主播大秀

Cadw cyfrinach

Aled Edwards

gan Aled Edwards
Bore Mawrth, Chwefror 23, 2010

Peidio dweud wrth neb ond . . .

Fe wnes i feddwl llawer ddoe am beth ydi ystyr cadw cyfrinach.

Dywedodd rhywun taw'r diffiniad Cymreig o gadw cyfrinach yw "dweud wrth un person ar y tro."

Yn drist iawn, mae hynny'n rhy wir nid yn unig ohonom ni fel Cymry ond o bawb arall hefyd. Y mae torri cyfrinach yn weithred ddifrifol.

Gadewch inni fod yn onest. Faint ohonom ni sy'n dechrau sgyrsiau gyda geiriau fel: "Peidiwch 芒 dweud wrth neb, ond . . ."?

Y mae bron yn wahoddiad i dorri cyfrinach.

Cyfrinachau corfforaethol

Ceir eithriadau dilys. Weithiau ceir cyfrinachedd corfforaethol lle mae gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo nid i unigolyn ond i gyrff - banciau, ysgolion neu gyflogwyr dyweder.

Y mae hynny'n berffaith iawn cyhyd ag y bo'r unigolyn sy'n rhoi'r wybodaeth yn deall hynny.

Cyfrinachau offeiriaid

Beth am yr hen ysgyfarnog arall honno? Beth fyddwn i yn ei wneud pe byddai rhywun yn dweud wrtha'i fel offeiriad mewn cyffes ei fod am wneud niwed i rywun - i blentyn efallai?

Y mae'r ateb yn glir. Byddai'n rhaid i mi ddweud wrth y sawl sydd ar fin gwneud niwed i rywun arall y byddwn yn gorfod dweud wrth rywun arall. Byddai'n rhaid imi ddweud y byddwn yn dweud.

Y mae cadw cyfrinach yn bwysig: y mae diogelu bywyd yn bwysicach.

Yn Downing Street

Dwi ddim yn gwybod beth fu'n digwydd o gwmpas Downing Street yn ddiweddar. Y mae bwlio mewn unrhyw gyswllt yn annerbyniol. Ar gyfer pethau o'r fath y mae'n rhaid wrth bolis茂au a phrosesau sydd nid yn unig yn diogelu'r sawl sy'n gwneud y cyhuddiad ond gwrthrych y cyhuddiad hefyd.

Fe ddioddefodd sawl un o fwlio a chamdriniaeth dros y blynyddoedd: fe ddioddefodd sawl un arall o gael eu cyhuddo ar gam hefyd.

Nid gweithredoedd niwtral yw cyhuddo na chynnal ymholiadau ychwaith. Yn sicr ddigon, nid digwyddiad niwtral yw gwneud cwynion honedig yn gyhoeddus.

Ddoe, fe ddaeth hunangofiant Dave Jones, rheolwr t卯m p锚l-droed Caerdydd i'r cof, wedi iddo gael ei gyhuddo ar gam: No Smoke: No Fire ydi teitl y llyfr. Er y dyfarnu'n ddieuog: y mae'r graith yn aros am byth.

Llinell gymorth

Ddoe, fedrwn i ddim deall yr hyn a wnaeth Christine Pratt, Prif Weithredwr y National Bullying Helpline.

Y mae ffonio llinell gymorth yn weithred o ymddiriedaeth ni ddylid ei thorri.

Tu hwnt i hynny, y mae gwneud unrhyw gwyn yn hysbys yn medru bod yn ffordd hynod o effeithiol o ofalu na chaiff y cyhuddwr na'r cyhuddedig unrhyw gyfiawnder byth.

Y mae'n rhaid glynu wrth brosesau tegwch am resymau da.

Tu hwnt i gwestiwn y cwynion honedig, y mae un peth arall mawr o bwys yn fy mhoeni i.

Tydi'r peth ddim yn gyfrinach. Dwi ddim yn cofio cyfnod arall pryd y suddodd ein gwleidyddiaeth ni i'r fath raddau. Duw a'n helpo ni wrth i'r etholiad cyffredinol agos谩u.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.