主播大秀

Rhwng dau gae

Cae'r Oval Caernarfon

gan Marcus Robinson
Bore Mercher, Mawrth 24 2010

Cae i'r plant

Mae cael lle ac amser i chwarae yn bwysig i blant ac oedolion.

Braf, felly, oedd clywed am haelioni ffermwr lleol o'r enw Robin Gruffydd yn rhoi hanner acer o dir ei fferm i Ysgol Felinwnda ger Caernarfon.

Er 1894, pan sefydlwyd yr ysgol ar y safle, mae pob g锚m b锚l-droed neu ddiwrnod mabolgampau wedi bod yn y pentref nesa, Saron, ac ar amser chwarae 'roedd y plant yn gorfod aros ar fuarth yr ysgol.

"Mae'n bur debyg ein bod wedi aros am dros gan mlynedd," meddai Carys Thomas, pennaeth yr ysgol. "Bydd yn wych o ran datblygiad y plant yn gorfforol ac adnoddau eraill fel gardd."

Cae p锚l-droed

Os diolch sydd yn Llanwnda am haelioni un dyn yn rhoi cae, pryderon sydd yn hen dref Caernarfon am gefnogaeth i gae chwarae hanesyddol yr Oval.

Mae'n rhaid i mi ddatgan diddordeb personol gan i mi gael fy ngeni a'm magu rhyw gan llath oddi gae clwb p锚l-droed Caernarfon sydd wedi ei chael yn anodd yn ddiweddar ar ac oddi ar y cae.

Maen nhw wedi mynd i ddyledion a wynebu dirwyon gan Gymdeithas P锚l-droed Cymru.

Ychydig wythnosau'n 么l edrychai pethau'n ddu iawn nes daeth criw o gefnogwyr at ei gilydd i geisio achub y clwb.

Meddai Arfon Jones, y cadeirydd newydd: "Rydan ni'n ail adeiladu efo criw o chwaraewyr lleol - dyna oedd bobl dre 'isio."

Dibynnu ar ewyllys da

Hyd yma bu'r gefnogaeth yn dda iawn a rheolwyr y clwb yn dweud eu bod nhw yn mynd i fod yn dibynnu ar ewyllys da'r chwaraewyr a phobl y dref am beth amser.

Wrth ystyried dau gae chwarae gwahanol eu natur braf clywed am haelioni ac ewyllys da yn gwneud gwahaniaeth.

Efallai fod mwy o gyfle ar gael nag 芒 sylweddolwn weithiau i newid ein sefyllfa leol drwy sicrhau fod yna le i chwarae a chefnogi ein gilydd


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.