主播大秀

Dan gwmwl

Cymylau

gan Elfed ap Nefydd Roberts
Bore Mawrth Ebrill 20 2010

Sbel yn 么l, a ninnau ar ymweliad ag Ynys Sicily, fe brynais i gerflun bychan o Iesu Grist.

Mae'n gerflun cywrain, wedi ei naddu, neu ei foldio, allan o lafa o losgfynydd Etna.

Y tro diwethaf i Etna ffrwydro dinistriwyd sawl pentre a channoedd o dai ac yr oedd yn syndod i mi fod rhyw gerflunydd wedi cymryd deunydd mor ddinistriol 芒 lafa i wneud portread o Grist.

Trafferthion i filoedd

Yr un deunydd, ond ar ffurf lludw, sy'n cael ei chwydu i'r awyr o'r llosgfynydd yng Ngwlad yr I芒 ar hyn o bryd gan achosi trafferthion i gannoedd o filoedd o deithwyr am mai peth peryglus ydi hedfan awyrennau drwy gymylau o ludw folcanig.

Mae 'cwmwl' wedi'i ddefnyddio erioed fel symbol o argyfwng. Cwmwl ydi profedigaeth pan fydd tywyllwch galar a thor calon yn cau amdanom ni.

Mae dioddef afiechyd blin fel bod dan gwmwl o boen a phryder a phan fo rhywun dan feirniadaeth ac wedi gwneud llanast o bethau fe ddywedwn ei fod o dan gwmwl.

Beth i'w wneud

Sut mae delio 芒 chymylau bywyd? Mae'r teithwyr druan sy'n treulio dyddiau mewn meysydd awyr yn gorfod bod yn amyneddgar a disgwyl i'r sefyllfa wella.

Fedra nhw wneud dim byd arall. A disgwyl yn dawel ac amyneddgar ydi'r unig ffordd i ddelio hefyd 芒 chymylau personol ac emosiynol.

Yn y canol oesoedd fe sgwennodd hen fynach anhysbys glasur ysbrydol o dan y teitl Cwmwl yr Anwybod.

Dim ond disgwyl

Weithiau ryda ni'n cael ein hunain dan gwmwl ysbrydol - yn methu gwedd茂o, yn teimlo'n ffydd yn wan ac yn colli gafael ar Dduw.

Be sydd i'w wneud ar adeg felly?

Ateb yr hen fynach ydi, "Disgwyliwch yn dawel wrth Dduw. Fe fydd y cwmwl yn mynd heibio ac fe ddaw haul ar fryn unwaith eto. Ond rhaid peidio digalonni, na chwerwi, ond aros a disgwyl a gwedd茂o.

"Ac yna, maes o law, fe ddaw wyneb Iesu i'r golwg hyd yn oed drwy'r cwmwl duaf.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.