主播大秀

Dydd Sant Padrig

Dathlu Sant Padrig

gan Marcus Robinson
Bore Mercher, Mawrth 17 2010

Pa ffordd well i gychwyn diwrnod Sant Padrig na s么n am gysylltiad newydd rhwng Cymru ac Iwerddon?

Mae'r gwaith paratoi wedi dechrau yn Y Fflint lle maent yn agor y tir i osod pibellau a fydd cyn bo hir yn cario gwifrau trydan tanddaearol.

Ni fydd yr holl brosiect wedi' gwblhau tan ganol 2012 pryd y gwelir gwifrau yn rhedeg tan y m么r o Brestatyn ar arfordir y Gogledd i Iwerddon - rhyw 160 o filltiroedd ar eu hyd.

Cyfnewid p诺er

Pwrpas yr holl waith yw sicrhau fod cyfle i'r naill wlad gyfnewid p诺er a'r llall mewn cyfnodau o angen ac argyfwng.

Mae digon o nerth yn y gwifrau i gario 500 megawat - hynny yw, digon i gadw 300,000 o dai mewn trydan.

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn rhoi 拢100m tuag at yr holl gost sydd ar hyn o bryd yn 拢540m.

'Rwy'n si诺r y bydd rhywun yn beirniadu y fath wario mewn cyfnod o gyni ond rhaid cofio mai cyswllt fydd yn para am amser maith fydd y gwaith hwn.

Dipyn o fynd a d诺ad

Da cofio bod yna dipyn o fynd a d诺ad wedi bod rhwng Cymru ag Iwerddon ers cyn dyddiau'r Mabinogi.

Ar y diwrnod hwn gweddus cofio mai Padrig ei hun oedd un o'r rhai mwyaf pwerus ei ddylanwad a gafodd ei allforio o Gymru.

Yn ddigon naturiol mae ambell i g锚m ryngwladol yn medru creu tyndra am gyfnod ond diolchwn fod perthynas y ddwy genedl yn un wresog a chyfeillgar.

Ysgwn i be fuasai'r hen saint yn ei wneud o'r newyddion fod modd trosglwyddo p诺er y ddwy wlad o dan y m么r a'i donnau? Yn sicr y byddant yn croesawu y llif o gymorth o un i'r llall.

Yn croesawu

Mae sefydlu pob cysylltiad newydd yn gofyn am ymdrech a chost ac efallai wrth groesawu'r datblygiad fod lle i feddwl am y berthynas rhyngom a'n gilydd.

Buasai Sant Padrig yn si诺r o groesawu unrhyw ymdrech newydd i sefydlu cyswllt gwresog a phwerus 芒'n cymdogion.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.