主播大秀

Sbring clinio

Glanhau

gan Elfyn Pritchard
Bore Iau, Mawrth 11 2010

Tymor y glanhau

Den ni wedi cael gaea hir eleni ond mae'r gwanwyn wrth y drws a phawb wrth eu bodd am hynny.

Fyddwn i ddim erstalwm. Yn un peth roeddwn i wrth fy modd efo'r gaea, efo rhew ac eira, yn enwedig yr eira, a doeddwn i ddim isho'i weld o'n dod i ben.

Ond y rheswm penna oedd am fod rhyw chwiw rhyfedd o'r enw spring clinio yn cydio yn fy mam ac ym mhob mam arall amwni.

A spring clinio dio di bod i mi erioed, nid glanhau gwanwynol.

Gole'r gwanwyn

A gair da ydi o hefyd am rywbeth dwi wedi'i gas谩u erioed. Gole'r gwanwyn a'i haul yn dangos y llwch oedd ym mhobman ac yn dangos mor fudur oedd pob twll a chornel ar 么l gaea hir - dene'r esgus beth bynnag am yr holl llnau gwyllt.

Ac nid llnau yn unig, peintio a phapuro hefyd a chan nad oedd gynnon ni'r modd i dalu i rywun ddod i mewn i neud y gwaith, nhad fydde'n papuro ac yn barticlar a blin fel tincar pan fydde fo wrthi.

Ond roedd mwy i sbring clinio na llnau. Roedd ne daflu ymaith hefyd. Gwagu drorie a chypyrdde a chael gwared o lanast a sbwriel oedd wedi hel yn ystod y flwyddyn.

Beth i'w luchio

A mi fydde'n rhaid i mi neud hynny, licio neu beidio. Y broblem oedd be i'w luchio a be i'w gadw. Ac mae hi'n broblem o hyd.

Yn ddiweddar roeddwn i yn yr oriel ardderchog sy yn y ganolfan greffte yn Rhuthun ac yno ar y wal roedd dyfyniad gan William Morris, y cynllunydd a'r artist enwog o Sais o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, un y mae ei grefftwaith yn addurno llawer wal mewn llawer cartref hyd heddiw.

Dyma'r dyfyniad - un addas iawn ar gyfer spring clinwyr:

"Peidiwch cadw yn eich t欧 ddim oni bai ei fod yn ddefnyddiol neu'n hardd."
Da, ynte?

gwerth gwrando

Ac mi greda i ei fod o'n gyngor gwerth gwrando arno ar gyfer pob sbring clinio ac nid sbring clinio stafelloedd ein tai yn unig ond stafelloedd ein meddwl hefyd.

Taflu ymaith hen feddylie dinistriol ac aflednais, yr hen awydd i gael y gore ar rywun, i ddial ar rywun, barn wael am bobol erill, hen sbwriel bwriade hunanol, hen awch am sylw a llwyddiant materol.

A chadw y defnyddiol a'r hardd, yr agwedde iawn at fywyd pob dydd ac at ein diwylliant, at bobol ein cymunede a'n cymdeithas, ac at ddynoliaeth hefyd.

Hwyl i chi ar y spring clinio.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.