

Cynhelir y cyfarfod heb fod nepell o'r Cylch Artig mewn dinas o'r enw Iqaluit.

Ei ystyr yn yr iaith frodorol, Inuktitut ,yw "Lle yn llawn o bysgod" ac ni ellir ond cyrraedd yno ar awyren neu gwch.

Mae'n lle prydferth a diarffordd - a rhy oer i dyfu coed. Dim rhyfedd, felly, eu bod yn annog pobl i ddod 芒 dillad cynnes gan fod disgwyl i'r tymheredd yno fis Chwefror fynd cyn ised ag 20 gradd o dan y rhewbwynt.

Gwneud sioe

Ac mae Canada wedi penderfynu gwneud sioe a hanner ohoni - festiau a menig morlo yn anrhegion i'r cynrychiolwyr. Slej a ch诺n fydd yn mynd a'r gwleidyddion am wibdaith y prynhawn 'ma a thrafod o gwmpas y t芒n fyddan nhw fory yn hytrach nac o gwmpas y bwrdd.

Tra'n gloddesta ar gig morlo (wir - peth amrwd ac wedi coginio) bydd sefyllfa Haiti yn cael ei thrafod.

Cyflwyno deiseb

Ac o flaen y Trysorlys yn Llundain ddoe cyflwynwyd deiseb o 15,000 o enwau i Alistair Darling cyn iddo gychwyn ar ei daith yno, yn pwyso arno i alw ar ei gyd gynrychiolwyr i wneud safiad i alw am ddileu dyledion Haiti yn ddiamod.

Oherwydd tlodi eithafol Haiti, canslodd llywodraeth Prydain ddyledion Haiti yr haf diwethaf ac felly dylai'r Canghellor fod mewn sefyllfa gref i ddylanwadu ar arweinyddion rhyngwladol eraill i alw am yr un peth.

Roedd gan Haiti ddyled o $890 miliwn pan chwalwyd y wlad gan y daeargryn. Yr wythnos diwethaf rhoddodd yr IMF fenthyciad arall gwerth $102 miliwn i Haiti, gan gynyddu'r baich i bron $1 biliwn.

Yw hi'n deg?

A yw hi'n deg disgwyl i wlad dlotaf hemisffer y gorllewin dalu $50 miliwn y flwyddyn yn 么l i'r IMF a gwledydd cyfoethocaf y byd?

A yw hi'n deg mai'r cyhoedd sy'n mynd ati'n gydwybodol i drefnu cyngherddau a boreau coffi er mwyn helpu pobl gyffredin Haiti tra bo arweinwyr y byd yn ymddwyn fel hen gasglwyr dyledion annifyr yn manteisio ar genedl mewn galar ac ymelwa ar ei thrallod?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.