主播大秀

Darganfod Cristnogaeth

Rhan o glawr llawlyfr Darganfod Cristnogaeth

gan Geraint Morse Bore Iau Ebrill 15 2010

Mae nifer o gyrsiau ar gael i gyflwyno'r Ffydd Gristnogol mewn ffordd gynhwysfawr a dealladwy. Yn eu plith mae'r cwrs Alffa, Cwrs Emaus a Darganfod Cristnogaeth.

Dwi'n dechrau cwrs Darganfod Cristnogaeth mewn dau bentre' yr wythnos nesa; pentre' Peniel, lle dwi'n byw a phentre' Llanpumsaint, lle dwi'n weinidog.

Er mwyn hysbysebu'r cyrsiau hyn dwi wedi argraffu posteri a flyers a rhoi hysbysebion yn y papur bro a'r papur lleol wythnosol.

Yn ogystal, mae rhai o ffyddloniaid yr achos a minnau wedi bod yn cerdded y strydoedd a'r heolydd yn cnocio ar ddrysau ac yn gwahodd pobl yn bersonol i ddod i ddarllen y Beibl, a hynny, yn y Gymraeg.

Mae'r ymatebion wedi bod yn amrywiol iawn. Dyma ddetholiad.

  • "What do you want?"
  • "Pam na wnewch chi e'n Saesneg er mwyn i bawb ddeall?"
  • "Dwi lawer rhy fisi!"
  • "Sori, dim diddordeb."
  • "Dwi'n mynd i'r eglwys yn barod."
  • "Dwi lawer rhy hen."
  • "Dwi'n symud i ffwrdd!"
  • "Diw'n Gymraeg i ddim digon da, rwy'n siarad half and half!"

Ond, dwi wedi cael cyfle hefyd i siarad 芒 phobl a gwrando arnynt wrth fynd o ddrws i ddrws.

Mae rhai wedi rhannu gofidiau ac eraill wedi dangos gwerthfawrogiad a chefnogaeth.

Dwi wedi eistedd gyda phobl, sefyll yn yr ardd i edmygu'r rhychau tato, holi am enwau tai a thrafod tynged y gwenyn.

Er fy mod yn gobeithio ac yn gwedd茂o y bydd pobl yn dod i ddilyn y cwrs Darganfod Cristnogaeth, rwy'n sylweddoli bod yn rhaid i bobl ddarganfod Crist ynof fi.

Mae'n bosibl na fydd llawer yn dod i ddarllen y Beibl ond maent yn fy narllen i bob dydd, a phob Cristion arall sy'n arddel ffydd yn Iesu.

Daw geiriau un pennill o'r emyn Dod ar fy mhen i'r cof:

Dod i mi galon well bob dydd, A'th ras yn fodd i fyw
Fel bo i eraill drwof fi, Adnabod cariad Duw.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.