主播大秀

Gwylio pawb

Camera

gan Lona Roberts
Bore gwener, Mawrth 19 2010

Wela i a'n llygad bach i, rhywbeth yn dechrau ag "C".

  • Coed? - Wel, falle, dy nhw ddim wedi blaguro eto ody nhw? Ma nhw'n foel o hyd. Na, nid coed, treia eto.
  • Ceir? - Wel, mae digonedd o rheiny abwyti'r lle, ond na, nid dyna oedd ar y meddwl i.
  • Cwmwl? - Oes, mae na gwmwl yn yr awyr a does dim un wedi bod yn ddiweddar oes e, y tywydd yn fendigedig o ffein. Treia eto!
  • Cath? - O, edrycha ar honna, mae'n un fach bert yn dyw hi? Na, trueni, cynnig da.
  • Ci te? - Maen nhw a'u perchnogion mewn trwbl y dyddiau hyn, yn d欧n nhw? Wyt ti'n meddwl y bydd angen 'swiriant ar y perchnogion i gyd am fod rhai c诺n yn ffyrnig ac yn ymladd ac yn ymosod? Na, nid ci, treia eto.
  • Corryn? - Does dim pry cop fan hyn. Wyt ti'n bod yn ddwl nawr.

Wel, beth yw e te? Wyt ti'n dewis rhai rhy galed i fi.

Ond maen nhw abwyti'r lle i gyd, wyt ti'n ddall neu rywbeth?

Wy ddim yn mynd i chwarae 'da ti eto. Beth yw e?

Wel Camera wrth gwrs, maen nhw abwyti'r lle ymhob man. Degau ar ddegau ohonyn nhw, ym mhob twll a chornel. Gwena, rwyt ti ar y camera, mewn awyrle, gorsaf, bws, siop, wrth grwydro'n ddidaro o ffenest i ffenest.

Er ein lles?

Paid 芒 bod yn paranoid, er dy les di maen nhw.

Paid ti 芒 bod mor ddiniwed a na茂f, maen nhw hyd yn oed mewn ysgolion!

Beth? Gad dy gelwydd!

Ma nhw'n gwylio plant ar yr iard, yn dal eu sgyrsiau nhw a'u symudiadau nhw. Mae o leiaf ugain camera yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd.

Wyt ti'n ei gor-ddweud hi nawr.

Wel, ma fe'n digwydd yng ngogledd-orllewin Lloegr a dyw'r plant ddim yn gwybod.

Odi hwnna'n gyfreithlon?

Wy ddim yn gwybod, mond dweud 'tho ti ydw i.

Wel, wy ddim yn mo'yn whare rhagor. Wela ti cyn bo hir. Hwyl!


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.