主播大秀

Prydain ac America

Milwyr

Mae'n si诺r bod y rhan fwya ohonoch chi wedi bod yn dilyn digwyddiadau rhyfeddol y deg diwrnod diwethaf o'r lecsiwn ar Fai 6 hyd ffurfio'r glymblald rhwng y Tor茂aid a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mi gafodd y teledu a'r papurau newydd gynhaeaf toreithiog.

Cryn bryder

Mae 'na un agwedd ar yr hyn sydd wedi digwydd yn gryn bryder i mi.

Cyn yr etholiad roedd y Democratiaid yn cyhoeddi eu bod yn bwriadu atal y taflegryn Trident ond y mae'n amlwg erbyn hyn eu bod wedi gorfod ildio i bolisi'r Tor茂aid i'w gadw.

At hyn eto, fe ddywedir i'r Ysgrifennydd Tramor newydd, William Hague, ymweld 芒'r Merica i gyfarfod Hilary Clinton a chyn mynd fe gyhoeddodd fod Prydain yn bwriadu cadw'n ddi-dor y berthynas arbennig rhyngom a'r Merica, a hynny'n golygu dealltwriaeth am Afghanistan, a'r un agwedd galed tuag at Iran.

Nid oedd yn gweld y byddai hyn yn arwain at ryfel gydag Iran yn y dyfodol agos ond nid oedd am gau allan yn llwyr y posibilrwydd o ryfel arall ryw dro.

Anghyfrifol

Y mae agwedd fel hyn yn achos pryder mawr i unrhyw un ystyriol.

Wrth gwrs, yr ydan ni i gyd yn derbyn y bydd na wasgfa ariannol lem iawn y blynyddoedd nesaf yma ond anghyfrifol ydi awgrymu y gallai bod rhyfel arall ymhen rhai blynyddoedd.

Rydan ni wedi dilyn America yn slafaidd i ddwy ryfel yn barod.

Fe ddylem ni fod yn barod bellach i ddweud digon yw digon ac na fyddwn yn barod i'w dilyn byth eto.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.